Alert Section

Dod yn Feicro-ofalwr

Mae dod yn ddarparwr meicro-ofal yn golygu eich bod chi'n rheoli'r ffordd rydych chi'n gweithio a'r ffordd y mae'ch busnes yn datblygu.

Gall y Tîm Meicro-Ofal gynnig cyfle cyffrous i chi:

  • Ddechrau gyrfa newydd boddhaus a gwobrwyol
  • Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl mewn angen
  • Cefnogi cymunedau
  • Defnyddio’r profiad a’r sgiliau a enilloch wrth fod yn ofalwr di-dâl i eraill
  • Rhedeg busnes a bod yn fos arnoch chi eich hun.

Pam dewis gyrfa fel Meicro-ofalwr?

Mae dod yn ddarparwr meicro-ofal yn golygu eich bod chi’n rheoli’r ffordd rydych chi’n gweithio a’r ffordd y mae’ch busnes yn datblygu. Chi sy’n penderfynu pa wasanaethau rydych chi’n arbenigo ynddyn nhw, beth rydych chi’n ei ddarparu i’ch cleientiaid, pryd rydych chi'n gweithio a chyda pwy. 

Gall bod yn ddarparwr meicro-ofal hefyd roi mwy o foddhad swydd i chi, gan roi cyfle i chi fod yn fwy arloesol wrth ganfod datrysiadau i heriau pob dydd a wynebir gan eich cleientiaid. 

Yn y pen draw, mi fyddwch chi’n galluogi pobl i wneud y pethau maen nhw'n eu gwerthfawrogi ac sy’n dod a mwynhad iddyn nhw.  

Sut ydw i’n dod yn ddarparwr meicro-ofal?

Mae Tîm Meicro-Ofal Sir y Fflint yma i helpu meicro-ofalwyr a gweithio gydag unigolion er mwyn:

  • Eu cefnogi i ddatblygu eu busnes neu eu syniadau
  • Darparu cyngor a gwybodaeth am hyfforddiant, cyllid a chefnogaeth ac adnoddau eraill sydd ar gael
  • Eu helpu i dderbyn cyllid i gychwyn eu busnes
  • Cefnogi unigolion i ddatblygu a darparu gwasanaeth o ansawdd yn unol â deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol Llywodraeth Cymru
  • Eu cysylltu â rhwydwaith o ddarparwyr meicro-ofal eraill ar gyfer cefnogaeth gan gymheiriaid
  • Pa un ai ydych chi eisoes yn meddu ar brofiad mewn gofal neu'n hollol newydd i rôl ofalu, gall y tîm eich cefnogi chi drwy ddarparu cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu chi ddechrau arni. Ar ben hyn, bydd y tîm yn darparu cymorth parhaus wrth i chi dyfu’ch busnes.

Cam 1: Llenwch y ‘Ffurflen Datgan Diddordeb’ a’i dychwelyd i aelod o’n Tîm Meicro-Ofal.

Cam 2: Byddwch yn derbyn gwahoddiad i gwrdd â’r tîm ac yn derbyn trosolwg o’r Prosiect Meicro-Ofal yn Sir y Fflint. Bydd y tîm yn trafod eich syniadau a sut y gallan nhw gefnogi pobl Sir y Fflint sydd angen gofal a chefnogaeth. Ar ddiwedd y cyfarfod yma byddwch yn derbyn ffurflen hunanasesiad. Bydd y ffurflen hon yn eich helpu chi i ddatblygu’ch syniadau busnes.

Cam 3: Byddwch yn derbyn gwahoddiad i ail gyfarfod lle byddwch chi a’r tîm yn edrych ar y ffurflen hunanasesiad rydych chi wedi’i llenwi. Bydd y tîm yn cytuno ar gynllun datblygu efo chi er mwyn eich helpu i gychwyn eich busnes meicro-ofal.  

Cam 4: Bydd y camau nesaf yn cynnwys mynychu cyrsiau hyfforddi rhad ac am ddim neu sesiynau datblygu sy’n berthnasol i ofal cymdeithasol a rhedeg busnes, er mwyn i chi ennill y sgiliau, cymwysterau, arbenigedd a’r hyder i redeg eich busnes yn llwyddiannus.

Gall y cyrsiau hyn gynnwys:

  • Datblygu Busnes
  • Hyfforddiant gofal, drwy nifer o gyrsiau gofal gorfodol byr, e.e.:
    • Symud a rhoi pobl i eistedd/orwedd
    • Iechyd a Diogelwch
    • Rheoli Heintiau
    • Meddyginiaeth

Yn ogystal, byddwch yn dal i gwrdd â'r Swyddogion Meicro-Ofal i ddatblygu’ch meddwl a’ch syniadau busnes.

Cam 5: Bydd arnoch chi angen dechrau llenwi gwaith papur o fewn Fframwaith Ansawdd, sydd wedi’i ddylunio i helpu’ch busnes ddatblygu ac i wneud yn siŵr eich bod chi'n cyrraedd y safonau cyfreithiol a chenedlaethol. Gall u Tîm Meicro-Ofal eich helpu chi lenwi’r rhain.

Cam 6: Nudd y Tîm Meicro-Ofal yn cwrdd efo chi eto i edrych ar y cynnydd rydych chi wedi’i wneud yn erbyn y Fframwaith Ansawdd ac i benderfynu, gyda chi, a ydych chi’n barod i ddechrau gweithio fel meicro-ofalwr. 

Ar y pwynt hwn, fe allwch chi ddewis derbyn rhagor o gymorth cyn i chi ddechrau arno go iawn neu efallai nad ydi bod yn feicro-ofalwr yn yrfa i chi. 

Ffurflen Datgan Diddordeb

Sut i gychwyn eich busnes eich hun

Wrth i chi gychwyn eich busnes eich hun a dod yn hunangyflogedig, mae yna lawer o bethau y dylech chi eu hystyried. Bydd arnoch chi angen ystyried:

  • Eich cynllun busnes a’ch strwythur
  • Pa wasanaethau y byddwch chi’n eu darparu a sut byddwch chi’n eu marchnata
  • Cadw cofnodion ariannol
  • Bodloni’r holl ofynion cyfreithiol fel talu trethi a gwneud yn siŵr eich bod chi’n cydymffurfio â deddfwriaeth cyflogaeth os ydych chi’n bwriadu cyflogi pobl eraill

I’ch helpu chi, mae’r Tîm Meicro-Ofal wedi datblygu nifer o daflenni ffeithiau syml. 

Rydym ni hefyd yn gallu trefnu cymorth busnes un-i-un gydag un o’n hymgynghorwyr busnes, nifer o sesiynau hyfforddiant busnes a mentora busnes parhaus os oes arnoch chi angen hynny.

Sut ydw i’n dod o hyd i waith ac yn datblygu’r busnes?

Mae yna ddwy ffordd i ganfod gwaith fel darparwr meicro-ofal a datblygu busnes cynaliadwy:

  • Cael ei hurio gan bobl sy’n derbyn taliadau uniongyrchol gan Gyngor Sir y Fflint
  • Cael eich hurio'n breifat gan bobl 

Os ydi unigolyn yn gymwys i dderbyn cymorth i ddiwallu ei anghenion gofal, gall Cyngor Sir y Fflint roi arian iddyn nhw yn lle gwasanaeth, ar ffurf Taliad Uniongyrchol. Mae hyn wedyn yn gadael i'r unigolyn drefnu'r gefnogaeth orau sy'n cyd-fynd â'i ffordd o fyw.

Mae gan Gyngor Sir y Fflint dîm Taliadau Uniongyrchol ymroddedig sy’n helpu pobl i ddewis y gofal cywir ar eu cyfer. Mae gweithio gyda meicro-ofalwr yn un o’r dewisiadau sy’n cael ei gynnig i’r rheiny sy’n derbyn taliadau uniongyrchol. 

Cyngor, ond sy’n dymuno prynu gwasanaethau gofal neu les yn breifat. Mae darparwyr meicro-ofal yn gallu gweithio’n uniongyrchol i bobl sy’n talu’r meicro-ofalwr yn uniongyrchol. 

Bydd meicro-ofalwyr sy’n cael eu cefnogi gan y Tîm Meicro-Ofal yn cael eu rhestru ar wefan Gofal@Sir Y Fflint, a bydd eu manylion yn cael eu rhannu â nifer o asiantaethau allanol er mwyn hyrwyddo’u busnes.

Byddwch hefyd yn cael eich annog i restru’ch busnes ar DEWIS Cymru, gwefan genedlaethol sy’n rhestru unigolion a busnesau ar draws Cymru sy’n cefnogi pobl gyda’u anghenion lles.

Cysylltwch â ni

Datblygu a Chymorth Meicro-Ofal

E-bost: micro-care@flintshire.gov.uk