Alert Section

Beth ydi Meicro-Ofal?

Mae Meicro-Ofal yn ffordd amgen o ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl yn Sir y Fflint.

Mae Meicro-Ofalwyr yn unigolion, neu'n fusnesau bach, sy’n cynnig gofal, cefnogaeth neu wasanaethau lles hyblyg a phersonol i bobl. Maent yn wahanol i ddarparwyr gofal traddodiadol o ran eu bod yn fasnachwyr unigol neu â nifer fechan o staff yn unig. Mae Micro-Ofalwyr yn gweithio’n agos gydag unigolion i ganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw a’r ffordd orau i’w cefnogi er mwyn iddyn nhw gyrraedd eu nodau.

Bydd nifer o ddarparwyr Meicro-Ofal yn unig fasnachwyr, gan gynnig cefnogaeth i ychydig iawn o bobl mewn ardal gymharol fach. Drwy weithio yn y ffordd yma maen nhw'n gallu darparu gwasanaeth sy’n fwy hyblyg ac ymatebol, gan sicrhau bod y gwasanaeth gofal a chefnogi yn cael ei ddarparu fel sydd arnoch chi ei angen ac ar adeg sy'n gyfleus i chi. 

Gan eu bod yn gweithio iddyn nhw eu hunain, neu mewn partneriaeth â chydweithwyr Meicro-Ofal eraill, byddan nhw’n gallu darparu gwasanaeth mwy cyson gan wynebau cyfarwydd. 

Gall Micro-Ofalwyr gael eu talu gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol, cronfeydd preifat, a gall Cyngor Sir y Fflint gomisiynu Micro-Ofalwr os mai dyna fyddai’n cyd-fynd â’ch canlyniadau orau. 

Gall meicro-ofalwyr helpu pobl gydag amrywiaeth o bethau, er enghraifft:

  • Gwasanaethau gofal cartref 
  • Seibiant i ofalwyr
  • Gwyliau a seibiant byr
  • Gweithgareddau sy’n dod â phobl at ei gilydd
  • Cyfleoedd hamdden, lles a chymdeithasol
  • Glanhau
  • Cymorth gyda biliau 
  • Gofalu am anifeiliaid anwes
  • Ymgyfeillio/cwmnïaeth 
  • Help i arddio
  • Darparu prydau ar gyfer pobl yn eu cartrefi eu hunain 
  • Mynd i mewn ac allan o’r gwely
  • Nôl neges ar gyfer un neu fwy nag un person

Mae Micro-Ofalwyr yn wasanaethau bach nad ydynt yn cael eu rheoleiddio, ac o ganlyniad mae angen i chi gofio na fyddant yn cael eu harolygu fel asiantaeth gofal, cartref gofal, neu ddarpariaeth gofal plant. Mae angen i chi sicrhau eich bod yn fodlon gwneud eich gwiriadau eich hun ar Feicro-Ofalwyr, rheoli a chydlynu eich gofal eich hun, a thrafod trefniadau wrth gefn priodol.