Alert Section

Pam dewis Meicro-ofalwr?

Bydd nifer o ddarparwyr meicro-ofal yn unig fasnachwyr, gan gynnig cefnogaeth i ychydig iawn o bobl mewn ardal gymharol fach. Drwy weithio yn y ffordd yma maen nhw'n gallu darparu gwasanaeth sy'n fwy hyblyg ac ymatebol, gan sicrhau bod y gwasanaeth gofal a chefnogi yn cael ei ddarparu fel sydd arnoch chi ei angen ac ar adeg sy'n gyfleus i chi.

Mae’r holl feicro-ofalwyr sydd wedi’u rhestru ar y porth hwn yn gorfod cyrraedd safonau ymarfer penodol, sy’n cael eu gwirio cyn iddyn nhw ddechrau gweithio i wneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn ddiogel.

Beth mae’r Cyngor yn ei wneud cyn cymeradwyo Meicro-Ofalwr i fod ar y porth?

Bydd yr holl Feicro-Ofalwyr sy’n cael eu cefnogi gan y Tîm Meicro-Ofal yn meddu ar y canlynol cyn lansio eu busnes:

  • Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
  • Gwiriad cyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  • Wedi cofrestru fel gweithiwr hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau EM
  • Proffil Busnes - yn egluro’r busnes a’r gwasanaethau
  • Proffil un dudalen - yn egluro beth sy’n bwysig i’r client 
  • Ystod o bolisïau a gweithdrefnau megis cyfrinachedd
  • Cyfeiriadau
  • Hyfforddiant sydd wedi’i deilwra i’r gwasanaeth maent yn ei ddarparu. 

Er bod yn rhaid i Feicro-Ofalwyr gyflawni’r lefelau gofynnol cyn iddyn nhw ddechrau masnachu, mae darparwyr Meicro-Ofal yn ddarparwyr gofal hunangyflogedig annibynnol ac felly dydi Cyngor Sir y Fflint ddim yn gyfrifol am eu camau gweithredu.

Beth sydd arnoch chi angen gwybod cyn cyflogi Meicro-Ofalwr?

Er bod y Cyngor yn darparu rhestr o fusnesau sydd wedi bodloni ei feini prawf, chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod y gwasanaethau rydych yn eu prynu’n bodloni’r lefelau disgwyliedig. 

Byddwn yn cynghori unigolion a’u teuluoedd i weithredu gyda diwydrwydd dyladwy, a gofyn i gwmnïau am gopïau o yswiriant, tystysgrif y Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd, a statws hunangyflogaeth cyn gwneud penderfyniad. Dylech ofyn i gael gweld proffil busnes i gael amlinelliad o’r gwasanaethau y mae busnesau’n darparu, a holi am unrhyw hyfforddiant penodol sydd ei angen i’ch cefnogi chi orau. 

Os ydych chi’n hapus ar y pwynt yna, dylai’r Meicro-Ofalwr gynnig cyfarfod cychwynnol gyda chi er mwyn trafod a yw’r gwasanaeth yn iawn i chi, ac os yw’n berthnasol, cynnal asesiad cychwynnol, a llunio cynllun cefnogaeth i chi, Cyn cychwyn unrhyw wasanaethau, dylid arwyddo contract sy’n manylu ar beth/pryd bydd y gefnogaeth yn cael ei darparu, beth yw telerau eu ffioedd a’u taliadau, a phethau megis hysbysiadau a thaliadau cadw pan nad oes modd i chi wneud defnydd o’r gwasanaeth (e.e. gwyliau, ymweliadau ysbyty). Dylech drafod ar y pwynt hwn beth fydd yn digwydd os yw’r Meicro-Ofalwr yn sâl neu’n cymryd absenoldeb a gynlluniwyd - mae hyn yn cael ei alw’n drefniant wrth gefn, a bydd angen i chi gytuno ar hyn gyda’ch gilydd. 

Os yw eich anghenion wedi cael eu hasesu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rydych yn bodloni meini prawf cymhwysedd y Cyngor ar gyfer gofal a chefnogaeth, gallwch ddefnyddio taliad uniongyrchol i brynu’r gwasanaethau hyn. Mae taliad uniongyrchol yn arian gan Gyngor Sir y Fflint i gwrdd â’ch anghenion asesedig ac er mwyn i chi brynu gofal neu gefnogaeth yn uniongyrchol.   Fe allwch chi naill ai ddewis dod yn gyflogwr a chyflogi eich cymorthyddion personol eich hun neu ddefnyddio’r arian i brynu gwasanaethau gan Feicro-Ofalwr. Ar gyfer unrhyw sy’n defnyddio taliad uniongyrchol, mae’n bwysig croes gyfeirio’r contract a arwyddodd y Meicro-Ofalwr gyda’ch cytundeb taliad uniongyrchol gyda’r Cyngor.  

Gallwch ofyn am unrhyw gymorth a chanllawiau ar hyn drwy gysylltu â micro-care@flintshire.gov.uk neu drwy gysylltu ag Un Pwynt Mynediad Sir y Fflint.