Alert Section

Teithio Llesol - Llwybrau Diogel i Ysgolion Treffynnon

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn am eich barn am gynigion i weithredu isadeiledd Teithio Llesol (cerdded a beicio) ar ddau lwybr yn Nhreffynnon.

Mae Llwybr 1 yn mynd i Ysgol Gynradd Gwenffrwd ac Ysgol Gynradd Gatholig Santes Gwenffrewi a Llwybr 2 yn mynd i Ysgol Treffynnon ac Ysgol Maes y Felin.

Mae’r cynigion yn seiliedig ar astudiaeth a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr yn 2022 lle nodwyd llwybrau allweddol i bob ysgol yn seiliedig ar ble mae’r disgyblion yn byw yn ogystal ag ymweld â’r safle, bwrw golwg ar broblemau y mae pobl sy’n cerdded a beicio yn eu hwynebu a chael trafodaethau gyda rhai o’r ysgolion.

Ymgynghoriad Cyhoeddus

Llwybr 1 – Ysgol Gwenffrwd ac Ysgol Santes Gwenffrewi

Mae Llwybr 1 yn dilyn yr A5026 o Ffordd Holway i ganol Treffynnon, gan ymuno â Whitford Street a Heol Fawr trwy ganol y dref. Mae’r llwybr yn canghennu i gysylltu Canolfan Hamdden Treffynnon a Victoria Place ar hyd yr A5026. Nid yw’r llwybr presennol yn un hwylus i gerdded a beicio ar ei hyd gan fod cyffyrdd llydan yn ei gwneud yn anodd i gerddwyr groesi’n ddiogel ac mae diffyg lleoedd parcio i rieni sy’n mynd â’u plant i’r ysgol. Nod y cynigion yw gwella amodau i gerddwyr a beicwyr trwy ostwng cyflymder traffig, rhoi mwy o flaenoriaeth i gerddwyr a lledu’r troedffyrdd. 

Mae ymyraethau allweddol a gynigir ar gyfer Llwybr 1 yn cynnwys:

  • Tynhau ffyrdd ochrol ac ychwanegu cyrbau is a phalmant botymog er mwyn galluogi cerddwyr i groesi’n haws ac yn fwy diogel;
  • Lledu’r droedffordd ar ochr ogleddol yr A5026 i greu amodau mwy cyfforddus i gerddwyr;
  • Culhau’r ffordd gerbydau ar hyd y llwybr i annog cerbydwyr i arafu a gwella gwelededd;
  • Dynodi man parcio a cherdded ffurfiol ym maes parcio Eglwys Gwenffrewi gan gynnwys llwybr newydd i gerdded i/o’r maes parcio;
  • Cael gwared ar leoedd parcio ar y stryd ar hyd Holway Road a’r posibilrwydd o weithredu cyfyngiadau parcio i atal camddefnyddio;
  • Parcio i ddeiliaid trwyddedau parcio yn unig wrth ymyl yr ysgolion ac adnewyddu cyfyngiadau parcio presennol;
  • Croesfan sebra ar New Road yn agos at y gyffordd â’r A5026 Rue Street Gregorie (yn amodol ar gyfrifiadau a modelau traffig);
  • Uwchraddio’r groesfan bresennol sydd heb ei rheoli trwy osod croesfan sebra a chyflwyno planhigion / gerddi glaw a chyfyngiadau parcio y tu allan i Ysgol Gwenffrwd ac Ysgol Gwenffrewi i annog cerbydwyr i arafu a’i gwneud yn haws i groesi’r ffordd;
  • Tynhau’r gyffordd ar Whitford Street/ A5026 a gwella’r planhigion presennol;
  • Tynhau cyffordd Holway Road/ Whitford Street (A5026) (yn amodol ar olrhain cerbydau) a chyflwyno planhigion / gerddi glaw i ddarparu porth i arafu cerbydau ac atal gyrwyr rhag parcio ar y palmant gerllaw’r orsaf dân;
  • Gwella’r llwybr i gerddwyr rhwng Heol Fawr a Chanolfan Hamdden Treffynnon;
  • Gwella’r llwybr i gerddwyr ar draws Victoria Place at y groesfan bresennol â signalau.

Map Llwybr 1

Llwybr 2 - Ysgol Treffynnon ac Ysgol Maes Y Felin

Mae Llwybr 2 yn creu llwybr i Ysgol Treffynnon ac Ysgol Maes y Felin o’r A5026 Whitford Street, Rue St Gregoire a Pen-y-Maes Road. Byddai’n cysylltu â Llwybr 1 y bwriedir ei greu yn Whitford Street a Victoria Place. Mae Pen-y-Maes Road yn llwybr allweddol i’r ysgolion ond mae’r amodau ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn wael ar hyn o bryd gyda throedffyrdd cul neu golledig a chyffyrdd llydan. Mae’r cynigion yn cynnwys dwy groesfan newydd â signalau a gwelliannau i gyffyrdd ochrol ar hyd y llwybr er mwyn ei gwneud yn haws i gerdded, teithio ar olwynion a beicio.

Mae’r ymyraethau a gynigir ar gyfer Llwybr 2 yn cynnwys:

  • Tynhau ffyrdd ochrol ac ychwanegu cyrbau is a phalmant botymog ar hyd Pen-Y-Maes Road er mwyn galluogi cerddwyr i groesi’n haws a mwy diogel;
  • Cyflwyno dwy groesfan newydd â signalau ar A5026 a Pen-Y-Maes Road er mwyn galluogi cerddwyr i groesi’r ffordd yn haws a mwy diogel;
  • Cael gwared ar y rheiliau gwarchod ar yr A5026 ger adeilad Cyngor Tref Treffynnon a chyffordd Ffordd Newydd i adlewyrchu gostyngiad yn y terfyn cyflymder o 30mya i 20mya;
  • Ychwanegu cyrbau is a throedffordd ymhlyg ar draws y gilfach barcio bresennol ar Pen-y-Maes Road i’r gorllewin o gyffordd Pen-y-Maes Road/Bryn-y-Gwynt.

Disgwylir y bydd y gwelliannau arfaethedig yn galluogi mwy o ddisgyblion i gerdded, teithio ar olwynion a beicio i’r ysgol yn ogystal â chefnogi teithiau lleol eraill ar droed ac ar feic.  Bydd hyn yn arwain at fanteision amlwg i iechyd y cyhoedd a’r amgylchedd.

Map Llwybr 2