Meysydd parcio
Maes Parcio Talu ac Arddangos
Mae parcio Talu ac Arddangos yn declyn parcio da, a thrwy godi tâl priodol mae’n annog cymudwyr i'r meysydd parcio ar gyrion canol y dref gan hyrwyddo mannau parcio agos ar gyfer arhosiad byr.
I weld y ffioedd Talu ac Arddangos gwiriwch y dref berthnasol
Map o maes parcio
Talu am Barcio
Ydw i’n gallu talu gydag arian?
Ydych, mae gan bob un o’r meysydd parcio taladwy beiriant Talu ac Arddangos felly gallwch ddefnyddio ceiniogau i dalu am barcio. Nid yw’r peiriannau yn rhoi newid felly gwnewch yn siŵr fod gennych y newid cywir. Nid yw’r peiriannau yn derbyn arian papur.
Ydw i’n gallu talu gyda cherdyn?
Peiriannau Talu ac Arddangos ym maes parcio Stryd Newydd, Yr Wyddgrug, Stryt Y Brenin, Yr Wyddgrug a maes parcio Gorsaf Reilffordd, Y Fflint yn unig sy’n derbyn taliadau cerdyn.
Ydw i’n gallu talu dros y ffôn/gydag ap?
Gallwch nawr dalu i barcio ym mhob maes parcio yn Sir Y Fflint yn defnyddio’r ap PayByPhone ar eich ffôn glyfar neu drwy ffonio 03301096182
Mae’r ap PayByPhone ar gael i’w lawrlwytho o’r Storfa Ap Apple neu Google Play Store. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma: https://paybyphone.co.uk/
Mae’r ap yn sydyn ac yn hawdd i’w osod a’i ddefnyddio, gan gymryd 30 eiliad yn unig i gofrestru.Mae’r system yn rhoi’r hyblygrwydd i chi ymestyn eich sesiynau parcio o bell, eich hysbysu pan fydd eich sesiynau yn dod i ben a gallwch hefyd leoli maes parcio ar yr ap cyn cychwyn ar y daith, ac unwaith y byddwch wedi parcio, piniwch eich lleoliad fel y gallwch ddod o hyd i’ch car yn hawdd nes ymlaen.
Mae yna isafswm ffi o 6 cheiniog ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Pan fyddwch chi’n talu am barcio, gofynnwn i chi fod yn ofalus a sicrhau eich bod yn defnyddio sianeli swyddogol i lawrlwytho’r ap h.y. siop apiau, sganio’r cod QR neu ddefnyddio’r wefan gywir sy’n cynnwys clo wrth ymyl y cyfeiriad i ddangos ei bod yn ddiogel.
Llefydd Parcio i Goetsys
Mae pum le parcio i goetsys ym Maes Parcio Stryd Newydd, Yr Wyddgrug, sydd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin. Gall coetsys ddefnyddio’r llefydd parcio yma’n rhad ac am ddim.
Cynnal a chadw meysydd parcio
Rydym ni’n gyfrifol am gynnal a chadw pob maes parcio sydd o dan berchnogaeth y cyngor yn Sir y Fflint. Er bod archwiliadau rheolaidd yn llwyddo i ddarganfod y rhan fwyaf o ddiffygion sy’n digwydd, weithiau gall difrod ddigwydd rhwng archwiliadau. Os rydych chi’n gweld unrhyw ddiffygion, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu gwneud archwiliad a gwaith atgyweirio.Fel arfer, caiff problemau cysylltiedig â pheiriannau talu ac arddangos eu nodi pan fyddant yn cael eu gwagio a’u profi.
Rhagor o wybodaeth
Gwasanaeth Parcio Cyngor Sir y Fflint
E-bost: gwasanaethauparcio@siryfflint.gov.uk
Ffôn: 01352 701234
(o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.30am i 5.00pm)