Alert Section

Dogfen Ymgynghori – Llwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned yr Hôb


Mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r afael â phryderon diogelwch ar y ffyrdd a thagfeydd yng nghyffiniau Ysgol Estyn ac Ysgol Uwchradd Alun er budd preswylwyr lleol a phlant sy’n mynychu’r ddwy ysgol.  

Ffurflen Adborth A550

(Ymgynghoriad yn cau 1 Tachwedd 2021)


Pam fod angen gwelliannau diogelwch yma? 

Dros y blynyddoedd diweddar, rydym wedi clywed am nifer o bryderon ynglŷn â chyflymder traffig a pharcio peryglus yng nghyffiniau’r ddwy ysgol.  Mae cerdded a beicio yn ffordd wych o gynyddu eich gweithgarwch corfforol ac rydym ni eisiau darparu amgylchedd mwy diogel a mwy deniadol er mwyn i bobl allu gwneud hyn.  

Gwaith Gwella
Er mwyn lliniaru’r gwahanol beryglon ar y ffordd ac mewn ymgais i wella hyfywedd y dulliau Llesol a Chynaliadwy o deithio, dynodwyd y mesurau canlynol: 

 

A550 Ffordd Wrecsam  

Gwelliannau Teithio Llesol Arfaethedig:

• Creu cyfleuster 3m oddi ar y ffordd a rennir  ar hyd yr A550 o gylchfan Penyffordd i gysylltu â'r llwybr troed presennol yn ystâd tai Mountain View. 

• Gosod Croesfan Twcan dros yr A550 Ffordd Wrecsam. Bydd y cyfleuster hwn yn cysylltu â’r cyfleuster defnydd a rennir ar yr A550.

• Yn ychwanegol at y mesurau uchod cynigir gwelliannau dylunio lleol ar nifer o gyffyrdd ar hyd rhannau dynodedig o'r A550 a fydd yn helpu'n fawr i wella diogelwch ac i ofalu y gellir gweld defnyddwyr agored i niwed yn y lleoliadau hyn yn ogystal â gwneud i yrwyr bwyllo.  

Ysgol Uwchradd Castell Alun – Gwaith Gwella Diogelwch 

Pigeon House Lane / Stryt Isa / Fagl Lane:

• Pennu cyfyngiad cyflymder gorfodol o 20mya o flaen Ysgol Castell Alun ar Fagl Lane a hefyd ar hyd Stryt Isa sy'n arwain at du ôl yr ysgol. Bydd y gostyngiad gwir angenrheidiol hwn i'r cyfyngiad cyflymder yn helpu i fynd i’r afael â materion goryrru gan sicrhau hefyd bod y llwybr yn cyrraedd y safon ofynnol er mwyn hyrwyddo dulliau llesol o deithio.

• Bydd gosod nodweddion lleddfu  traffig er budd beicwyr ar bellteroedd strategol ar hyd Stryt Isa yn helpu i leihau cyflymder cerbydau modur gan sicrhau bod y cyfyngiad cyflymder o 20mya yn cael ei orfodi’n naturiol.

• Gosod mesurau rhybuddio ar Fagl Lane/Stryt Isa ar hyd y darn o’r ffordd lle bydd cyfyngiad cyflymder 20mya arfaethedig yn bodoli fel bod modurwyr yn gwybod bod cymeriad y ffordd ar fin newid ac yn sgil hynny yn arafu. 

• Gosod cyfyngiadau parcio ar hyd Stryt Isa a Fagl Lane i ddatrys y mater o barcio difeddwl a blêr. Mae'r lleoliadau’n cynnwys cyffiniau uniongyrchol yr ysgol a hefyd cyffyrdd ar hyd y ffordd. 

• Gwella llwybrau troed ger yr ysgol i helpu disgyblion wrth iddynt fynd a dod o’r ysgol. Bydd gosod croesfannau wedi'u gostwng a phalmentydd cyffyrddol ar gyffyrdd ffyrdd ochr mewn lleoliadau allweddol yn gwella diogelwch a hyfywedd teithio llesol fel y dulliau teithio i'r ysgol a ffefrir. 

• Bydd arwyddion ar bob ffordd ochr ynghyd â chyflwyno marciau beicio ‘ar y ffordd’ ar hyd y lôn yn rhybuddio modurwyr o bresenoldeb beicwyr ac yn atgyfnerthu'r cysyniad o le sydd i gael ei rannu.
 

Ysgol Gynradd Estyn – Gwaith Gwella Diogelwch  

Ffordd Penarlâg. 

• Pennu cyfyngiad cyflymder 20mya gorfodol yng nghyffiniau Ysgol Estyn. Byddai’r cyfyngiad yn ymestyn ar hyd tu blaen Ysgol Estyn. Bydd y gostyngiad gwir angenrheidiol i'r cyfyngiad cyflymder yn helpu i fynd i’r afael â materion goryrru gan sicrhau hefyd bod y llwybr yn cyrraedd y safon ofynnol er mwyn hyrwyddo dulliau llesol o deithio.  

Llwybr cerdded presennol Kiln Lane 

Gweithredu cyfyngiad traffig ‘Mynediad yn Unig’.

• Bydd cyflwyno cyfyngiad ‘Mynediad yn Unig' yn rhwystro modurwyr rhag defnyddio Kiln Lane fel  ffordd i osgoi tagfeydd traffig ar yr A550 cyffordd Ffordd Penarlâg/Ffordd Gresffordd. 

Lon Kinnerton 

Creu cyfleuster Troi i'r Dde arfaethedig. 

• Creu cyfleuster Troi i’r Dde i hwyluso mynediad diogel i draffig sy'n croesi i'r dde er mwyn mynd i Higher Kinnerton a Chanolfan Siopa Parc Brychdyn. 

Ar hyd y llwybr cyfan 

Gosod Arwyddion a Ysgogir gan Gerbydau. 
 
• Arwyddion a Ysgogir gan Gerbydau mewn lleoliadau strategol yn rhoi gwybodaeth ychwanegol i yrwyr gyda negeseuon amserol yn eu hatgoffa o'r safonau o yrru a ddisgwylir gan yr Awdurdod a Rheolau’r Ffordd Fawr.