Alert Section

Polisi Goleuadau Stryd Drafft


Mae Cyngor Sir y Fflint yn adolygu ei bolisi goleuadau stryd presennol I ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon, ac I greu'r ôl-troed carbon lleiaf bosibl.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen ar, ac yn cynnal a chadw, dros 21,000 o oleuadau stryd a 3,250 o arwyddion goleuedig ar draws y sir. Mae hefyd yn cynnal goleuadau cefnffyrdd ar ran Llywodraeth Cymru.  Ar hyn o bryd, mae'r holl unedau hyn yn defnyddio gwerth £864,000 o drydan y flwyddyn.  Mae'r gwasanaeth goleuadau stryd wedi ymrwymo i leihau ei ôl troed carbon drwy roi ystod o fesurau ar waith, gan gynnwys gosod cyfarpar arbed ynni ac unedau goleuo ynni isel pan fo angen newid y goleuadau.

Bydd y polisi drafft diwygiedig yn ymestyn y mesur diffodd goleuadau stryd yn y nos - gyda chynigion i ddiffodd goleuadau stryd mewn ardaloedd dibreswyl penodol rhwng hanner nos a 5am ac mewn ardaloedd preswyl penodol rhwng hanner nos a 6am.

Bydd amseroedd ymateb safonol ar gyfer atgyweirio goleuadau stryd Cyngor Sir y Fflint yn newid i 10 diwrnod gwaith. Yr eithriad i hyn yw lleoliadau sydd wedi eu hasesu fel ardaloedd diamddiffyn (er enghraifft safleoedd tai gwarchod, teledu cylch cyfyng a safleoedd critigol diffiniedig eraill), lle bydd yr amser safonol yn parhau'n dri diwrnod gwaith.

Yn ogystal â darparu effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon, disgwylir i'r mesurau hyn arbed £50,000 y flwyddyn ar ôl eu rhoi ar waith yn llawn.

Mae’r polisi ar ei hynt drwy brosesau craffu’r Cyngor a chaiff ei gyflwyno gerbron y Cabinet ar 21 Ebrill 2015 i’w gymeradwyo.  Mae’r polisi drafft i’w weld yma