Alert Section

Codi posteri ac arwyddion yn anghyfreithlon


Arddangos hysbysiadau, hysbysebion a deunyddiau hysbysebu eraill wedi’u printio e.e. hysbyslenni a phosteri ar adeiladau, celfi stryd neu ar hyd priffyrdd heb gael caniatâd y perchennog neu ganiatâd angenrheidiol gan Adran Gynllunio’r Awdurdod Lleol yw hyn.

Mae gosod posteri yn anghyfreithlon o dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992, Deddf Priffyrdd 1980 a Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 a gall troseddwyr gael eu herlyn.  Mae gan yr heddlu bwerau i gymryd yr offer a ddefnyddir gan droseddwyr oddi wrthynt, gan gynnwys eu cerbydau.

Os ydych yn bwriadu codi hysbyseb, gofalwch eich bod yn darllen Nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio Lleol 16 cyn gwneud hynny.  Mae’r canllaw hwn yn esbonio pa hysbysebion sy’n gorfod cael caniatâd a pha rai sydd ddim.

Cysylltwch â Gwasanaethau Stryd am 01352 701234.

Rhoi gwybod am broblem

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae’r Tîm Gorfodi Cynllunio’n ymdrin ag unrhyw hysbysebion a arddangosir ar dir ac adeiladau preifat.  Gallant gynnig cyfarwyddyd a chyngor ynglŷn â chydymffurfio â’r rheoliadau a chymryd camau i sicrhau eu bod yn cael eu tynnu i lawr yn ôl yr angen.  Mae’n bosibl y bydd achosion troseddol yn cael eu cymryd yn erbyn y rheiny sy’n methu ag ymateb yn bositif i’r cyngor a roddir iddynt. Os gwelwn fod angen tynnu hysbyseb i lawr, byddwn yn codi tâl ar y perchennog am ei dynnu i lawr a’i storio.

Ar dir cyhoeddus neu eiddo’r Cyngor, rydym yn anelu at dynnu posteri sydd wedi’u gosod yn anghyfreithlon o fewn 5 diwrnod ar ôl cael ein hysbysu. Os credir bod y posteri’n achosi perygl i ddefnyddwyr priffyrdd, byddant yn cael eu tynnu i lawr cyn pen 24 awr.

Ni fyddwn yn tynnu posteri sydd wedi’u gosod yn anghyfreithlon ar adeiladau preifat.