Alert Section

Polisi Torri Gwair


Y diweddaraf am dorri’r gwair - 2024

Mae’r tywydd cynnes a gwlyb dros gyfnod y Gwanwyn wedi gweld cynnydd enfawr yn nhyfiant glaswellt ledled y sir gan greu mwy o alw ar ein gweithwyr yn nhimau priffyrdd a chynnal tiroedd.   Fodd bynnag, oherwydd toriadau cyllideb yn ddiweddar, mae adnoddau yn fwy prin o’u cymharu â’r blynyddoedd a fu.  Fel awdurdodau lleol eraill ar draws y wlad mae Sir y Fflint wedi gorfod lleihau ei wariant eleni ar gyfer ei holl wasanaethau, ond nid oes lleihad wedi bod yn nifer y safleoedd sy’n cael eu cynnal ar gyfer torri gwair (834 safle ac 16 mynwent).

Darganfod mwy

Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaeth torri gwair mewn nifer o leoliadau a phrif gyfleusterau o amgylch y Sir. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Ymylon ffyrdd
  • Ardaloedd Amwynder
  • Llwybrau troed cyhoeddus / Llwybrau beicio
  • Gwrychoedd
  • Arosfannau bysiau
  • Pyrth Pentrefi / Trefi
  • Tir Chwaraeon a Hamdden -  
  • Mynwentydd
  • Gerddi Tenantiaid

 Mae gan y sir gyfrifoldeb cyfreithiol i reoli’r Rhwydwaith Priffyrdd o ran sicrhau bod y llwybrau ar gael ac yn ddiogel i’r defnyddiwr priffordd. Mae’n ymgymryd â’r ddyletswydd hon yn ei rôl fel Awdurdod Priffyrdd.

Bydd gwair yn cael ei glirio mewn amgylchiadau eithriadol yn unig – yn arbennig y toriad cyntaf mewn gerddi tenantiaid ac ardaloedd amwynder yn uniongyrchol o flaen llety gwarchod.

Mae’r mecanweithiau darparu ar gyfer torri gwair fel a ganlyn:

  • Ymyl Priffyrdd Gwledig – Dan gontract
  • Ymyl ffyrdd trefol – dan gontract
  • Ardaloedd Amwynder – rhannol dan gontract / rhannol fewnol
  • Mynwentydd – Mewnol            
  • Gerddi Tenantiaid – dan gontract
  • Gwrychoedd – dan gontract
  • Meysydd chwarae ysgolion – dan gontract
  • Hawliau Tramwy – dan gontract (rheolir gan wasanaethau cefn gwlad)

Os bydd gennych unrhyw bryderon neu sylwadau mewn perthynas â thorri gwair, yna cysylltwch â Strydwedd.

Cysylltwch â Strydwedd

Polisi Torri Gwair