Alert Section

Arwyddion priffyrdd neu enwau strydoedd


Rydym yn gyfrifol am sicrhau fod arwyddion priffyrdd yn lân, heb eu difrodi ac yn gwbl weladwy i ddefnyddwyr priffyrdd.

Y gwasanaeth a ddarparwn
Byddwn yn cael gwared ar graffiti, posteri anghyfreithlon a baw oddi ar arwyddion priffyrdd.  Byddwn hefyd yn torri unrhyw goed/gwrychoedd ac ati sy’n perthyn i’r cyngor ac sy’n atal pobl rhag gweld arwyddion yn glir.  Os nad ydym yn berchen ar y goeden/gwrych byddwn yn cysylltu â’r perchennog ac yn gofyn iddo/iddi gael gwared ar y rhwystr.  Os oes unrhyw arwydd wedi’i ddifrodi byddwn yn trefnu bod y gwaith trwsio gofynnol yn cael ei wneud.

Nid ydym yn cynnal a chadw’r arwyddion canlynol: arwyddion gwybodaeth yr AA, arwyddion preifat.

Cysylltwch â Gwasanaethau Stryd am 01352 701234.

Strydoedd newydd
Mae dyletswydd arnom i sicrhau bod strydoedd newydd yn cael eu henwi a’u rhifo gan ddatblygwyr.  Y datblygwr sy’n gyfrifol am osod y platiau enw yn unol â chyfarwyddiadau’r cyngor. Nodyn Canllawiau Rheoli Adeiladu Enwau a Rhifau Strydoedd.  Mae’r daflen hon yn cynnig canllawiau ar ddewis enwau strydoedd mewn datblygiadau newydd.

Ailenwi ac ailrifo strydoedd
Weithiau mae angen ailenwi neu ailrifo stryd. Fel arfer, gwneir hyn os nad oes dewis arall ar gael:

  • pan fo dryswch dros enw a/neu rifau stryd;
  • pan fo grŵp o breswylwyr yn anhapus gydag enw eu stryd;
  • pan adeiladir eiddo newydd ar y stryd ac felly mae angen ailrifo’r eiddo arall er mwyn cynnwys yr eiddo newydd;
  • pan fo eiddo enw-yn-unig ar stryd yn achosi dryswch i ymwelwyr a’r gwasanaethau brys.

Beth allwch chi ei wneud
Mae’n bwysig sicrhau bod eich eiddo wedi’i arwyddo’n eglur gydag enw neu rif a bod arwydd y stryd yn eglur hefyd.  Mae hynny’n hynod bwysig ar gyfer y gwasanaethau brys.