Alert Section

Gwelliannau i Gylchfan Queensferry


Map o'r gwyriadau am gylchfan sydd wedi cau

Gylchfanau cau dyddiadau a amseru

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Trafnidiaeth Leol ar gyfer cynllun i wella Cylchfan Queensferry a'r Gyffordd Signal gyfagos ger Asda, ar hyn o bryd mae oedi hir yn y ddau le ystod cyfnodau prysur. 

Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 8 Chwefror ac fe ragwelir y bydd y cyfnod adeiladu yn para 12 wythnos.  Bydd y gwaith yn cynnwys:

  • Lledu ffyrdd ymuno ac ymadael o'r A494 hyd at gylchfan Queensferry.
  • Lledu cylchfan Queensferry er mwyn creu lonydd rhedeg ychwanegol.
  • Ailfodelu cyffordd y B5129 a'r B5441 yn ASDA.
  • Gosod signalau ar bob ffordd sy'n ymuno â chylchfan Queensferry.
  • Uwchraddio a chysylltu pob un o'r signalau traffig cyfredol a newydd. 


Disgwylir y bydd y ffyrdd ymuno ac ymadael o'r A494 i Gylchfan Queensferry ar gau am gyfnodau yn ystod y gwaith er mwyn hwyluso'r gwaith lledu a gosod signalau. Bydd goleuadau traffig dros dro a chyfyngiadau yn eu lle, ac er bod camau'n cael eu cymryd i mwyn osgoi aflonyddwch, disgwylir y bydd oedi. 


Mae'r Cyngor yn ymddiheuro o flaen llaw am unrhyw oedi ac unrhyw anghyfleustra y bydd y gwaith yn ei achosi a bydd yn hysbysu'r cyhoedd o fanylion y trefniadau rheoli traffig yn ystod amrywiol gamau'r cynllun. Bydd mynediad i fusnesau ac eiddo yn ardal y gwaith yn parhau tra bo'r gwaith yn cael ei wneud. 


Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd:

"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r cais. Bydd oedi yn ystod y gwaith yn anochel, ond rydym yn gofyn i aelodau'r cyhoedd fod yn amyneddgar tra bo'r gwaith yn cael ei wneud."


Meddai Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Edwina Hart:
"Rwy'n falch iawn o weld gwaith yn dechrau ar y prosiect hwn sy'n hanfodol i wella mynediad at nifer o safleoedd cyflogaeth yng ngogledd-ddwyrain Cymru.  Fel llywodraeth sy’n annog busnesau, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth er mwyn cefnogi twf economaidd a helpu i greu swyddi. Bydd ein buddsoddiad o £632,000 yn y prosiect hwn yn gwella mynediad at safleoedd yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, gan gynnwys Porth y Gogledd a safle datblygu Airfields, yn ogystal â gwella amseroedd teithio a diogelwch i ddefnyddwyr ffyrdd . "

 

Mae cynllun o ardal y gwaith ar gael drwy glicio y ddolen hon