Alert Section

Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru - Gwelliannau i Gylchfan Ewlo a Wylfa

Mae Mott MacDonald yn gweithio ar ran Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) i gynnal astudiaeth awgrymu opsiynau sy'n nodi gwelliannau posibl i gyfleusterau teithio llesol yng nghylchfannau Ewloe a Wylfa yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru.

Rydym wedi bod drwy broses awgrymu opsiynau i benderfynu ar y cynllun sy’n cael ei ffafrio a byddem yn gwerthfawrogi eich barn a’ch sylwadau ar y cynigion.

Bydd y digwyddiad ymgynghori cyhoeddus ar-lein hwn yn rhedeg o ddydd Llun 21 Tachwedd tan ddydd Sul 18 Rhagfyr. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth ar gynigion y cynllun ac mae hyn yn gyfle i chi ddweud eich dweud cyn gwneud rhagor o waith dylunio. Anfonwch unrhyw sylwadau neu ymholiadau at flintshireactivetravel@mottmac.com.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, rydym hefyd wedi sicrhau bod copiau papur o’r cynlluniau ar gael yn swyddfeydd Cyngor Sir y Fflint oddi ar Barc Dewi Sant, Ewloe. Bydd y rhain ar gael i’w gweld yn y dderbynfa tan i’r ymgynghoriad ddod i ben ar 18 Rhagfyr 2022.

Cylchfan Ewloe

Cefndir

Ar yr A494 i’r gogledd orllewin o Ewloe - mae hon yn gylchfan fawr sy’n cysylltu’r B5125 a’r B5127 â’r A494 sy’n mynd dros ben y gylchfan ar strwythur. O ran y darpariaethau teithio llesol presennol, mae troedffordd cyd-ddefnyddio (a elwir yn Aston Hill) i’r gogledd o’r ffordd ymuno A494 tua’r dwyrain. Mae’r cyfleusterau croesi ar draws breichiau’r gylchfan yn brin gyda chyrbiau isel ar y rhan fwyaf ond dim palmant botymog nac unrhyw fath o reolaeth.

Yr Opsiwn a Ffefrir

Mae astudiaeth awgrymu opsiynau wedi cael ei chynnal lle mae opsiynau wedi cael eu sgorio yn erbyn polisi Llywodraeth Cymru a’r meini prawf gweithredol (Uniongyrchedd, Diogelwch, Effeithiau Traffig, Costio, Adeiladu, Cymryd Tir, Cydymffurfio â’r Ddeddf Teithio Llesol (gan Lywodraeth Cymru) ac Effeithiau Amgylcheddol i bennu’r cynllun sy’n cael ei ffafrio. Mae’r opsiwn sy’n cael y sgôr uchaf yn cynnwys yr addasiadau canlynol:

  • Croesfannau twcan ar bob ffordd ymuno ac ymadael i / o’r A494 gan gynnwys signalau llawn o’r breichiau ar y ffyrdd ymadael.
  • Croesfannau twcan ar y ddwy fraich ogledd-ddwyreiniol (Hen Ffordd yr Wyddgrug a Ffordd Lerpwl).
  • Croesfan wedi’i chodi (heb ei rheoli) o Ffordd Treffynnon i’r gogledd orllewin o’r gylchfan.
  • Cylchfan yn null yr Iseldiroedd i’r de gyda chroesfannau cyfochrog ar bob braich.
  • Mae’r cynllun hefyd yn tybio y gellir lledu’r troedffyrdd o dan yr A494 er mwyn darparu cyfleuster cyd-ddefnyddio 3m o led o leiaf. Fel y nodwyd yn y cynllun, mae hyn yn amodol ar asesiad strwythurol a dyluniad manwl i gadarnhau bod ateb ymarferol yn bodoli.

Cliciwch yma i weld manylion y cynnig ar gyfer Ewloe

Ewloe 3D(2)_WelshEwloe 3D_Welsh

Cylchfan Wylfa

Cefndir

Situated on the A494 to the east of Mold, this is a large 6-arm roundabout connecting Mold (to the west) with Mynydd Isa (to the east). Similar to Ewloe, facilities for pedestrians and cyclists are lacking and limited to dropped (uncontrolled) crossings. The high approach speeds make for an unsafe and unattractive place for cyclists and pedestrians. The desire line for pedestrians and cyclists is from the east (Mold Road) to the west (Chester Road).

Yr Opsiwn a Ffefrir

Ar yr A494 i’r dwyrain o’r Wyddgrug, mae hon yn gylchfan 6 braich fawr sy’n cysylltu’r Wyddgrug (i’r gorllewin) â Mynydd Isa (i’r dwyrain). Yn debyg i Ewloe, mae cyfleusterau ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn brin ac wedi’u cyfyngu i groesfannau wedi’u gollwng (heb eu rheoli). Mae’r cyflymderau uchel wrth ddynesu yn gwneud lle anniogel sydd ddim yn apelio i feicwyr a cherddwyr. Mae’r llwybr anffurfiol ar gyfer cerddwyr a beicwyr o’r dwyrain (Ffordd yr Wyddgrug) i’r gorllewin (Ffordd Caer).

  • Croesfan twcan ar Ffordd yr Wyddgrug i’r dwyrain.
  • Croesfan twcan ar draws braich ogleddol yr A494.
  • Croesfan uwch / heb reolaeth ar y fynedfa i’r orsaf betrol.
  • Croesfan twcan ar Ffordd Caer i’r gorllewin. 

Cliciwch yma i weld manylion y cynnig ar gyfer Wylfa

Wylfa 3D_Welsh