Alert Section

Diogelwch y ffyrdd


lwybrau cerdded i'r ysgol

Asesiad risg o lwybrau cerdded i'r ysgol - rhieni

Asesiad risg o lwybrau cerdded i'r ysgol - dysgwyr


Gyrwyr

  • Gallai Pass Plus Cymru fod yn ddelfrydol i chi. Mae’n gwrs gyrru uwch byr, wedi’i arwain gan arbenigwr, sydd wedi’i gynllunio i bobl ifanc ddatblygu technegau’r ffordd ac i ehangu profi ad.
  • Mae nawr yn bosibl i yrwyr 65 oed a throsodd gael asesiad gyrru cychwynnol yn rhad ac am ddim gan diwtoriaid hyfforddedig Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru Cymru. Cynllun Datblygu Gyrwyr Hŷn Gogledd Cymru 
  • Mae gafael mewn ffôn symudol a'i ddefnyddio wrth yrru cerbyd yn anghyfreithlon, a gallech dirwy o £100 a thri phwynt ar eich trwydded. Mae pwyntiau'n golygu costau yswiriant uwch. THINK - gêm ffôn symudol 
  • Allech chi fyw gyda'r wybodaeth eich bod wedi lladd neu anafu rhywun oherwydd eich bod wedi yfed a gyrru? Cyngor a ganlyn gan THINK 
  • Mae gwisgo gwregysau diogelwch yn achub bywydau! Os ydych yn eistedd heb wregys yn y sedd gefn, a'r cerbyd yn taro rhywbeth wrth deithio 30 m.y.a, byddwch yn dod i wrthdrawiad â'r sedd flaen, a'r sawl sy'n eistedd ynddi, â grym 30 i 60 gwaith pwysau'ch corff. THINK - efelychydd damwain.  Am wybodaeth pellach ar gyfer osod seddau plant mewn ceir, ymwelwch a gwefan Child Car Seats 

Beicwyr

  • Cyn i chi feicio i unrhyw le gofalwch eich bod yn gwybod sut i gadw’n ddiogel 
  • Mae'r Uned Diogelwch Ffyrdd yn cynnig cylch Hyfforddiant ar gyfer disgyblion Blwyddyn 6.

Gyrru’n ddiogel ar gefn beic modur

  • Gyrwyr beiciau modur yw 21% o’r rhai sy’n marw ar ein ffyrdd. Gofalwch eich bod yn gyrru’n ddiogel drwy ddilyn y cyngor a ganlyn gan THINK.
  • Mae gweithdai Bikesafe yn cael eu cynnig, i bobl Gogledd Cymru / Yn ystod y sesiwn hon, cewch gyfarwyddyd ar sut i roi cymorth cyntaf pan fydd damwain beic modur. Bikesafe – Heddlu Gogledd Cymru 
  • Get On  – Hoffech chi yrru beic modur? Os ydych yn ystyried dysgu gyrru sgwter neu feic modur cewch awr o sesiwn ymarfer am ddim a chyngor am yr hyn y dylech ei wneud nesaf yn eich canolfan hyfforddiant leol.
  • Os oes gennych ddiddordeb datblygu’r sgiliau gyrru beic modur, gallwch ymuno â grwp North Wales Advanced Motorcyclists. Neu, efallai yr hoffech ystyried gynllun Gwell Beiciwr yr Asiantaeth Safonau Gyrru 

Cerddwyr


Cysylltwch â ni

Ein horiau agor yw 9.00 a.m. tan 5.00 p.m. o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Post: Uned Diogelwch ar y Ffyrdd, Depot Alltami, Alltami, Sir y Fflint. CH7 6LG
Ffôn: 01352 704529 / 01352 704497