Darperir y wybodaeth ddiweddaraf ganlynol mewn perthynas â’r gwaith parhaus i wella’r ffordd fawr sy’n digwydd ar y safle ar hyn o bryd.
Gwerthfawrogwn amynedd a chydweithrediad trigolion, busnesau a defnyddwyr y ffordd tra bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud.
Trefniadau Rheoli Traffig
Fel rhan o’r gwaith parhaus i reoli’r safle, mae set newydd o signalau bellach wedi’u gosod wrth yr arwyddion traffig. Nod y newid hwn yw darparu mwy o hyblygrwydd a gwell rheolaeth o lif traffig wrth i’r cynllun barhau drwy’r camau amrywiol.
Caiff amodau traffig eu monitro’n barhaus mewn cydweithrediad â’n contractwr. Oherwydd y traffig trwm ar y darn hwn o’r ffordd, nid oes modd osgoi’r amhariad yn anffodus tra bydd y gwaith i’r ffordd yn cael ei gynnal. Felly, caiff trefniadau rheoli traffig eu hadolygu’n barhaus, a mesurau pellach yn cael eu hystyried yn barhaus i reoli llif traffig mor effeithiol â phosibl.
Lle y bo’n ddiogel ac yn weithredol hyfyw, caiff trefniadau rheoli traffig eu lleihau neu eu tynnu gyda’r nos er mwyn helpu i leihau tagfeydd. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn bosibl bob amser oherwydd gofynion yn ymwneud â diogelwch, logisteg neu raglen.
Gwaith Cyfredol - ardal Chester Close
Bydd cam nesaf y gwaith yn dechrau ddydd Mawrth 14 Ebrill gyda’r rheolaeth draffig yn cael ei symud i gynnwys y bont reilffordd a’r tu allan i fynedfa maes parcio Charmleys Lane.
Bydd y rheolaeth draffig yn cynnwys goleuadau traffig dwyffordd.
Bydd mynedfa maes parcio Charmleys Lane ar gau fel rhan o’r gwaith hwn a bydd traffig sy’n dymuno defnyddio’r maes parcio yn gorfod defnyddio King George Street i fynd i mewn ac allan o’r maes parcio.
Rhagwelir y bydd y cam yma o’r gwaith yn cymryd pythefnos i’w gwblhau.
Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd parhaus yn ystod y gwaith hanfodol yma a byddwn yn darparu mwy o newyddion wrth i’r prosiect symud yn ei flaen.
Rhaglen Rhoi Wyneb Newydd
Caiff cam cyntaf y gwaith i roi wyneb newydd - o ochr ddwyreiniol Nelson Street i Shotton Lane, gan gynnwys ardal y gyffordd - ei wneud drwy drefniadau gwaith confoi dros nos rhwng 7:00pm a 7:00am, er mwyn lleihau amhariad yn ystod cyfnodau o draffig trwm yn ystod y dydd.
Bydd y rhaglen i roi wyneb newydd yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:
- Tynnu wyneb presennol y ffordd
- Addasiadau i’r gweithfeydd haearn, gan gynnwys gosod ac addasu gorchuddion a gylïau
- Rhoi wyneb newydd ar y ffordd i gyd (sydd i fod i gychwyn ar 24 Mawrth ac yn cymryd tair noson)
- Gwaith i’r signalau traffig (torri’r ddolen) yn ystod penwythnos 27 a 28 Mawrth 2026
- Marciau newydd ar y ffordd am ddwy noson yn olynol
Caiff arwyddion rhybudd ymlaen llaw eu gosod ar y safle cyn dechrau’r gwaith confoi dros nos, ynghyd â llythyr ar gyfer eiddo a gaiff eu heffeithio’n uniongyrchol gan y gwaith.
Mae’r dyddiadau a amlinellir uchod yn adlewyrchu’r rhaglen arfaethedig gyfredol. Fodd bynnag, gall amserlen y gwaith newid dan amgylchiadau anweladwy, megis tywydd drwg neu gyfyngiadau safle annisgwyl.
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyhoeddi wrth i’r cynllun fynd rhagddo.
Stryd Fawr Shotton - Dyluniad Manwl