Alert Section

Cŵn crwydredig, coll a pheryglus


Sylwch y bydd yr awdurdod yn rhoi’r gorau i’r Gwasanaeth Rheoli Anifeiliaid a Phlâu y tu allan i oriau arferol mewn perthynas â chŵn strae o 1 Ebrill 2015 ymlaen.  O’r dyddiad hwn ymlaen, gofynnwn i chi barhau i roi gwybod am unrhyw gŵn strae drwy ffonio 01352 702121, ond ni fydd ein Warden Cŵn yn dod i’w casglu.  Os cewch hyd i gi strae, dylech ei gadw’n ddiogel tan y diwrnod gwaith nesaf pan fydd y Warden Cŵn yn gallu dod i’w gasglu neu gallwch fynd â’r ci i Dderbynfa Canolfan Achub Anifeiliaid Gogledd Clwyd sydd ar agor ân 10.00pm, 7 diwrnod yr wythnos. 

Un newid arall i’r Gwasanaeth Cŵn Strae fydd y tâl y bydd angen i berchennog unrhyw gi strae ei dalu pan gaiff y ci ei ddychwelyd. Neu, bydd angen i’r perchennog fynd i nôl y ci o’r Ganolfan Achub Anifeiliaid a thalu dirwy statudol ynghyd â thâl am gadw’r ci yno. Bydd yn rhaid talu am un diwrnod o leiaf.

Sylwch hefyd fod yn rhaid i unrhyw gi, yn ôl y gyfraith, wisgo coler â thag os yw allan yn gyhoeddus.  Ar y tag, mae’n rhaid rhoi enw a chyfeiriad y perchennog. Daw newidiadau i rym cyn bo hir sy’n ei gwneud yn ofynnol i osod microsglodyn ym mhob ci. 


Ffioedd

GwasanaethFfiTAWGyfan

Dychwelyd yn uniongyrchol i'r perchennog

N/A N/A £35.50

Wedi mynd i gytiau cŵn cymeradwy

£44.38 £8.88 £53.25

Tâl dyddiol (wedi'i bennu gan y cytiau cŵn) 

N/A N/A £10
Rhestr o wasanaethau Warden Cŵn a chostau o 1 Hydref 2023

Os dewch ar draws gi crwydr

  • Cymerwch ofal wrth nesáu at unrhyw gi sy’n anghyfarwydd i chi, neu wrth ei dderbyn i mewn.
  • Os yw’r ci’n gwisgo coler neu dag edrychwch i weld a yw gwybodaeth gyswllt y perchennog arno a chysylltwch â nhw’n uniongyrchol os yw hynny’n bosibl fel y gallant gasglu’r ci.
  • Os na allwch adnabod y perchennog, neu os ydych yn poeni ynglŷn â nesáu at y ci neu os yw’r ci’n boendod cysylltwch â’n Warden Cŵn ar 01352 701234 a rhowch ddisgrifiad o’r ci a lle gwelwyd ef ddiwethaf.

Mae’r Warden Cŵn ar gael rhwng 9am a 5pm (dydd Llun i ddydd Gwener).  Y tu allan i’r oriau hyn ac ar benwythnosau ffoniwch 01352 702121. Ni ddylech fynd â chi crwydr i swyddfa’r heddlu gan eu bod yn gyfrifol am gŵn peryglus yn unig.


A allaf gadw ci crwydr?

Os ydych yn dymuno cadw ci crwydr yn gyfreithlon mae angen i chi roi gwybod i’r Warden Cŵn.  Bydd angen i chi arwyddo ffurflen i gytuno eich bod yn cadw’r ci am o leiaf 1 mis oni bai ei fod yn cael ei hawlio gan y perchennog gwreiddiol.  Os, o fewn yr amser hwn, rydych yn penderfynu na allwch gadw’r ci rhaid i chi ei roi i’r Warden Cŵn.  Mae’r ci’n dal yn ‘eiddo a ganfuwyd’ a gall y perchennog gwreiddiol ei hawlio yn ôl ar unrhyw adeg, hyd yn oed blynyddoedd yn ddiweddarach. Felly, nid yw’r ci byth yn eiddo gwirioneddol i’r sawl a ddaeth o hyd iddo.


Cŵn peryglus

Os yw’r ci wedi anafu rhywun neu’n ymddwyn mewn ffordd sy’n peri i chi feddwl y gallai anafu rhywun cysylltwch â’r Heddlu (galwad nad yw’n alwad brys ar 101, galwad brys ar 999).  Mae hefyd yn syniad da i chi gysylltu â’r heddlu os oes ci’n crwydro ar eiddo ysgol neu’n ymyrryd â llif traffig (ac os nad oes Warden Cŵn ar gael).


Os yw eich ci ar goll

  • Cysylltwch â’r Warden Cŵn ar 01352 701234 i weld os yw eich ci gyda nhw
  • Gwiriwch gyda’ch milfeddyg lleol, lloches anifeiliaid, cartref cŵn neu hysbysfyrddau siopau i weld a oes rhywun wedi dod o hyd iddo.
  • Gwiriwch wefannau fel UK Missing Pets Register neu Doglost i weld a oes rhywun wedi dod o hyd i’ch ci
  • Rhowch wybodaeth gyhoeddus ar lafar am eich ci a rhowch bosteri i fyny neu ar-lein, gan ddefnyddio’r gwefannau uchod. Os oes gennych yswiriant anifail anwes maent fel rheol yn helpu gyda chyngor a chostau hysbysebu.

Os yw’r Warden Cŵn wedi casglu eich ci, byddwch yn derbyn rhybudd i ddod i’w gasglu.  Rydych yn debygol o orfod talu’r gost am y cyfnod y bu yn y cwt.  Gallwn gadw eich ci’n gyfreithiol nes i chi dalu unrhyw gostau.

Os nad ydych yn casglu eich ci o fewn saith diwrnod o dderbyn rhybudd, byddwn yn ei roi i’w ailgartrefu.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob ci wisgo coler gyda disg adnabod arno, yn dangos enw a chyfeiriad y perchennog (cynghorir chi i roi eich rhif ffôn hefyd).  Gan fod coler yn mynd ar goll ar adegau, cynghorir chi i gael microsglodyn ar gyfer eich ci sy’n cynnig ffordd barhaol o adnabod eich ci ar gronfa ddata.