Alert Section

Nwyddau ffug


Mae nwyddau ffug yn broblem genedlaethol. Mae’n golygu atgynhyrchu nod masnach heb ganiatâd. Caiff nwyddau ffug eu gwerthu mewn gwahanol lefydd ac am wahanol brisiau. Mae’r gwasanaeth Safonau Masnach yn gweithio gydag asiantaethau sy’n diogelu gwahanol frandiau i gael hyd i unigolion a/neu fasnachwyr sy’n gwerthu nwyddau ffug a’u herlyn. 

Cyngor am nwyddau ffug 


Nwyddau ffug a’r gyfraith:

Mae pobl sy’n ail-greu nwyddau gan ddefnyddio nodau masnach cofrestredig heb ganiatâd yn troseddu o dan DDEDDF NODAU  MASNACH 1994.

Os cânt eu herlyn a’u cael yn euog, dyma’r gosb y byddant yn ei hwynebu:

a) os cânt eu collfarnu’n ddiannod, gallant wynebu cyfnod o hyd at chwe mis yn y carchar neu ddirwy o hyd at yr uchafswm statudol (£5000) neu’r ddau
b) os cânt eu collfarnu ar dditiad, gallant wynebu dirwy neu gyfnod o hyd at ddeng mlynedd yn y carchar neu’r ddau.

Mae’n bosibl y byddant hefyd yn troseddu o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008.

Mae’r ddeddfwriaeth uchod yn cynnwys troseddau’n ymwneud ag arferion masnachol annheg. Gall arfer annheg gynnwys hawlio bod masnachwr neu gynnyrch wedi’i gymeradwyo, ei gadarnhau neu ei awdurdodi  gan gorff cyhoeddus neu breifat pan nad yw hynny’n wir. Ystyrir bod hawlio hynny heb gydymffurfio â’r amodau sydd ynghlwm wrth gymeradwyo, cadarnhau neu awdurdoi’r cynnyrch hefyd yn annheg. 

Os cânt eu herlyn a’u cael yn euog, dyma’r gosb y bydd y troseddwyr hyn yn ei hwynebu:

a) os cânt eu collfarnu’n ddiannod, gallant wynebu dirwy o hyd at yr uchafswm statudol (£5000) 

b) os cânt eu collfarnu ar dditiad, gallant wynebu dirwy neu gyfnod o hyd at ddwy flynedd yn y carchar neu’r ddau.

Beth yw nod masnach? 

Nwyddau ffug a’r cyfryngau cymdeithasol

Dros y blynyddoedd, rydym wedi cael hyd i nifer gynyddol o unigolion a masnachwyr sy’n gwerthu nwyddau ffug drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn cadw golwg ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol i gael hyd i’r tudalennau hyn a’u harchwilio. 

Materion diogelwch i’w ystyried

Rhaid ystyried gwahanol faterion wrth ymdrin â nwyddau ffug. Rydym wedi trafod yr agweddau cyfreithiol eisoes. Mae dioglewch yn agwedd arall: rhaid i’r rhai sy’n cynhyrchu’r nwyddau gwreiddiol gadw at safonau diogelwch amrywiol. Pan fyddwch yn prynu nwyddau ffug, mae’n annhebygol y bydd y  rhai sydd wedi’u cynhyrchu wedi cynnal profion  diogelwch neu brofion ansawdd. 


Cysylltwch â ni

Rhif ffôn Cyngor i ddefnyddwyr: Cymraeg 0808 223 1144, Saesneg 0808 223 1133

Rhif ffôn Cyngor i fusnesau: 01352 703181 (Dim ond am faterion sy’n codi rhwng busnesau a defnyddwyr y byddwn yn rhoi cyngor busnes; nid ydym yn rhoi cyngor am faterion sy’n codi rhwng busnesau)

E-bost: trading.standards@flintshire.gov.uk

Ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint,
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint,
CH7 6NF

Ewch i:
Ty Dewi Sant,
St. David’s Park,
Ewlo,
Sir Y Fflint

Oriau agor ein Swyddfa yw rhwng 08:30 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener