Alert Section

Twyll – sut i osgoi cael eich twyllo a sut i roi gwybod am dwyll


Mae rhai pobl yn cynllwynio i’ch twyllo ac i gymryd arian oddi arnoch. Gallant wneud hynny drwy’r post, dros y ffôn neu drwy e-bost. Dyma rai o’r triciau a ddefnyddir i geisio’ch twyllo: loterïau a rafflau ffug, proffwydoliaethau seicig ffug,  buddsoddiadau i’ch gwneud yn gyfoethog yn gyflym a meddyginiaethau gwyrthiol i’ch gwella. Mae’r cynnydd yn y nifer sy’n defnyddio’r e-bost a’r rhyngrwyd hefyd wedi creu mwy o gyfleoedd i ddrwgweithredwyr dwyllo eraill.  

Peidiwch â chael eich twyllo!  Sut i osgoi sgamiau a lladrad hunaniaeth

Gallwch helpu i atal achosion o dwyll drwy ddweud wrth eich ffrindiau a’ch teulu, a drwy ddweud wrthym ni, am unrhyw enghreifftiau o dwyll rydych yn ymwybodol ohonynt. Cewch syniadau i’ch helpu i’ch diogelu’ch hun rhag cael eich twyllo, gwybodaeth am wahanol fathau o dwyll a beth i’w wneud os ydych yn cael eich twyllo gan y cyrff a ganlyn:

Cyngor ar Bopeth 
Mae Cyngor ar Bopeth yn rhoi gwybodaeth am ddim am ddarganfod ac osgoi twyll, gan gynnwys gwybodaeth am y dulliau diweddaraf o dwyllo pobl.

Swyddfa Masnachu Teg (OFT) 
Mae’r Swyddfa Masnachu Teg yn cynnig rhestr gynhwysfawr o wahanol fathau o dwyll (ar ffurf buddsoddiadau ac yn gyffredinol) ac awgrymiadau ar sut i sylweddoli  bod rhywun yn ceisio’ch twyllo.

Money made clear 
Ar wefan Moneymadeclear yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, cewch wybodaeth am yr ymdrechion cyfredol sydd ar waith i dwyllo pobl yn ariannol a’r hyn y dylech fod yn chwilio amdano. 

Take Five
Corff sy’n gweithio gyda’r heddlu, manwerthwyr a sefydliadau yw Take Five, i geisio brwydro yn erbyn twyll yn ymwneud â chardiau. Mae gwybodaeth ar eu gwefan yn sôn am dwyllwyr sy’n targedu pobl sy’n defnyddio cardiau.  

Get Safe Online 
Cyngor arbenigol am ddim ar sut i osgoi cael eich twyllo pan fyddwch yn siopa / bancio ar-lein, sut i atal pobl rhag dwyn ein manylion personol ac atal negeseuon e-bost sbam.

Os ydych wedi bod yn destun sgam neu dwyll, mae yna rywbeth y gallwch ei wneud ynglŷn â hyn. Action Fraud yw canolfan genedlaethol y DU ar adrodd troseddau rhyngwyd a thwyll. Ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040 neu rhowch wybod ar-lein yn www.actionfraud.org.uk

Rhoi gwybod am dwyll

Gallwch gysylltu â’n Gwasanaeth Safonau Masnach hefyd ar 01352 70319.

Llythyrau sgrwtsh a galwadau ffôn digymell

Gallwch ei gwneud yn anoddach i dwyllwyr gyrraedd eich teulu yn y lle cyntaf drwy leihau nifer y cynigion a gewch:

drwy lythyr – ysgrifennwch at Mailing Preference Service, Freepost 22, London. W1E 7EZ. Neu ewch i’w gwefan, www.mpsonline.org.uk i gofrestru ar-lein.

dros y ffôn/SMS/neges destun - Telephone Preference Service, 70 Margaret Street, London. SW1Y 4EE.  0845 070 0707. Neu ewch i www.tpsonline.org.uk i gofrestru ar-lein.


Cysylltwch â ni

Rhif ffôn Cyngor i ddefnyddwyr: Cymraeg 0808 223 1144, Saesneg 0808 223 1133

Rhif ffôn Cyngor i fusnesau: 01352 703181 (Dim ond am faterion sy’n codi rhwng busnesau a defnyddwyr y byddwn yn rhoi cyngor busnes; nid ydym yn rhoi cyngor am faterion sy’n codi rhwng busnesau)

E-bost: trading.standards@flintshire.gov.uk

Ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint,
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint,
CH7 6NF

Ewch i:
Ty Dewi Sant,
St. David’s Park,
Ewlo,
Sir Y Fflint

Oriau agor ein Swyddfa yw rhwng 08:30 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener