Alert Section

Marchnadoedd


Mae marchnadoedd yn elfen hanfodol o ganol trefi - maent yn dod â chwsmeriaid i’r dref ac yn cynnig cyfleoedd busnes gwerthfawr i fasnachwyr ac yn creu egni a hyfywdra.

Yn dilyn adolygiad manwl o farchnadoedd yn Sir y Fflint, mae Cyngor Sir y Fflint yn ymroddedig i gynyddu graddfa a llwyddiant marchnadoedd y sir.


Datblygu’r dyfodol - Marchnadoedd Sir y Fflint
Fel rhan o waith y Cyngor Sir i adfywio canol trefi, mae adolygiad annibynnol wedi’i gynnal o Farchnadoedd Canol Trefi yn y Sir er mwyn eu hasesu ac ystyried cynigion priodol i’w gwella neu eu newid, gan gynnwys edrych ar arfer gorau mewn mannau eraill yn y DU.  Roedd yr astudiaeth yn cynnwys asesiad manwl o’r marchnadoedd, a oedd hefyd yn cynnwys ymgynghori â masnachwyr y marchnadoedd, siopwyr a siopau cyfagos.

Gweler Crynodeb Gweithredol yr adolygiad hwn yma.


Dosbarthu taflenni mewn marchnadoedd
Mae’n ofynnol i unrhyw unigolyn neu fudiad sy’n dymuno dosbarthu taflenni neu bamffleid ar ddiwrnod marchnad yn un o farchnadoedd Cyngor Sir y Fflint gyflwyno ffurflen gais i gael hawlen i wneud hynny.  Fel arall maen nhw’n torri’r Is-ddeddfau a Rheoliadau Marchnadoedd.   

Cyflwynir yr hawlen gan y Rheolwr Marchnadoedd (07919 166279) ac mae’n ddilys am fis o ddyddiad ei gyhoeddi, a’r gost ydy £8.00. Ni chodir tâl ar fudiadau elusennol.


Marchnadoedd a gynhelir yn Sir y Fflint

Cei Connah
Marchnad leol fach yw marchnad Cei Connah a gynhelir bob dydd Iau yng Nghanolfan Siopa Cei Connah.


Treffynnon
Cynhelir marchnad Treffynnon ar Heol Fawr Treffynnon bob dydd Iau ac fe geir amrywiaeth dda o stondinau.  Mae tref Treffynnon wedi cael ei thrawsffurfio trwy adnewyddu canol y dref hanesyddol ac mae’n lleoliad hyfryd ar gyfer cynnal y farchnad.


Yr Wyddgrug
Cynhelir marchnad stryd yr Wyddgrug bob dydd Mercher a dydd Sadwrn ac mae’n un o’r marchnadoedd stryd fwyaf llwyddiannus yng ngogledd Cymru.  Mae nifer fawr o fasnachwyr yn gosod stondinau o bob math ar hyd y Stryd Fawr a Sgwâr Daniel Owen bob wythnos.

Hefyd, mae marchnad dan do yng Nghanolfan Siopa Daniel Owen, sydd ar agor bob dydd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac mae’n cynnig ystod eang o nwyddau.

Gallwch lawrlwytho gwybodaeth bellach isod:

Marchnad Yr Wyddgrug - Marchnad stryd fwyaf a gorau Gogledd Cymru 


Arwerthiant Cist Car Love Lane (Yr Wyddgrug CH7 1BG)
Ar Agor ar Ddyddiau Sul Drwy'r Flwyddyn.
Amser cychwyn ygwerthwyr 6am to 1pm.
Amser cychwyn yprynwyr 8am to 1pm.
£6.24 Fesul Car, £10.40 Fesul Fan, £2.10 Elusen.
Gwybodaeth am: Poster Arwerthiant Cist Car


Manylion cyswllt

  • Peter Hayes
    • Saesneg 07919 166279
    • Cymraeg 01267 224923
  • Richard Atkinson
    • Saesneg 07711 438113
    • Cymraeg 01267 224923

Mae'r swyddfa ar gau ar ddydd Llun a bydd pob galwad heb ei hateb yn mynd at beiriant ateb.

Gwybodaeth bellach
Newyddion y BBC (8 Mehefin)