Sefydliad Arweiniol:
Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch – AMRC Cymru
Swyddog Cyswllt:
Tom Chadwick
E-bost:
t.g.chadwick@amrc.co.uk
Gwefan:
www.amrc.co.uk/pages/adapts
Mae ADAPTS 2 yn bwriadu parhau â’r gweithgareddau a gynigir yn y rhaglen flaenorol sy’n anelu at hwyluso mabwysiadu technolegau gweithgynhyrchu uwch a strategaethau datgarboneiddio drwy ymyraethau ymchwil a datblygu a hyfforddiant cynhwysol. Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar gefnogi 8 busnes gweithgynhyrchu dros gyfnod o 2 - 3 mis yr un.
Mae’r siwrnai’n dechrau gyda phroses ddethol drylwyr yn erbyn meini prawf a nodir ymlaen llaw, gan nodi busnesau â photensial twf uchel. Yn dilyn hyn, bydd AMRC Cymru yn cynnal ymyraethau ymweliadau safle busnes manwl. Bydd yr ymweliadau hyn yn hanfodol ar gyfer deall yr heriau gweithredol unigryw a wynebir gan bob busnes, ac yn caniatáu ar gyfer datblygu cynigion prosiect wedi’u teilwra. Caiff y cynigion hyn, sy’n canolbwyntio ar ddatblygiadau technolegol arbennig a gwelliannau i brosesau, eu cyflwyno i bwyllgor llywio (gan gynnwys Cyngor Sir y Fflint) i’w cymeradwyo’n derfynol, ble bydd darpariaeth ymyrraeth prosiectau’n dechrau.
Lluniwyd yr ymyraethau hyn, a gynhaliwyd yng nghyfleuster gradd flaenaf AMRC Cymru, i gynyddu effaith technolegau gweithgynhyrchu uwch ar gynhyrchiant a datgarboneiddio. Caiff Dangosyddion Perfformiad Allweddol eu holrhain yn ofalus drwy gydol y prosiectau, gan sicrhau aliniad ag amcanion busnes, gan gynnwys targedau cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd gan bob ymyrraeth gyllideb o £2,499 i gaffael eitemau sy’n cefnogi allbwn y prosiect ar gyfer y buddiolwyr.
Yn ogystal â’r ymyraethau prosiect ac i faethu rhagor o frwdfrydedd ar gyfer addasu technoleg ac arloesi’n barhaus, bydd buddiolwyr yn derbyn hyfforddiant arbenigol gan Goleg Cambria a Small World Consulting. Mae rhaglen ddeuddydd Coleg Cambria’n canolbwyntio ar Diwydiant 4.0, sgiliau digidol a thechnolegau gwyrdd, gan rymuso busnesau i integreiddio datrysiadau uwch yn effeithiol. Bydd Small World Consulting yn darparu sesiynau rhyngweithiol tair awr a chefnogaeth ddilynol, gan arwain busnesau drwy’r broses o gyfrifo ôl-troed carbon, strategaethau gostwng allyriadau, a datblygu cynlluniau cynaliadwyedd ymarferol.
Agwedd hanfodol o ADAPTS 2 yw ei ymrwymiad i gynaliadwyedd hirdymor. Ar ddiwedd pob ymyrraeth prosiect, datblygu cynllun gweithredu wedi’i deilwra, gan amlinellu camau clir ar gyfer addasu technoleg a gwella prosesau. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys amserlenni penodol, cyfrifoldebau dynodedig a dangosyddion perfformiad allweddol mesuradwy, er mwyn sicrhau fod busnesau’n gallu parhau i ddatblygu y tu hwnt i hyd y rhaglen.
Caiff darpariaeth y rhaglen ei strwythuro mewn dwy don, gydag ymweliadau safle a chynigion prosiect yn cael eu cwblhau cyn y ddwy don. Mae AMRC Cymru’n chwarae rôl ganolog yn darparu arbenigedd technegol a mynediad at gyfleusterau uwch. Mae partneriaethau cydweithredol â Choleg Cambria a Small World Consulting yn sicrhau hyfforddiant a chefnogaeth gynhwysol.
Er mwyn rhannu gwybodaeth a hybu’r defnydd o dechnoleg ar draws y gymuned weithgynhyrchu ehangach, bydd digwyddiad arddangos yn cael ei gynnal yn AMRC Cymru. Mae’r digwyddiad hwn yn darparu llwyfan ar gyfer buddiolwyr a pheirianwyr i gyflwyno canfyddiadau eu prosiect a rhannu arferion gorau, gan gyfrannu at ddatblygiad cyffredinol sector gweithgynhyrchu Sir y Fflint. Gwahoddir cymuned gweithgynhyrchu ehangach Sir y Fflint i’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn, gan fabwysiadu technoleg ymhellach.