Alert Section

Creu Lleoedd yn Sir y Fflint

Creu canol trefi bywiog a chynaliadwy ar draws Sir y Fflint

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol ar draws Cymru ddatblygu 'Cynlluniau Creu Lleoedd' i ddangos sut byddant yn nodi, cynllunio a darparu prosesau Creu Lleoedd ym mhob un o'u canol trefi. 

Mae hyn yn golygu rhoi anghenion canol trefi yn y dyfodol wrth wraidd polisïau, prosesau gwneud penderfyniadau a chamau gweithredu lleol.

Placemaking Flintshire Logo (BILINGUAL)

Gwyliwch:  Beth yw creu lleoedd?

Dysgwch am Greu Lleoedd a sut mae cymunedau ar draws Sir y Fflint yn siapio dyfodol eu canol trefi. 
Gwyliwch y fideo ar YouTube

Canol Trefi

7


Bwcle, Cei Connah, y Fflint, Treffynnon, yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton.

Lleisiau Cymunedol

12,000+


Cyfrannodd pobl leol drwy ymgynghoriadau.

Cynlluniau wedi’u Cwblhau

5 allan o 7


Mae’r Fflint a’r Wyddgrug yn aros am gymeradwyaeth Cabinet.

Yn Dod yn Fuan

Mae adnoddau a chynlluniau gweithredu newydd yn cael eu datblygu:

  • Mae Cynlluniau Gweithredu bellach ar waith ar gyfer Cei Connah a Queensferry - Nawr ar y gweill (A ddechreuodd ym mis Ebrill 2026)
  • Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer y Fflint a’r Wyddgrug - Aros am gymeradwyaeth y Cabinet
  • Cynlluniau Gweithredu ar gyfer y Fflint a’r - I ddechrau yn yr hydref 2026

Ymwelwch â www.placemakinginflintshire.co.uk/cy/ am y wybodaeth ddiweddaraf

Beth yw Creu Lleoedd?

Gweledigaeth a Arweinir gan y Gymuned

Mae Creu Lleoedd yn rhoi lleisiau pobl leol wrth wraidd cynlluniau ar gyfer canol trefi, gan gasglu syniadau a blaenoriaethau drwy ymgynghoriadau digidol ac wyneb yn wyneb.

Gweithredu Cydlynol

Dod â’r Cyngor, busnesau, grwpiau cymunedol a phartneriaid ynghyd i weithio tuag at nodau cyffredin a nodi cyfleoedd ar gyfer buddsoddi.

Cynllunio Hirdymor

Mae pob cynllun yn amlinellu gweledigaeth 5-10 mlynedd gyda blaenoriaethau clir.

Mae Cynlluniau Gweithredu’n nodi prosiectau penodol ar gyfer y flwyddyn neu ddwy nesaf.

Gall creu lleoedd gynnwys ailddefnyddio siopau gwag, gwneud tref yn fwy gwyrdd, creu’r amodau cywir i fusnesau dyfu a ffynnu, cyflwyno byw yng nghanol y dref a chefnogi pobl leol i gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau.


Cynnydd Ar Draws Saith Tref 

Mae Cynlluniau Creu Lleoedd yn cael eu datblygu ar gyfer saith tref ar draws Sir y Fflint. Dyma eu statws presennol:

Bwcle

✓ Wedi'i Gwblhau

Cynllun: ✓ Wedi’i gymeradwyo
Cynllun Gweithredu: ✓ Ar gael (2025-27)

Gweld y Cynllun (PDF) →
Gweld y Cynllun Gweithredu (PDF) →

Shotton

✓ Wedi'i Gwblhau

Cynllun: ✓ Wedi’i gymeradwyo
Cynllun Gweithredu: ✓ Ar gael (2025-27)

Gweld y Cynllun (PDF) →
Gweld y Cynllun Gweithredu (PDF) →

Treffynnon

✓ Wedi'i Gwblhau

Cynllun: ✓ Wedi’i gymeradwyo
Cynllun Gweithredu: ✓ Ar gael (2025-27)

Gweld y Cynllun (PDF) →
Gweld y Cynllun Gweithredu (PDF) →

Cei Connah

✓ Wedi'i Gwblhau

Cynllun: ✓ Wedi’i gymeradwyo
Cynllun Gweithredu: ⟳ Ar y gweill (wedi dechrau ym mis Ebrill 2026)

Gweld y Cynllun (PDF) →

Queensferry

✓ Wedi'i Gwblhau

Cynllun: ✓ Wedi’i gymeradwyo
Cynllun Gweithredu: ⟳ Ar y gweill (wedi dechrau ym mis Ebrill 2026)

Gweld y Cynllun (PDF) →

Y Fflint

⟳ Ar Y Gweill

Cynllun: Aros am gymeradwyaeth y Cabinet
Cynllun Gweithredu: I ddechrau yn yr hydref 2026

Dilyn y Cynnydd →

Yr Wyddgrug

⟳ Ar Y Gweill

Cynllun: Aros am gymeradwyaeth y Cabinet
Cynllun Gweithredu: I ddechrau yn yr hydref 2026

Dilyn y Cynnydd →

Mae ymgynghoriadau ar gyfer y Fflint a’r Wyddgrug bellach wedi cau. Mae angen cwblhau manylion terfynol y cynlluniau cyn cael cymeradwyaeth y Cabinet.

Placemaking Flintshire Logo (CYM)

Gweld Cynlluniau, Dogfennau a’r Wybodaeth Ddiweddaraf 

Mae’r holl gynnwys Creu Lleoedd Sir y Fflint ar gael ar wefan arbennig Creu Lleoedd yn Sir y Fflint - eich canolbwynt ar gyfer cynlluniau, diweddariadau a gwybodaeth. Bydd yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: 

  • Cynlluniau Creu Lleoedd cyflawn ar gyfer pob tref 
  • Crynodebau Gweithredol yn amlygu blaenoriaethau allweddol 
  • Cynlluniau Gweithredu yn dangos prosiectau 1-2 flynedd penodol 
  • Newyddion a diweddariadau mewn perthynas â chynnydd Creu Lleoedd 
  • Cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau yn y dyfodol 
Ymweld â’r Wefan Creu Lleoedd 

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw creu lleoedd?

Mae Creu Lleoedd yn broses sy’n digwydd yng nghanol pob tref yng Nghymru. Y bwriad ydi gosod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a nodi amrywiaeth o gyfleoedd a fyddai o fudd i’r dref, y bobl leol a’r sefydliadau lleol.

Disgwylir i bob awdurdod lleol ar draws Cymru gael cynlluniau creu lleoedd ar gyfer eu trefi - mae hyn yn amod ar gyfer sicrhau cyllid adfywio gan Lywodraeth Cymru. 

Dysgu mwy gan Gomisiwn Dylunio Cymru

Pam bod Cynlluniau Creu Lleoedd yn cael eu datblygu yn Sir y Fflint? 

Fel bob awdurdod lleol yng Nghymru, mae’n rhaid i Gyngor Sir y Fflint ddatblygu Cynlluniau Creu Lleoedd mewn ymateb i bolisi Llywodraeth Cymru. Mae angen y cynlluniau hyn i sicrhau argaeledd buddsoddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau adfywio canol trefi.

Mae’r cynlluniau yn helpu i sicrhau dull cydlynol i welliannau canol trefi, gan ddod â’r Cyngor a’i bartneriaid at ei gilydd i gydweithio. 

Sut mae pobl leol yn rhan o hyn?

Roedd ymgynghori â’r cyhoedd yn rhan ganolog o’r broses o Greu Lleoedd.  Roedd dau gam ar gyfer pob tref: 

  • Cam 1: Ymgynghori cychwynnol i gasglu barn am flaenoriaethau a heriau lleol
  • Cam 2: Ymgynghori ar y cynllun drafft ei hun

Darparwyd ymgynghoriadau ar-lein a thrwy sesiynau galw heibio wyneb yn wyneb. Mae adborth gan dros 12,000 o bobl leol wedi helpu i siapio’r cynlluniau ar gyfer 7 tref yn Sir y Fflint. 

Pwy sy’n gyfrifol am ddarparu’r cynlluniau? 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu datblygiad Cynlluniau Creu Lleoedd ar ran ystod o bartneriaid, yn seiliedig ar angen lleol bob canol tref.

Ar ôl eu cymeradwyo, bydd Cynlluniau Gweithredu yn cael eu darparu mewn partneriaeth rhwng y Cyngor a phartneriaid allanol, o’r cyhoedd i’r sectorau preifat a gwirfoddol. 

Sut mae’r gwaith yn cael ei ariannu?

Mae datblygiad y Cynlluniau Creu Lleoedd wedi’i ariannu gan gyllid a gafwyd trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Bydd cael Cynllun Creu Lleoedd ar waith ar gyfer bob tref yn helpu i ddenu cyllid ar gyfer prosiectau penodol yn y dyfodol sy’n cefnogi darpariaeth y cynlluniau. 

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth ynghylch Creu Lleoedd yn Sir y Fflint, cysylltwch â’r Tîm Adfywio:

E-bost: regeneration@siryfflint.gov.uk

Amser ymateb: o fewn 5 diwrnod gwaith