Alert Section

Ailgylchu Gwastraff Bwyd

Yn Sir y Fflint, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo arferion rheoli gwastraff cynaliadwy, a rhan hanfodol o hyn yw casglu ac ailgylchu gwastraff bwyd.

Mae’r dudalen hon yn darparu gwybodaeth werthfawr i breswylwyr Sir y Fflint allu cymryd rhan yn y gwasanaeth casglu gwastraff bwyd, gwybod beth ellir ac na ellir ei gynnwys, a’r manteision i’n cymuned ac amgylchedd.

Gwasanaeth Casglu Gwastraff Bwyd

Mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu ffordd gyfleus a hawdd i ddefnyddio gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol i bob aelwyd. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod:

Amserlen Casglu

Cynhelir casgliadau’n wythnosol ar yr un diwrnod â’ch cynwysyddion ailgylchu eraill.

Gallwch wirio eich diwrnod casglu ar-lein drwy glicio ar y ddolen isod, neu drwy ffonio canolfan gyswllt Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234.

Sicrhewch fod eich gwastraff bwyd yn cael ei roi allan i’w gasglu ar y diwrnod cywir erbyn 7am yn y bore gyda’ch cynwysyddion ailgylchu eraill. 

Darganfod fy niwrnod biniau

Cynwysyddion Casglu

Mae pob aelwyd yn cael cadi gwastraff bwyd ar gyfer casglu a storio gwastraff bwyd.

  • Cadi llai i’w ddefnyddio yn y tŷ
  • Cadi mwy i’w ddefnyddio tu allan, ar gyfer casgliad ymyl palmant (gyda chlo)
  • Bagiau bwyd y gellir eu compostio ar gyfer y cadi

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r bagiau sy’n cael eu darparu sydd wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer eich cadi bach; peidiwch â defnyddio bagiau plastig, biofagiau neu fagiau nad oes modd eu compostio.

Os nad oes gennych gadi gwastraff bwyd neu os oes arnoch angen bagiau bwyd, gwnewch gais ar-lein neu ewch i’ch Swyddfa ‘Cysylltu’ leol neu i’r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Tŷ agosaf i’w casglu.  

Cais ailgylchu eitemau/gwastraff

Beth allwch ei roi yn y Cadi Gwastraff Bwyd?

Gallwch roi’r eitemau canlynol yn eich cadi gwastraff bwyd:

  • Plicion ffrwythau a llysiau
  • Cig a physgod, yn cynnwys esgyrn a phlisgyn
  • Cynhyrchion llaeth
  • Bara, pasta, reis a grawn eraill
  • Plisgyn wyau
  • Bagiau te a gwaddodion coffi
  • Gweddillion o blatiau bwyd a bwyd dros ben
  • Bwyd nad yw’n fwytadwy neu fwyd sydd wedi pasio ei ddyddiad terfyn.

Beth i’w Osgoi

Er mwyn osgoi problemau yn y cyfleuster ailgylchu gwastraff bwyd, sicrhewch nad yw’r eitemau canlynol yn cael eu cynnwys yn eich cadi gwastraff bwyd: 

  • Hylifau, olewau neu fwyd poeth (mae’r rhain yn difetha’r bagiau)
  • Deunyddiau pacio (tynnwch ac ailgylchwch y deunyddiau pacio ar wahân, neu os yw’r bwyd heb ei agor ac o fewn ei ddyddiad, ystyriwch ei roi i fanc bwyd neu oergell gymunedol)
  • Bagiau plastig neu fagiau eraill nad oes modd eu compostio
  • Eitemau nad ydynt yn fwyd, megis napcynau, weips, deunydd pacio neu gyllyll a ffyrc ac ati.

Y Manteision o Gymryd Rhan

Drwy gymryd rhan yn y gwasanaeth casglu gwastraff bwyd, rydych hefyd yn cyfrannu at sawl mantais ar gyfer ein cymuned a’r amgylchedd: Mae’n hawdd ac yn cael ei gasglu’n wythnosol o’ch stepen drws.

  • Mae cynwysyddion a bagiau bwyd yn rhad ac am ddim i aelwydydd Sir y Fflint.
  • Mae’n ddull mwy amgylcheddol gyfeillgar o waredu gwastraff bwyd.
  • Mae’n lleihau arogleuon o wastraff bwyd yn pydru am bythefnos yn y bin du ac mae’n lleihau’r perygl o ddenu plâu.
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr: Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn helpu i leihau y methan sy’n cael ei ryddhau, sy’n nwy tŷ gwydr cryf iawn.
  • Mae’n helpu i gyflawni ein targedau ailgylchu cenedlaethol.
  • Cynhyrchu ynni adnewyddadwy: Mae gwastraff bwyd Sir y Fflint yn cael ei drosi i ynni adnewyddadwy drwy broses dreulio anaerobig, gan gyfrannu at gyflenwad ynni mwy cynaliadwy.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae pob darn o fwyd a wastraffir yn cael effaith ar yr amgylchedd - cludiant, tanwydd, dŵr, ynni - mae hyn i gyd yn adio. A thra bod gan lywodraethau a busnesau ran bwysig i’w chwarae, caiff 70% o’r bwyd a gaiff ei wastraffu yn y DU ei wastraffu gennym ni yn ein cartrefi ein hunain. Caiff chwarter o hyn, 1.1 miliwn tunnell, ei wastraffu bob blwyddyn yn syml gan ein bod yn prynu, paratoi, coginio neu’n gweini gormod o fwyd.

Banciau Bwyd ac Oergelloedd Cymunedol

Os ydych yn canfod fod gennych chi ormod o fwyd, ystyriwch ei roi i’r banc bwyd lleol neu’r oergell gymunedol fel y gall eraill yn y gymuned wneud defnydd ohono. Sylwch mai dim ond bwyd heb ei ddefnyddio/heb ei agor y mae modd ei roi i’r mannau hyn.

Ymunwch â Ni i Leihau Gwastraff Bwyd!

Drwy gymryd rhan yn y gwasanaeth casglu gwastraff bwyd, rydych yn chwarae rhan weithredol mewn lleihau gwastraff, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gwarchod yr amgylchedd, a chreu dyfodol mwy cynaliadwy i bawb. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth mawr.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych eisiau mwy o wybodaeth neu amserlenni casgliadau, ewch i’n gwefan neu ffoniwch ganolfan gyswllt Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234.

Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Os ydych eisiau lleihau gwastraff bwyd, eisiau mwy o wybodaeth a chyngor ar sut i arbed bwyd, arbed arian ac achub ein planed, ewch i Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff

Rhywbeth i feddwl amdano - Dewisiadau eraill

Os oes gennych chi fwyd dros ben neu fwyd nad yw’n addas i’w roi i fanciau bwyd, ystyriwch ei gompostio i’w ddefnyddio yn eich gardd fel cyflyrydd: Canllaw Hawdd i Wneud Compost Gartref