Na i'r bin, ia i ailddefnyddio!
Ailddefnyddio yw defnyddio rhywbeth unwaith eto ar gyfer ei bwrpas gwreiddiol neu ar gyfer pwrpas gwahanol drwy ailddefnyddio creadigol neu ail-bwrpasu.
Dyma’r opsiwn gorau cyn ailgylchu'r eitem.
Mae ailddefnyddio yn wahanol i Ailgylchu. Er mwyn Ailgylchu, mae’r cynnyrch yn mynd drwy broses ddiwydiannol i newid ei ffurf.
I weld rhagor o enghreifftiau, ymwelwch â :-
https://www.recycleforwales.org.uk/cy/ailddefnyddio
Ceisiwch osgoi defnyddio eitemau untro drwy brynu eitemau y gellir eu hailddefnyddio, gan arbed arian a lleihau effaith amgylcheddol hirdymor nwyddau untro. Rhowch gynnig ar y canlynol i weld y gwahaniaeth y gallwch chi ei wneud.
- Defnyddiwch boteli diodydd y gellir eu hail-lenwi
- Defnyddiwch rasel safonol, yn hytrach na rasel untro
- Prynwch fagiau am fywyd
Esiamplau o ailddefnyddio yn Sir y Fflint:-
Os yw eich plentyn rhwng 0 a 18 mis oed, gallwch fod yn gymwys i dalebau gwerth hyd at £75 tuag at brynu clytiau Cotwm neu Wasanaeth Golchi Clytiau Cotwm.
Gan fod y babi arferol yn defnyddio tua 5,000 o glytiau o’u geni tan iddynt ddysgu defnyddio’r toiled, mae Clytiau Ailddefnydd yn cynnig arbedion sylweddol.
Mae nifer o gyrff elusennol yn derbyn eitemau diangen, megis dillad, teganau, dodrefn, eitemau trydanol, a llawer mwy, i'w gwerthu ymlaen drwy ganolfannau dosbarthu neu siopau manwerthu.
I chwilio am eich siop elusen leol, ymwelwch â:
https://www.charityretail.org.uk/find-a-charity-shop/
Mae Refurbs yn elusen dim er elw sydd wedi’i leoli yn y Fflint. Cefnogwch nhw drwy gyfrannu unrhyw eitemau diangen, neu drwy ymweld â’n hystafelloedd arddangos i brynu. Ewch i:
https://www.groundworknorthwales.org.uk/refurbs/