Alert Section

Biniau sbwriel cyhoeddus

Darganfod mwy am finiau sbwriel cyhoeddus, beth i'w roi ynddyn nhw a beth i beidio â'i roi ynddyn nhw.

Mae biniau sbwriel cyhoeddus ond yn cael eu darparu ar gyfer gwastraff a gynhyrchir pan fyddwch allan yn gyhoeddus, a baw ci mewn bagiau. Ni ddylid eu defnyddio ar gyfer cael gwared â gwastraff domestig neu fusnes. Mewn canol trefi, mae’r biniau hyn yn cael eu gwagu 2 i 3 gwaith y dydd, ac yn rheolaidd mewn mannau eraill.

Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn nodi os yw unigolyn yn gollwng, taflu, rhoi neu adael unrhyw beth sy’n achosi difwyniad mewn lle cyhoeddus; maent yn cyflawni trosedd gollwng sbwriel.  Mae gwm cnoi a bonion sigaréts yn sbwriel.  Mae hi’n drosedd gwaredu gwastraff cartref neu fusnes ym miniau sbwriel y Cyngor.

Mae hi hefyd yn drosedd tipio anghyfreithlon i adael unrhyw fath o wastraff, gan gynnwys gwastraff domestig a busnes, ger bin sbwriel (e.e. bag bin du neu fag siopa). Os canfyddir bod eich gwastraff wedi’i adael yn anghyfreithlon, pa un ai ydych yn gwybod amdano ai peidio, fe allech chi gael dirwy o hyd at £5,000.

Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon

Cysylltu â Gwasanaethau Stryd

Contact Streetscene