Alert Section

Gwneud cais - Cynlluniau Llawn neu Hysbysiad Adeiladu


Hysbyseb Ffioedd 2018 - Rheoli Adeiladu

Mae gwahanol ffyrdd o wneud cais am gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu.  Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais Cynlluniau Llawn ond os yw’r gwaith yn fân waith adeiladu, gallwch gyflwyno Hysbysiad Adeiladu .  Os ydych wedi gwneud y gwaith eisoes ac yna wedi sylweddoli bod angen caniatâd, gallwch gyflwyno Cais Rheoleiddio .

Cais Cynlluniau Llawn

Wrth ddefnyddio'r weithdrefn Cynlluniau Llawn byddwch yn ceisio cael cymeradwyaeth ar gyfer cynlluniau manwl y gwaith adeiladu yr ydych yn dymuno ei wneud. Mae'r Ffurflen Gais a'r Nodiadau Cyfarwyddyd Cynlluniau Llawn isod yn rhoi gwybodaeth bellach i chi am y math hwn o gais gan gynnwys beth i'w anfon gyda'ch cais.

Gallwch ddewis ar y ffurflen cynlluniau llawn i roi pum wythnos neu ddeufis i'r Adran Rheoli Adeiladu wneud penderfyniad. Fel arfer gallwn roi penderfyniad i chi cyn pen 15 diwrnod gwaith, cyn belled a nad oes angen gwneud unrhyw newidiadau i'ch cynlluniau. Os felly, bydd yr amser penderfynu yn dibynnu ar ba mor hir y cymerwch i ddychwelyd y newidiadau sy'n ofynnol.

Byddwn yn archwilio'ch cynlluniau ac yn rhoi cyngor i chi am unrhyw newidiadau sy'n ofynnol er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu.

Ar ôl i ni wneud penderfyniad byddwn yn rhoi Hysbysiad Cymeradwyo i chi. Bydd hwn yn dweud wrthych p'un a all y gwaith ddigwydd ai peidio. Efallai y bydd yr hysbysiad yn cynnwys amodau penodol neu'n gofyn i chi ddarparu gwybodaeth bellach. Mae'n ddilys am dair blynedd o ddyddiad cyflwyno'r cynlluniau.

Ar ôl cael cymeradwyaeth, bydd angen cynnal archwiliadau ar y safle ar gyfnodau penodol o'r gwaith. Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau bydd angen cynnal archwiliad terfynol cyn y gellir cyflwyno Tystysgrif Gwblhau i chi.

Cais Hysbysiad Adeiladu

Mae'r weithdrefn Hysbysiad Adeiladu yn eich galluogi i ddechrau ar y gwaith heb orfod darparu cynlluniau manwl. Fodd bynnag, rydym yn eich argymell yn gryf i ddefnyddio'r weithdrefn Hysbysiad Adeiladu ar gyfer gwaith bach yn unig. Mae cost y weithdrefn Cynlluniau Llawn yr un fath â'r Hysbysiad Adeiladu a bydd Cynlluniau Llawn yn eich sicrhau'n well eich bod yn ateb gofynion y Rheoliadau Adeiladu. Hefyd, trwy baratoi cynlluniau manwl llawn byddwch yn sicrhau bod yr adeiladwr yn gallu prisio'r gwaith yn fanwl ac yn atal unrhyw ychwanegiadau costus i'r pris / cynllun gwreiddiol.

Mae'r Ffurflen Gais a Nodiadau Cyfarwyddyd Hysbysiad Adeiladu isod yn rhoi gwybodaeth bellach i chi am y math hwn o gais gan gynnwys beth i'w anfon gyda'ch cais.

Rhaid anfon y wybodaeth ofynnol a'r ffi gywir at yr Adran Rheoli Adeiladu o leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn i chi ddechrau'r gwaith. Cyn belled a'ch bod wedi gwneud hynny nid oes angen i chi aros am ymateb gennym gan na fydd Hysbysiad Cymeradwyo yn cael ei roi i chi am y math hwn o gais. Mae Hysbysiad Adeiladu'n ddilys am dair blynedd ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad i'r awdurdod lleol. Ar ôl hynny bydd yn mynd yn ddi-rym os nad yw'r gwaith adeiladu wedi dechrau.

Ar ôl dechrau'r gwaith bydd angen cynnal archwiliadau ar y safle yn ystod camau penodol. Ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau bydd angen archwiliad terfynol cyn y gellir rhoi Tystysgrif Gwblhau.

Nid yw hysbysiadau adeiladu yn ddigon ar gyfer rhai mathau o waith adeiladu, e.e. os ydych yn bwriadu adeiladu dros neu yn agos at bibell garthffosiaeth gyhoeddus bydd angen i chi wneud cais Cynlluniau Llawn.

Bydd y canllaw hwn yn mynd â chi drwy’r broses Rheoli Adeiladu. Nid yw’n cymryd lle cyngor proffesiynol, ond mae’n ceisio dangos sut y bydd y Rheoliadau Adeiladu’n effeithio ar eich prosiect.

Sut i wneud cais

Ar-lein trwy ddefnyddio'r wefan Submit a Plan (y porth cenedlaethol ar gyfer ceisiadau Rheoli Adeiladu). Cofrestrwch, llenwch y ffurflen ar-lein, atodwch eich dogfennau yna gallwch ddilyn cynnydd eich cais. Darperir canllaw llawn. Ni allwch dalu'r ffi ar-lein ar hyn o bryd.

Postiwch neu gludwch eich ffurflen gais, dogfennau gofynnol a'r ffi i'r cyfeiriad ar y ffurflen gais.

Ffurflen Gais a Nodiadau Cyfarwyddyd Cynlluniau Llawn 

Ffurflen Gais a Nodiadau Cyfarwyddyd Hysbysiad Adeiladu  

Beth yw'r gost?

Rhestr o Ffïoedd Rheoliadau Adeiladu a Nodiadau Cyfarwyddyd 

Mae cost gyffredinol y gwasanaeth yr un fath p'un a ydych yn cyflwyno Cais Cynlluniau Llawn neu Hysbysiad Adeiladu. Os ydych yn ansicr ynglŷn â'r costau sy'n daladwy neu os oes angen dyfynbris cystadleuol arnoch ar gyfer prosiectau mwy cysylltwch â ni.

  • Cynlluniau Llawn: Rhaid talu ffi cynllun wrth gyflwyno'r cynlluniau i'r Cyngor. Caiff y ffi archwilio ei chodi ar ôl yr archwiliad cyntaf.
  • Hysbysiadau Adeiladu: Rhaid i'r ffi Hysbysiad Adeiladu gael ei thalu pan gyflwynir yr Hysbysiad i'r Cyngor.

Gellir talu'r ffioedd yn unrhyw un o'r dulliau canlynol:

  • Arian parod os ydych yn ymweld Ty Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo yn unig. Peidiwch ag anfon arian parod drwy'r post.
  • Siec - yn daladwy i 'Cyngor Sir y Fflint'
  • Cerdyn Credyd - rydym yn derbyn MasterCard, Visa, Visa Electron, Maestro a Solo. Gallwch dalu yn nerbynfa Ty Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF neu ffoniwch 01352 703448 i dalu dros y ffôn.

Gwybodaeth bellach

Cysylltwch â ni am drafodaeth anffurfiol am eich cynigion os ydych yn ansicr neu os oes unrhyw broblemau'n codi.