Rydym yn defnyddio cwcis hanfodol i wneud i’r wefan hon weithio.
Hoffem ddefnyddio cwcis dadansoddi i ddeall sut yr ydych yn defnyddio’r wefan er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
Mae gan bob Awdurdod Lleol yng Nghymru a Lloegr Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (a elwir weithiau’n Dîm Troseddu Ieuenctid neu TTI (YOT)). Yn Sir y Fflint, mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi’i leoli yn Ewlo.
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint yn cydweithio â theuluoedd ac asiantaethau eraill i sicrhau bod pob plentyn yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i stopio ymddygiad troseddol a gweithio tuag at eu dyheadau.
Rydym ni hefyd yn gweithio gyda dioddefwyr troseddau ac yn sicrhau eu bod nhw’n cael cefnogaeth a chyfle i leisio eu barn.
Browser does not support script.
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint yn gweithio gyda phlant pan fo rheswm i gredu eu bod nhw mewn perygl o droseddu yn y dyfodol.
Os byddwch chi'n cyflawni trosedd mwy difrifol, neu os byddwch chi'n parhau i fynd i drafferth gyda'r heddlu, gall yr heddlu benderfynu mynd â'r achos i'r llys.
Bydd yr Ynadon yn gwneud penderfyniad ynglŷn â'ch dedfrydu ar ôl darllen adroddiadau a gwrando ar Wasanaeth Erlyn y Goron a chyfreithwyr yr amddiffyniad.
Fe all rhai pobl ifanc gael eu remandio i lety diogel neu eu dedfrydu i fod yn y ddalfa yn dibynnu ar benderfyniad y llys.
Rydym yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu'n rheolaidd gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd mewn modd diogel a pharchus, a pharchu preifatrwydd drwy'r amser.
Gwasanaethau cefnogi lleol a chenedlaethol - manylion cysylltu a gwybodaeth i'ch helpu i gael cefnogaeth.
Rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi'u heffeithio gan drosedd, rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a'ch helpu i gael mynediad at gyngor a gwasanaethau.
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint angen Aelodau Panel Cymunedol (gwirfoddolwyr) sy'n fodlon cynrychioli eu cymunedau.