Alert Section

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Ymyrraeth Gynnar a Phanel y Tu Allan i’r Llys

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint yn gweithio gyda phlant pan fo rheswm i gredu eu bod nhw mewn perygl o droseddu yn y dyfodol.

Os bydd person ifanc yn mynd i drafferth gyda'r Heddlu am y tro cyntaf, neu os yw'r heddlu’n penderfynu y byddai’n well mynd i’r afael ag ef y tu allan i'r llys, gallan nhw eu cyfeirio at y Panel y Tu Allan i'r Llys.

Mae'n ymwneud â rhoi’r gefnogaeth a'r offer i blant i wneud dewisiadau gwell.


Beth sy'n digwydd os cewch chi eich atgyfeirio at y Panel y Tu Allan i'r Llys?

Os ydych chi wedi cael eich atgyfeirio at y Panel y Tu Allan i’r Llys, gofynnir i chi, eich rhieni neu’ch gofalwyr - ac weithiau'r unigolyn yr effeithiwyd arno gan yr hyn a ddigwyddodd - gymryd rhan mewn sgwrs/asesiad. Mae'n ffordd i bawb ddeall yr hyn sy'n digwydd a'r ffordd orau o helpu.

Bydd grŵp o'r enw'r Panel y Tu Allan i’r Llys (sy'n cynnwys pobl o'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Gofal Cymdeithasol a'r Heddlu) yn edrych ar eich sefyllfa ac yn penderfynu pa fath o gefnogaeth neu gamau gweithredu sy'n iawn i chi, ar ôl gwrando ar eich syniadau a'ch barn a'r argymhelliad gan eich Gweithiwr Cyfiawnder Ieuenctid.

Gallai hyn gynnwys:

  • Canlyniad 22
    Rhaglen o ymyrraeth a chefnogaeth ac os cwblheir y rhaglen ni fydd camau ychwanegol yn cael eu cofnodi.
  • Datrysiad Cymunedol 
    Canlyniad anffurfiol i ymdrin â throseddau neu ddigwyddiadau lefel isel.
  • Rhybudd Ieuenctid
    Rhybudd ffurfiol.
  • Rhybudd Amodol Ieuenctid
    Rhybudd a rhai amodau i’w dilyn.

Y syniad yw eich helpu chi i symud ymlaen heb i bethau fynd yn fwy difrifol. Ond os yw'r panel o'r farn bod y drosedd yn fwy difrifol, efallai y bydd yn rhaid i'ch achos fynd i'r llys.

Canlyniad y Llys  - Paratoi, Mynychu, a Gohirio

Os byddwch chi'n cyflawni trosedd mwy difrifol, neu os byddwch chi'n parhau i fynd i drafferth gyda'r heddlu, gall yr heddlu benderfynu mynd â'r achos i'r llys. 

Fel arfer, bydd yr achos yn cael ei glywed mewn Llys Ieuenctid sydd wedi'i sefydlu'n arbennig ar gyfer plant. Yn y llys, efallai y cewch chi eich dedfrydu i benderfyniad ieuenctid.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gorchmynion Atgyfeirio – gweithio gyda phanel i wneud pethau'n iawn.
  • Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid – cael cefnogaeth a glynu wrth reolau penodol i newid pethau.
  • Dedfryd o Garchar – cael eich anfon i ganolfan gadw ieuenctid am gyfnod o amser.

Paratoi ar gyfer y Llys

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod pa ddyddiad ac amser y dylech chi fod yn y Llys.
  • Ceisiwch edrych mor smart ac mor lân â phosibl. Ni ddylid gwisgo het na chap yn y Llys, oni bai ei fod am resymau crefyddol. 
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod sut i gyrraedd y Llys.
  • Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi’n bresennol ar gyfer yr achos llys oherwydd byddai peidio â gwneud yn drosedd ddifrifol. 
  • Os oes rheswm da iawn dros fethu â bod yn bresennol ar gyfer yr achos llys, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r llys a/neu eich cyfreithiwr ar unwaith a byddan nhw’n dweud wrthych chi beth y dylech chi ei wneud. Er enghraifft os ydych yn sâl mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon nodyn meddyg.
  • Mae’r llys yn disgwyl i’ch rhieni / gofalwyr fod yn bresennol ac mae’n bosibl y byddan nhw’n cael gorchymyn i fod yn bresennol os ydych chi’n cyrraedd ar eich pen eich hun.
  • Os nad oes gennych chi gyfreithiwr, gallwch ofyn i gael gweld un pan fyddwch chi’n dod i’r llys (trwy gymorth cyfreithiol). 
  • Yn y llys, efallai y gofynnir i chi bledio’n ‘euog’ neu’n ‘ddieuog’. 

Mynd i’r Llys

  • Pan fyddwch chi’n cyrraedd y llys, mae’n rhaid i chi gofrestru wrth y ddesg flaen a bydd rhywun yn dangos i chi ble i aros. Ar y pwynt hwn, os nad oes gennych chi gyfreithiwr, gallwch ofyn i gael gweld un drwy gymorth cyfreithiol.
  • Dylech chi gael cyfle i drafod eich achos gyda'r Cyfreithiwr cyn mynd i mewn i ystafell y llys. 
  • Bydd rhywun o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yno ar eich diwrnod yn y Llys ac yn sicrhau eich bod chi’n deall beth sy’n digwydd ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. 
  • Bydd Tywysydd y Llys yn eich galw i mewn i ystafell y llys a dangosir i chi ble i sefyll.
  • Bydd Cynghorydd Cyfreithiol y Llys yn darllen y cyhuddiad/ cyhuddiadau yn eich erbyn. 
  • Efallai y gofynnir i chi bledio’n ‘euog’ neu’n ‘ddieuog’.
  • Ar ôl y llys, bydd modd i chi siarad â rhywun o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a byddan nhw’n rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf.
  • Rhowch wybod i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid os oes gennych chi unrhyw anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu neu os oes unrhyw beth nad ydych chi’n ei ddeall – rydym ni yno i helpu.

Euog neu’n ddieuog?

Os byddwch chi’n pledio’n ddieuog, caiff yr achos ei oedi ar gyfer treial.

Bydd hyn yn rhoi amser i’ch Cyfreithiwr a Chyfreithiwr Gwasanaeth Erlyn y Goron i baratoi eu hachosion. Mae hynny’n golygu y byddant yn casglu cymaint o wybodaeth ag y gallant ar gyfer yr Ynadon a fydd penderfynu p'un a ydych yn euog neu'n ddi-euog. 

Os byddwch chi’n pledio’n euog, gallai’r canlynol ddigwydd: 

  • Gallech chi gael eich dedfrydu ar y diwrnod
  • Gellid gohirio'r achos i roi amser i'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid gwblhau adroddiad amdanoch chi a'ch trosedd.

Achos wedi’i Ohirio

Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi ddod yn ôl ar ddiwrnod arall.

Mae Mechnïaeth Ddiamod yn golygu y gellir ymddiried ynoch i beidio â throseddu eto na chysylltu â thystion. Rhoddir ffydd ynoch chi hefyd i ddod i’r llys ar y dyddiad newydd.

Mae Mechnïaeth Amodol yn golygu y gallai'r Ynadon eich gorchymyn i gadw at yr amodau a osodir ganddynt. Er enghraifft: aros adref yn ystod amseroedd penodol a chadw draw oddi wrth rai pobl. Mae’n bwysig eich bod yn cadw at yr amodau hyn.

Os yw'r drosedd yn ddifrifol iawn weithiau bydd y llys yn penderfynu ei bod hi'n angenrheidiol eich cadw chi yn y ddalfa. Os bydd hynny’n digwydd, bydd yn rhaid i chi fynd i Sefydliad Troseddwyr Ifanc neu Ganolfan Hyfforddi Ddiogel nes dyddiad eich ymddangosiad nesaf yn y llys.

Dedfrydu a Gorchmynion

Bydd yr Ynadon yn gwneud penderfyniad ynglŷn â dedfrydu ar ôl darllen adroddiadau a gwrando ar Wasanaeth Erlyn y Goron a chyfreithwyr yr amddiffyniad.

Gorchymyn Atgyfeirio

Os yw plentyn (10 – 17 oed) yn ymddangos mewn llys am y tro cyntaf ac wedi pledio’n euog i’r drosedd, efallai y bydd yn cael Gorchymyn Atgyfeirio.

Mae Gorchmynion Atgyfeirio yn cael eu gwneud am gyfnod rhwng 3 a 12 mis.

Pan fydd y Llys wedi gwneud Gorchymyn Atgyfeirio, bydd aelod o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cysylltu â’r person ifanc a’i riant / gofalwr. Caiff y person ifanc orchymyn i ymddangos o flaen Panel Gorchymyn Atgyfeirio cyn pen 20 niwrnod ar ôl ymddangos yn y llys, gyda’i riant neu ofalwr.

Mae cyfarfod y Panel Gorchymyn Atgyfeirio yn dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd sydd wedi cael hyfforddiant penodol i gymryd rhan yn y paneli hyn, ymarferydd o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, y plentyn a’i riant neu ofalwr ac weithiau dioddefwr y drosedd.

Gyda’i gilydd maen nhw’n llunio rhaglen a all gynnwys nifer o elfennau gan gynnwys: gwaith gwneud iawn (gweithio gyda phrosiectau sydd o fudd i’r gymuned a’r / neu’r dioddefwr), treulio amser gyda gweithiwr a chwblhau gwahanol weithgareddau i wneud newidiadau cadarnhaol.


Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid

Mae’r Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid, a elwir hefyd yn GAI (YRO), yn ddedfryd gymunedol. Mae hyn yn golygu cyfarfod gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn eithaf aml i gwblhau gwahanol weithgareddau a thasgau. Bydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gweithio gyda chi i’ch helpu chi i gadw’n ddiogel a chadw o drwbl.

Mae’r mathau o weithgareddau a allai fod yn ofynnol i gwblhau rhaglen Gorchymyn Adsefydlu Ieuenctid yn cynnwys:

  • Addysg / hyfforddiant
  • Rheoli emosiynau
  • Gwneud iawn / gwaith di-dâl (rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned)
  • Cefnogaeth gan y teulu
  • Goruchwyliaeth
  • Rhaglen o weithgareddau
  • Cyrffyw.

I'ch helpu i gwblhau eich GAI, bydd eich gweithiwr troseddwyr ifanc yn:

  • Esbonio beth fydd yn digwydd yn ystod eich GAI a chreu rhaglen waith a gweithgareddau gyda chi.
  • Siarad gyda chi am yr hyn yr ydych wedi’i wneud a’r effeithiau y mae hynny wedi’i gael ar y dioddefwr a’r gymuned.
  • Ateb eich cwestiynau.
  • Eich cynorthwyo i gwblhau eich GAI, cofnodi eich cynnydd a’ch helpu i roi’r gorau i droseddu.
  • Rhoi adborth cadarnhaol i chi a’ch annog.

Beth a ddisgwylir gennych wrth weithio gyda’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid?

  • Cyrraedd apwyntiadau ar amser a chymryd rhan, fel arall byddwch chi’n cael rhybudd llafar ac ysgrifenedig. Os nad oes unrhyw newid o ran eich cyfranogiad, mae’n bosibl y bydd gofyn i chi fynd yn ôl i’r llys.
  • Os ydych chi’n sâl mae’n bosibl y bydd angen i chi gyflwyno nodyn gan eich meddyg teulu i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
  • Bydd disgwyl i chi gwblhau gweithgareddau a rhoi gwybod i’ch gweithiwr Cyfiawnder Ieuenctid os oes angen cymorth arnoch chi.
  • Peidio â mynd i apwyntiadau dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Os byddwch chi’n gwneud hynny gofynnir i chi adael a bydd yr apwyntiad yn cael ei ystyried yn apwyntiad a gollwyd.
  • Mae’n bwysig eich bod chi’n dangos parch ac nad ydych chi’n defnyddio iaith fygythiol yn ystod eich sesiynau na thuag at unrhyw aelodau o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
  • Rhowch wybod i ni os byddwch chi’n newid eich rhif ffôn neu eich cyfeiriad.

Remánd ac Yn y Ddalfa

Fe all rhai pobl ifanc gael eu remandio i lety diogel neu eu dedfrydu i fod yn y ddalfa yn dibynnu ar benderfyniad y llys.

Remánd

Os yw llys yn penderfynu nad yw person ifanc yn addas ar gyfer mechnïaeth, caiff ei gadw yn y ddalfa mewn llety cadw ieuenctid tan o leiaf y gwrandawiad llys nesaf. Gellir cadw person ifanc yn y ddalfa nes bod dedfryd derfynol yn cael ei rhoi ond gellir gwneud ceisiadau pellach am fechnïaeth yn ystod yr amser hwn.

Os caiff person ifanc ei arestio a’i gyhuddo, ac os nad yw’n bosibl ymddangos yn y llys ar yr un diwrnod (ar y penwythnos er enghraifft), ac os yw’r heddlu’n teimlo nad yw’n ddiogel rhoi mechnïaeth i’r person ifanc bydd yn cael ei gadw mewn llety diogel dros nos gan yr awdurdod lleol. Byddai’r person ifanc yn ymddangos yn y llys y bore wedyn (neu’r dydd Llun ar ôl cael ei arestio ar nos Sadwrn).


Y Ddalfa

Os yw person ifanc yn cael ei ddedfrydu i garchar gan y llys, bydd yn mynd yn syth i lety cadw ieuenctid. Ar gyfer pob penderfyniad i anfon person ifanc i ddalfa ieuenctid, bydd yn treulio hanner y ddedfryd mewn llety cadw ieuenctid a’r hanner arall ar drwydded yn y gymuned.

Os yw person ifanc yn torri telerau ei drwydded mae’n bosibl y bydd yn gorfod dychwelyd i lety cadw ieuenctid ac y bydd dyddiad rhyddhau newydd yn cael ei roi.

Bydd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cefnogi’r plentyn, y person ifanc a’i deulu yn ystod y cyfnod hwn ac yn ymweld â chi yn y ddalfa.

Os ydych chi’n rhiant ac yn pryderu am eich plentyn yn y ddalfa gallwch chi adrodd am hyn wrth y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a/neu gysylltu â’r sefydliad diogel yn uniongyrchol a siarad gyda’r Swyddog Dyletswydd.


Plant yn y Ddalfa

I adrodd pryderon am blentyn:

Os yw’ch pryder yn un brys, cysylltwch â’r heddlu ar 101 neu 999.


Dolenni defnyddiol eraill i blant

Os yw person ifanc yn cael anawsterau â’i iechyd meddwl:

I bobl ifanc lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol:

Cadw mewn Cysylltiad a Hysbysiad Preifatrwydd

Rydym yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn modd diogel a pharchus, a pharchu preifatrwydd drwy’r amser.

Rydym ni’n cadw mewn cysylltiad â chi (gan gynnwys rhieni a gofalwyr) mewn amrywiaeth o ffyrdd a all gynnwys;

  • Wyneb yn wyneb
  • Trwy alwadau fideo
  • Trwy neges destun
  • Trwy WhatsApp
  • Drwy’r post

Bydd eich gweithiwr yn cytuno â chi (ac mewn rhai achosion, eich rhiant neu ofalwr) ar y ffordd fwyaf priodol o gadw mewn cysylltiad â chi a nhw.

Rydym ni’n cadw cofnodion o'n cyswllt â chi (wyneb yn wyneb, ffôn, neges destun, galwad fideo a WhatsApp) a cheir rhagor o wybodaeth yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Mewn rhai amgylchiadau efallai bydd angen i ni rannu gwybodaeth â gweithwyr proffesiynol eraill a’ch rhieni neu’ch gofalwyr chi os ydych chi neu unigolion eraill yn rhannu unrhyw wybodaeth (wyneb yn wyneb, ffôn, galwad fideo neu Whatsapp) sy’n ein pryderu ni neu os ydym ni’n poeni amdanoch chi neu bobl eraill. Bydd eich gweithiwr yn egluro ‘Cyfrinachedd’ gyda chi.

Fodd bynnag, nid ydym ar gael bob amser. Rydym ond yn gweithio ar ddyddiau ac amseroedd penodol ac weithiau gall eich gweithiwr fod ar wyliau neu’n absennol o’r gwaith yn annisgwyl. Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi a'ch rhiant neu ofalwr pwy i gysylltu â nhw yn y sefyllfaoedd hyn, neu cysylltwch â ni dros y ffôn yn ystod oriau swyddfa.

Ein horiau gweithio

Dydd Llun – dydd Iau 9yb-5yp a dydd Gwener 9yb-4.30yp.

Gallwch chi ein ffonio ni ar 01352 701125.

Adegau nad ydym ni ar gael

Nosweithiau ar ôl 5yp (4.30yp ar ddyddiau Gwener) a thrwy’r penwythnos. Gelwir hyn yn ‘allan o oriau swyddfa’.

Ydyn ni’n gweithio dros y penwythnos?

Mae rhai plant yn cwblhau rhai gweithgareddau dros y penwythnos – byddwn ni’n trefnu i rywun siarad â chi os ydych yn cyflawni’r gweithgareddau hyn.

Pwy alla i siarad â nhw os oes gen i bryderon y tu allan i oriau swyddfa?

  • Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant Sir y Fflint
    0845 053 3116 (Argyfwng yn unig)
  • Childline
    0800 1111
  • CALL (llinell gymorth iechyd meddwl)
    0800 132 737
    call@helpline.wales
  • Heddlu Gogledd Cymru
    999 (Argyfwng)
    101 (Ddim yn argyfwng)

Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd - Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint

Cefnogaeth a Dolenni

Gwasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol - manylion cyswllt a gwybodaeth i’ch helpu chi i gael gafael ar gymorth.

Gwasanaethau Cymorth

MIND Gogledd Ddwyrain Cymru
Helpu trigolion Sir y Fflint a Wrecsam i reoli eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol.
Nid oes angen atgyfeiriad gan Feddyg Teulu.
E-bost: enquiries@newmind.org.uk
Ffôn: 01352 974430 (rhwng 9yb a 5yp yn ystod yr wythnos, a tan 9yp ar ddyddiau Mawrth/Iau)
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Cymorth i unrhyw un sydd wedi’u heffeithio gan gam-drin domestig neu drais rhywiol.
Ar gael 24/7
E-bost: info@livefearfreehelpline.wales
Ffôn: 0808 80 10 800
Neges destun: 07860077333
Gofal a Thrwsio Cymru
Helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol drwy wneud atgyweiriadau, addasiadau a chynnal a chadw eu tai.
Ffôn: 01352 758700
E-bost: caseworkers@careandrepairnew.co.uk
Uned Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU)
Mae’r Uned Diogelwch Cam-drin Domestig yn bodoli ar gyfer unrhyw un sydd wedi profi camdriniaeth ddomestig. 
Ffôn: 0333 360 0483
Tu allan i oriau swyddfa: 0808 80 10 800
E-bost: info@dasunorthwales.co.uk
Gwefan: dasunorthwales.co.uk
Cyngor ar Bopeth
Cyngor cyfrinachol am ddim.
Gwefan: www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/
NEWCIS - Cysylltiadau Buddiol
Gwybodaeth fuddiol a gwasanaethau cymorth cyffredinol ac arbenigol ar hyd a lled gogledd Cymru.
Gwefan: newcis.org.uk/useful-contacts
Wardeniaid Cymdogaeth (Sir y Fflint)
Mae'r Wardeiniaid yn darparu ac yn gosod offer gwella diogelwch i drigolion sy’n byw yn Sir y Fflint ac sydd wedi dioddef trosedd neu sy’n cael eu hystyried yn ‘ddiamddiffyn’.
Maen nhw hefyd yn ymweld ag aelodau o’r gymuned ar gais, i gynnig cyngor ar ddiogelwch a thawelu meddyliau.
Atgyfeiriadau: drwy’r Wardeiniaid neu’r Cynllun Gwarchod Cymdogaeth.
Ffôn: 01352 701818
Swyddfa: 09:00–17:00
Gweler gwefan Cyngor Sir y Fflint
Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru
Mae Canolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth arbenigol a therapi i unrhyw un dros 3 oed sydd wedi profi unrhyw fath o drais neu gamdriniaeth rywiol, naill ai’n ddiweddar neu yn y gorffennol.
Mae hefyd yn cynnig cymorth i bartneriaid ac aelodau teulu.
E-bost: info@rasacymru.org.uk
Ffôn: 01248 670 628
Llinell Gymorth: 0808 80 10 800
Gwefan: www.rasawales.org.uk/cy/cartref
Dewis Cymru
Dewis Cymru yw’r lle i gael gwybodaeth a chyngor am les a gwasanaethau lleol.
Gwefan: dewis.cymru
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (Sir y Fflint)
Gwasanaeth statudol am ddim sy’n helpu teuluoedd gyda materion gofal plant, iechyd a hamdden.
E-bost: fisf@siryfflint.gov.uk
Ffôn: 01352 703500
Gwefan: siryfflint.gov.uk/FIS
Sorted Sir y Fflint
Gwasanaeth statudol am ddim sy’n helpu teuluoedd gyda materion gofal plant, iechyd a hamdden.
E-bost: sorted@siryfflint.gov.uk
Ffôn: 01352 703490
Gweler gwefan Cyngor Sir y Fflint
Cymorth i Ddioddefwyr
Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn elusen annibynnol sy’n helpu pobl sydd wedi’u heffeithio gan drosedd a digwyddiadau trawmatig yng Nghymru a Lloegr.
Mae cymorth ar gael p’un a ydych chi wedi rhoi gwybod i’r heddlu am y drosedd ai peidio.
Llinell Gymorth: 0808 16 89 111
Sgwrs fyw: victimsupport.org.uk/live-chat
My Support Space: mysupportspace.org.uk/moj

Gwefannau Perthnasol


Cadw’n Ddiogel Ar-lein


Dogfennau Buddiol

Dioddefwyr Trosedd

Rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan drosedd, gan rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi a’ch helpu i gael mynediad at gyngor a gwasanaethau. 

Os yw plentyn neu unigolyn ifanc rhwng 10 a 17 oed sy’n byw yn Sir y Fflint yn cyflawni trosedd yn eich erbyn ac y rhoddir gwybod i Heddlu Gogledd Cymru am hynny, fe fyddwn yn cysylltu â chi. Bydd ein swyddog Cyswllt Dioddefwyr a Chyfiawnder Adferol fel arfer yn cysylltu ar ôl derbyn atgyfeiriad gan yr Heddlu neu’r Llysoedd, ond dim ond os ydych chi wedi rhoi caniatâd i’r Heddlu i ni wneud hynny. 

Os yw eich rhif ffôn neu eich cyfeiriad e-bost gennym ni, fe fyddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl. Os na fyddwn yn gallu cysylltu â chi dros y ffôn, fe fyddwn yn anfon llythyr atoch chi. Os ydych yn ddioddefwr trosedd a’ch bod o dan ddeunaw oed, yna fe fyddwn yn ffonio ac yn anfon llythyr ar eich rhiant/ gofalwr. 


Cod ymarfer ar gyfer dioddefwyr trosedd

Mae’r cod ymarfer hwn ar gyfer dioddefwyr trosedd yn ffurfio rhan allweddol o strategaeth ehangach y llywodraeth i drawsnewid y system gyfiawnder troseddol drwy roi dioddefwyr wrth wraidd cyfiawnder a rhoi manylion ynglŷn â sut y mae gofyn i asiantaethau ymateb i droseddau yn ein cymunedau lleol. I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dolenni ar waelod y dudalen. 

Mae’r cod yn ei gwneud yn ofynnol i Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint ystyried anghenion dioddefwyr yn gyffredinol ac mae’n rhaid i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid:

  • sicrhau bod staff sy’n gweithio gyda dioddefwyr wedi cael hyfforddiant priodol. 
  • cysylltu â dioddefwyr a’u galluogi i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â chymryd rhan yn y prosesau adferol. 
  • sicrhau bod dioddefwyr sy’n cytuno yn cael gwybod am ddatblygiad yr achos, y canlyniad, unrhyw achos o dor-cyfraith ac ymyriadau cyfiawnder adferol y gallant eu hystyried/ cymryd rhan ynddynt. 
  • cadw gwybodaeth dioddefwyr yn ddiogel yn unol â hysbysiad Preifatrwydd CSyFf (gweler y ddolen isod). 
  • Gall rhieni neu warcheidwaid dioddefwyr ifanc o dan 17 oed (cyn belled nad ydynt hwy eu hunain yn destun ymchwiliad neu gyhuddiad) dderbyn gwasanaethau o dan y cod yn ogystal â’r unigolyn ifanc.
  • Os ydych yn ddioddefwr trosedd fe allwch ddewis peidio â derbyn gwasanaethau o dan y cod ar unrhyw adeg. Mae’r cod yn datgan y dylai’r system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd fod yn hyblyg a sicrhau eich bod yn derbyn y lefel o wasanaeth yr ydych ei eisiau ar adeg benodol. 
  • Mae rhwymedigaethau’r cod yn berthnasol i ddioddefwyr uniongyrchol ac nid trydydd partïon na dioddefwyr anuniongyrchol fel tystion ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint i sicrhau fod dioddefwyr o dan 17 oed yn cael eu diffinio fel unigolion diamddiffyn a’u bod yn gymwys am wasanaeth lefel uwch. Gall hyn olygu cefnogaeth ychwanegol yn y Llys pe bai angen i chi fynychu fel tyst, neu fynediad at wasanaethau cefnogi arbenigol sy’n darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol gan gydnabod y gofynion wrth ymdopi gyda bod yn ddioddefwr ifanc o drosedd ddifrifol.

Beth allwn ni yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint ei wneud i chi?

Fe fyddwn yn dod i’ch cyfarfod, yn gwrando ar eich safbwyntiau ac yn egluro sut y gallwn eich cefnogi chi. Os nad yw hyn yn bosibl, fe fyddwn yn cynnig cysylltu â chi dros y ffôn neu TEAMS. 

Bydd eich cyfranogiad yn gwbl gyfrinachol, gwirfoddol a rhad ac am ddim. Byddwn yn:

  • gofyn i chi beth ddigwyddodd.
  • siarad am yr effaith y mae wedi’i chael arnoch chi a/neu eich teulu, cydweithwyr a ffrindiau.
  • ar gyfer unrhyw anghenion ychwanegol o ran cefnogaeth rydych wedi’i nodi, eich atgyfeirio at asiantaethau sy’n darparu cefnogaeth gan gynnwys Canolfan Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru, Cyngor ar Bopeth, asiantaethau statudol gan gynnwys Canolbwynt Cymorth Cynnar y gwasanaethau cymdeithasol neu asiantaethau arbenigol eraill sy’n cefnogi dioddefwyr trais domestig, troseddau rhyw neu droseddau yn ymwneud â chasineb. 
  • trafod unrhyw bryderon sydd gennych yn dilyn y drosedd. 
  • rhoi’r cyfle i chi i sicrhau y rhoddwyd ystyriaeth i’ch safbwyntiau yn ystod y broses o wneud penderfyniadau. 
  • egluro dedfryd yr unigolyn ifanc a sut y gwnaed y penderfyniad ar y canlyniad/ y ddedfryd a beth lywiodd y penderfyniad hwnnw. 
  • gofyn a hoffech chi gael gwybod am ddatblygiadau allweddol yn ystod dedfryd yr unigolyn ifanc. 
  • gofyn a hoffech chi gymryd rhan yn yr ymyriadau cyfiawnder adferol amrywiol a allai fod ar gael ac archwilio sut beth allai hwn fod ar eich cyfer chi a’ch anghenion. 

Mae ein cyfrifoldeb ni tuag atoch chi yn cynnwys y bydd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a’r Swyddog Cyswllt Dioddefwyr a Chyfiawnder Adferol yn parchu eich safbwyntiau bob amser, yn sicrhau cyfrinachedd ac yn darparu amgylchedd diogel ar gyfer unrhyw gyfarfodydd. Ni fyddwn yn cysylltu â chi eto os y gofynnwch i ni beidio â gwneud hynny na rhoi unrhyw bwysau arnoch chi i gyfarfod gyda’r unigolyn ifanc sydd wedi cyflawni’r drosedd os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.

Nod Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint yw atal a lleihau troseddu gan bobl ifanc yn ein cymunedau. Rydym yn credu mai un o’r ffyrdd o wneud hyn yw i bobl ifanc sy’n cyflawni troseddau gael eu cefnogi i gymryd cyfrifoldeb am y niwed y maent wedi’i achosi i’w dioddefwyr. Mae cyfiawnder adferol yn rhoi’r cyfle i chi, y dioddefwr i ofyn cwestiynau i’r troseddwr neu ddweud wrthynt sut mae eu hymddygiad wedi effeithio arnoch chi. Gall eich helpu chi i gau pen y mwdwl ar y mater a bod yn dawel eich meddwl. Gall hefyd fod yn gyfle i wneud iawn am y niwed a wnaed i chi. Mae cyfiawnder adferol yn galluogi’r unigolyn ifanc i wneud iawn i chi a’r gymuned yn ehangach. Bydd y swyddog cyfiawnder adferol yn eich cefnogi chi i gyfarfod â’r unigolyn ifanc sydd wedi eich niweidio ac yn eich helpu i egluro gwir effaith y drosedd. Os byddwch yn ystyried cymryd rhan yn hyn, bydd eich anghenion a'ch dymuniadau yn cael eu hystyried a byddwch yn cael cefnogaeth lawn gydag unrhyw ddewisiadau yr ydych chi’n ei gwneud. Mae cymryd rhan yn y broses yn gwbl wirfoddol ac fe allwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg. 

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y gall arferion cyfiawnder adferol weithio i chi dilynwch y ddolen ganlynol i ffilm fer. 

Os nad ydych yn dymuno cyfarfod â’r unigolyn ifanc sydd wedi cyflawni’r drosedd yn eich erbyn, fe all eich safbwyntiau gael eu mynegi gan swyddog cyswllt dioddefwyr a fydd yn eich cefnogi ac yn rhannu gwybodaeth â chi drwy gydol y broses. Mae’n bosibl yr hoffech ystyried beth ddylai’r unigolyn ifanc ei wneud i wneud iawn am y drosedd; gallai hynny fod i chi (gwneud iawn yn uniongyrchol) neu ar gyfer y gymuned yn ehangach (anuniongyrchol). 

Beth mae’r gwasanaeth yn ei wneud?

Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn darparu cefnogaeth i blant rhwng 8-17 oed, sy’n rhan o’r broses Gyfiawnder. Nod y gwasanaeth yw atal plant a phobl ifanc rhag troseddu. Fel rhan o hyn, rydym hefyd yn sicrhau bod anghenion dioddefwyr yn cael eu hasesu, fod gan ddioddefwyr lais a’u bod yn cael cefnogaeth yn dilyn trosedd. 

Beth alla i ei ddisgwyl? 

I ddechrau, bydd ein Swyddog Cyfiawnder Adferol yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn.  Fel rhan o’r cyswllt hwn, fe fyddwn yn ceisio; 

  • Cwblhau asesiad i ganfod beth fyddai’r ffordd orau o’ch cefnogi yn dilyn trosedd. 
  • Trafod y drosedd gyda chi ac archwilio cyfleoedd er mwyn i’ch llais gael ei glywed.
  • Archwilio ffyrdd i’ch helpu chi i deimlo’n ddiogel. 
  • Nodi unrhyw wasanaethau a all eich cefnogi chi.
  • Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi ynghylch achos sy’n effeithio arnoch. 

Oes rhaid i mi gymryd rhan?

Nac oes, er mwyn cysylltu â chi mae’n rhaid i ni gael eich caniatâd.

Mae angen i chi ddarparu’r caniatâd hwn i’r Heddlu pan fyddant yn cysylltu â chi. 

Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd?

Mae’r gwasanaeth yn wirfoddol ac fe allwch benderfynu faint o amser ac am ba hyd yr hoffech fod yn rhan o hyn. Byddwn yn cytuno gyda chi sut, pryd a lle yr hoffech i ni gysylltu â chi.

Pa gefnogaeth sydd ar gael i mi? 

Fel rhan o’r asesiad fe fyddwn yn archwilio gyda chi pa gefnogaeth rydych ei hangen ac yn archwilio gwasanaethau priodol a all eich cefnogi chi.

Beth yw fy hawliau?

Fel dioddefwr trosedd, mae gennych chi nifer o hawliau o dan y Cod Dioddefwr ac mae modd ei weld yma.

Beth os ydw i wedi bod yn ddioddefwr trosedd fel rhan o fy swydd? (e.e. swyddog heddlu, gweithiwr siop, gofalwr)

Rydych yn dal i fod yn ddioddefwr trosedd ac mae gennych chi yr un hawliau ac ni ddylid ystyried unrhyw drosedd fel ‘rhan o’r swydd’. Rydym yn awyddus i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a'ch bod yn cael eich cefnogi. Rydym yn gwerthfawrogi, os ydych chi'n gweithio shifftiau, y gall fod yn anodd trefnu amser i gyfarfod â’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, fodd bynnag, gallwn fod yn hyblyg er mwyn diwallu eich anghenion. 

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth? 

Cysylltwch â'n Swyddog Cyfiawnder Adferol ar 01352 701125 neu anfonwch e-bost yn yot.admin@siryfflint.gov.uk


Pwy i gysylltu â nhw yn Sir y Fflint 

Swyddog Cyfiawnder Adferol
Rhif ffôn: 01352 701125


Gwybodaeth Ychwanegol 

Dolenni i asiantaethau a all eich cefnogi/ cynghori neu a all roi arweiniad i chi fel dioddefwr trosedd:

Recriwtio Panel Cymunedol

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint angen Aelodau Panel Cymunedol (gwirfoddolwyr) sy'n fodlon cynrychioli eu cymunedau.

Rydym angen pobl fel chi!

Rydym angen Aelodau o Banel Cymunedol (gwirfoddolwyr) sy’n fodlon cynrychioli eu cymunedau.  Dynion a merched 18 oed a hŷn o unrhyw gefndir ethnig a chymdeithasol.

Rydym eisiau pobl sydd â sgiliau cyfathrebu da a phrofiadau bywyd.


Gyda phwy sydd Aelodau’r Panel Cymunedol yn delio â nhw?

Bydd plant a phobl ifanc 10 - 17 oed sy’n ymddangos yn y Llys Ieuenctid, sy'n pledio'n euog ac nid wedi'u dyfarnu'n euog o'r blaen, fel arfer yn cael eu trin drwy Orchymyn Atgyfeirio.

Mae hyd y Gorchymyn Atgyfeirio yn cael ei bennu gan y Llys (3 - 12 mis).

Yna, caiff yr unigolyn ifanc ei gyfeirio at Banel Troseddwyr Ifanc.


Beth yw Panel Troseddwyr Ifanc? 

Mae bob Panel Troseddwyr Ifanc yn cynnwys dau Aelod o’r Panel Cymunedol a gynorthwyir gan o leiaf un gweithiwr proffesiynol arall o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.  

Mae Aelodau o’r Panel Cymunedol yn arwain gyda:

  • cefnogi pobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad
  • cynorthwyo pobl ifanc i newid eu hymddygiad
  • cynorthwyo pobl ifanc i wneud iawn am y niwed y maent wedi'i achosi i bobl eraill
  • cynorthwyo pobl ifanc a'u dioddefwyr i gael eu hailintegreiddio i'w cymunedau

A fyddaf yn cael fy hyfforddi?

Byddwch. Nid ydym yn disgwyl i bobl gael yr holl sgiliau angenrheidiol i fod yn Aelod o’r Panel Cymunedol.

Byddwch yn cael hyfforddiant cychwynnol, sy’n drwm, yn bleserus ac yn rhyngweithiol, a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer swyddogaeth heriol, sy’n rhoi boddhad ac sy’n werthfawr.

Ar ôl i chi ddod yn Aelod o'r Panel Cymunedol byddwch yn parhau i gael hyfforddiant parhaus a goruchwyliaeth unigol i’ch cefnogi yn eich Gwaith.


Sut ydw i’n gwneud cais?

I gael ffurflen gais neu sgwrs anffurfiol, cysylltwch â:

Ffon: 01352 701125. 

E-bost: yot.admin@siryfflint.gov.uk

Youth Justice Service Logo - Landscape CYM