Rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan drosedd, gan rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi a’ch helpu i gael mynediad at gyngor a gwasanaethau.
Os yw plentyn neu unigolyn ifanc rhwng 10 a 17 oed sy’n byw yn Sir y Fflint yn cyflawni trosedd yn eich erbyn ac y rhoddir gwybod i Heddlu Gogledd Cymru am hynny, fe fyddwn yn cysylltu â chi. Bydd ein swyddog Cyswllt Dioddefwyr a Chyfiawnder Adferol fel arfer yn cysylltu ar ôl derbyn atgyfeiriad gan yr Heddlu neu’r Llysoedd, ond dim ond os ydych chi wedi rhoi caniatâd i’r Heddlu i ni wneud hynny.
Os yw eich rhif ffôn neu eich cyfeiriad e-bost gennym ni, fe fyddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl. Os na fyddwn yn gallu cysylltu â chi dros y ffôn, fe fyddwn yn anfon llythyr atoch chi. Os ydych yn ddioddefwr trosedd a’ch bod o dan ddeunaw oed, yna fe fyddwn yn ffonio ac yn anfon llythyr ar eich rhiant/ gofalwr.
Cod ymarfer ar gyfer dioddefwyr trosedd
Mae’r cod ymarfer hwn ar gyfer dioddefwyr trosedd yn ffurfio rhan allweddol o strategaeth ehangach y llywodraeth i drawsnewid y system gyfiawnder troseddol drwy roi dioddefwyr wrth wraidd cyfiawnder a rhoi manylion ynglŷn â sut y mae gofyn i asiantaethau ymateb i droseddau yn ein cymunedau lleol. I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y dolenni ar waelod y dudalen.
Mae’r cod yn ei gwneud yn ofynnol i Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint ystyried anghenion dioddefwyr yn gyffredinol ac mae’n rhaid i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid:
- sicrhau bod staff sy’n gweithio gyda dioddefwyr wedi cael hyfforddiant priodol.
- cysylltu â dioddefwyr a’u galluogi i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â chymryd rhan yn y prosesau adferol.
- sicrhau bod dioddefwyr sy’n cytuno yn cael gwybod am ddatblygiad yr achos, y canlyniad, unrhyw achos o dor-cyfraith ac ymyriadau cyfiawnder adferol y gallant eu hystyried/ cymryd rhan ynddynt.
- cadw gwybodaeth dioddefwyr yn ddiogel yn unol â hysbysiad Preifatrwydd CSyFf (gweler y ddolen isod).
- Gall rhieni neu warcheidwaid dioddefwyr ifanc o dan 17 oed (cyn belled nad ydynt hwy eu hunain yn destun ymchwiliad neu gyhuddiad) dderbyn gwasanaethau o dan y cod yn ogystal â’r unigolyn ifanc.
- Os ydych yn ddioddefwr trosedd fe allwch ddewis peidio â derbyn gwasanaethau o dan y cod ar unrhyw adeg. Mae’r cod yn datgan y dylai’r system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd fod yn hyblyg a sicrhau eich bod yn derbyn y lefel o wasanaeth yr ydych ei eisiau ar adeg benodol.
- Mae rhwymedigaethau’r cod yn berthnasol i ddioddefwyr uniongyrchol ac nid trydydd partïon na dioddefwyr anuniongyrchol fel tystion ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint i sicrhau fod dioddefwyr o dan 17 oed yn cael eu diffinio fel unigolion diamddiffyn a’u bod yn gymwys am wasanaeth lefel uwch. Gall hyn olygu cefnogaeth ychwanegol yn y Llys pe bai angen i chi fynychu fel tyst, neu fynediad at wasanaethau cefnogi arbenigol sy’n darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol gan gydnabod y gofynion wrth ymdopi gyda bod yn ddioddefwr ifanc o drosedd ddifrifol.
Beth allwn ni yng Ngwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint ei wneud i chi?
Fe fyddwn yn dod i’ch cyfarfod, yn gwrando ar eich safbwyntiau ac yn egluro sut y gallwn eich cefnogi chi. Os nad yw hyn yn bosibl, fe fyddwn yn cynnig cysylltu â chi dros y ffôn neu TEAMS.
Bydd eich cyfranogiad yn gwbl gyfrinachol, gwirfoddol a rhad ac am ddim. Byddwn yn:
- gofyn i chi beth ddigwyddodd.
- siarad am yr effaith y mae wedi’i chael arnoch chi a/neu eich teulu, cydweithwyr a ffrindiau.
- ar gyfer unrhyw anghenion ychwanegol o ran cefnogaeth rydych wedi’i nodi, eich atgyfeirio at asiantaethau sy’n darparu cefnogaeth gan gynnwys Canolfan Cymorth i Ddioddefwyr Gogledd Cymru, Cyngor ar Bopeth, asiantaethau statudol gan gynnwys Canolbwynt Cymorth Cynnar y gwasanaethau cymdeithasol neu asiantaethau arbenigol eraill sy’n cefnogi dioddefwyr trais domestig, troseddau rhyw neu droseddau yn ymwneud â chasineb.
- trafod unrhyw bryderon sydd gennych yn dilyn y drosedd.
- rhoi’r cyfle i chi i sicrhau y rhoddwyd ystyriaeth i’ch safbwyntiau yn ystod y broses o wneud penderfyniadau.
- egluro dedfryd yr unigolyn ifanc a sut y gwnaed y penderfyniad ar y canlyniad/ y ddedfryd a beth lywiodd y penderfyniad hwnnw.
- gofyn a hoffech chi gael gwybod am ddatblygiadau allweddol yn ystod dedfryd yr unigolyn ifanc.
- gofyn a hoffech chi gymryd rhan yn yr ymyriadau cyfiawnder adferol amrywiol a allai fod ar gael ac archwilio sut beth allai hwn fod ar eich cyfer chi a’ch anghenion.
Mae ein cyfrifoldeb ni tuag atoch chi yn cynnwys y bydd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a’r Swyddog Cyswllt Dioddefwyr a Chyfiawnder Adferol yn parchu eich safbwyntiau bob amser, yn sicrhau cyfrinachedd ac yn darparu amgylchedd diogel ar gyfer unrhyw gyfarfodydd. Ni fyddwn yn cysylltu â chi eto os y gofynnwch i ni beidio â gwneud hynny na rhoi unrhyw bwysau arnoch chi i gyfarfod gyda’r unigolyn ifanc sydd wedi cyflawni’r drosedd os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.
Nod Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint yw atal a lleihau troseddu gan bobl ifanc yn ein cymunedau. Rydym yn credu mai un o’r ffyrdd o wneud hyn yw i bobl ifanc sy’n cyflawni troseddau gael eu cefnogi i gymryd cyfrifoldeb am y niwed y maent wedi’i achosi i’w dioddefwyr. Mae cyfiawnder adferol yn rhoi’r cyfle i chi, y dioddefwr i ofyn cwestiynau i’r troseddwr neu ddweud wrthynt sut mae eu hymddygiad wedi effeithio arnoch chi. Gall eich helpu chi i gau pen y mwdwl ar y mater a bod yn dawel eich meddwl. Gall hefyd fod yn gyfle i wneud iawn am y niwed a wnaed i chi. Mae cyfiawnder adferol yn galluogi’r unigolyn ifanc i wneud iawn i chi a’r gymuned yn ehangach. Bydd y swyddog cyfiawnder adferol yn eich cefnogi chi i gyfarfod â’r unigolyn ifanc sydd wedi eich niweidio ac yn eich helpu i egluro gwir effaith y drosedd. Os byddwch yn ystyried cymryd rhan yn hyn, bydd eich anghenion a'ch dymuniadau yn cael eu hystyried a byddwch yn cael cefnogaeth lawn gydag unrhyw ddewisiadau yr ydych chi’n ei gwneud. Mae cymryd rhan yn y broses yn gwbl wirfoddol ac fe allwch newid eich meddwl ar unrhyw adeg.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y gall arferion cyfiawnder adferol weithio i chi dilynwch y ddolen ganlynol i ffilm fer.
Os nad ydych yn dymuno cyfarfod â’r unigolyn ifanc sydd wedi cyflawni’r drosedd yn eich erbyn, fe all eich safbwyntiau gael eu mynegi gan swyddog cyswllt dioddefwyr a fydd yn eich cefnogi ac yn rhannu gwybodaeth â chi drwy gydol y broses. Mae’n bosibl yr hoffech ystyried beth ddylai’r unigolyn ifanc ei wneud i wneud iawn am y drosedd; gallai hynny fod i chi (gwneud iawn yn uniongyrchol) neu ar gyfer y gymuned yn ehangach (anuniongyrchol).
Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn darparu cefnogaeth i blant rhwng 8-17 oed, sy’n rhan o’r broses Gyfiawnder. Nod y gwasanaeth yw atal plant a phobl ifanc rhag troseddu. Fel rhan o hyn, rydym hefyd yn sicrhau bod anghenion dioddefwyr yn cael eu hasesu, fod gan ddioddefwyr lais a’u bod yn cael cefnogaeth yn dilyn trosedd.
I ddechrau, bydd ein Swyddog Cyfiawnder Adferol yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn. Fel rhan o’r cyswllt hwn, fe fyddwn yn ceisio;
- Cwblhau asesiad i ganfod beth fyddai’r ffordd orau o’ch cefnogi yn dilyn trosedd.
- Trafod y drosedd gyda chi ac archwilio cyfleoedd er mwyn i’ch llais gael ei glywed.
- Archwilio ffyrdd i’ch helpu chi i deimlo’n ddiogel.
- Nodi unrhyw wasanaethau a all eich cefnogi chi.
- Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â chi ynghylch achos sy’n effeithio arnoch.
Nac oes, er mwyn cysylltu â chi mae’n rhaid i ni gael eich caniatâd.
Mae angen i chi ddarparu’r caniatâd hwn i’r Heddlu pan fyddant yn cysylltu â chi.
Mae’r gwasanaeth yn wirfoddol ac fe allwch benderfynu faint o amser ac am ba hyd yr hoffech fod yn rhan o hyn. Byddwn yn cytuno gyda chi sut, pryd a lle yr hoffech i ni gysylltu â chi.
Fel rhan o’r asesiad fe fyddwn yn archwilio gyda chi pa gefnogaeth rydych ei hangen ac yn archwilio gwasanaethau priodol a all eich cefnogi chi.
Fel dioddefwr trosedd, mae gennych chi nifer o hawliau o dan y Cod Dioddefwr ac mae modd ei weld yma.
Rydych yn dal i fod yn ddioddefwr trosedd ac mae gennych chi yr un hawliau ac ni ddylid ystyried unrhyw drosedd fel ‘rhan o’r swydd’. Rydym yn awyddus i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed a'ch bod yn cael eich cefnogi. Rydym yn gwerthfawrogi, os ydych chi'n gweithio shifftiau, y gall fod yn anodd trefnu amser i gyfarfod â’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, fodd bynnag, gallwn fod yn hyblyg er mwyn diwallu eich anghenion.
Cysylltwch â'n Swyddog Cyfiawnder Adferol ar 01352 701125 neu anfonwch e-bost yn yot.admin@siryfflint.gov.uk
Pwy i gysylltu â nhw yn Sir y Fflint
Swyddog Cyfiawnder Adferol
Rhif ffôn: 01352 701125
Gwybodaeth Ychwanegol
Dolenni i asiantaethau a all eich cefnogi/ cynghori neu a all roi arweiniad i chi fel dioddefwr trosedd: