Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ymchwiliad Cyhoeddus - cyflawni Carbon Net Sero

Published: 10/07/2023

Mewn cefnogaeth i’r datganiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru, cynhyrchodd a chyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint ei Strategaeth Newid Hinsawdd gyntaf ym mis Chwefror 2022. 

Gan gynnwys themâu megis defnydd tir, adeiladau, symudedd a chludiant, caffael a newid ymddygiad, mae’r Strategaeth yn nodi ystod o gamau gweithredu bydd y Cyngor yn eu cymryd i gyflawni Carbon Net Sero erbyn 2030.

Er mwyn craffu a monitro cynnydd y Cyngor yn erbyn y camau gweithredu hyn yn effeithiol, ffurfiwyd Pwyllgor Newid Hinsawdd ym Mai 2022.  

Fel rhan o’r gwaith hwn mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus ar ddau faes sy’n effeithio ar liniaru, ac addasu i, newid hinsawdd.

Mae’r cyntaf mewn perthynas â llifogydd o fewn ffiniau Sir y Fflint, yn arbennig llifogydd dwr wyneb, ac mae’n awyddus i glywed gan bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd ac os ydynt yn teimlo bod atal llifogydd yn cael ei drin yn briodol. 

Mae’r ail yn ymwneud â Chronfa Bensiynau Clwyd, ac mae’r Pwyllgor yn gofyn am farn ar ei dargedau buddsoddi net sero a dadfuddsoddi mewn cwmnïau tanwydd ffosil. 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, y Cynghorydd Alasdair Ibbotson:

“Dyma’r Ymchwiliad Cyhoeddus cyntaf a gynhelir gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y Cyngor, ac rydym yn awyddus i glywed gan weithwyr proffesiynol, trigolion ac aelodau o’r cyhoedd sy’n barod i rannu eu profiadau, barn a meddyliau, ar un neu’r ddau destun sydd o dan sylw ar hyn o bryd.  Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw 18 Awst 2023 ar gyfer Llifogydd a 4 Awst 2023 ar gyfer Cynllun Pensiwn Clwyd, a hoffwn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan.”

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan ar wefan y Cyngor:

Cronfa Bensiynau Clwyd

Llifogydd

Gall preswylwyr sy’n methu cael mynediad at yr wybodaeth ar-lein y cyfeiriwyd ati uchod ymweld ag un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu rhwng 9am a 4.30pm ar y diwrnodau a restrir isod:

• Bwcle – dydd Mawrth neu ddydd Iau 

• Cei Connah, y Fflint neu Dreffynnon – dydd Llun i ddydd Gwener

• Yr Wyddgrug – dydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener