Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Eithriadau i’r ddeddfwriaeth 20mya - dechrau ymgynghoriad statudol 

Published: 28/07/2023

Daw deddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru i rym ar ddydd Sul, 17 Medi 2023 ac o’r dyddiad hwnnw bydd yn ddyletswydd gyfreithiol ar bob cyngor yng Nghymru i gyflwyno’r 20mya ar holl ffyrdd cyfyngedig.

Ym mis Tachwedd 2022, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ‘feini prawf eithriadau’ hefyd.  Diben hwn yw rhoi rhywfaint o hyblygrwydd i gynghorau lleol i gadw terfynau cyflymder 30mya, lle bo hynny’n briodol, ar rai ffyrdd cyfyngedig, ar yr amod eu bod yn cwrdd â’r meini prawf.  

I bennu ‘eithriad’ i ffordd gyfyngedig, mae’n rhaid i gynghorau lleol gael achos clir a rhesymegol dros wneud hynny sy’n profi bod tystiolaeth gref yn bodoli y byddai cadw terfyn cyflymder uwch yn ddiogel.  Ni fydd pob ffordd 30mya bresennol yn bodloni’r prawf hwn, ond mae’n debygol y bydd rhannau o ffyrdd yn bodloni’r prawf.  

Yn dilyn asesiad o ffyrdd lleol gan ddefnyddio meini prawf ‘eithriad’ Llywodraeth Cymru a thrwy gydweithio’n agos â Chynghorwyr y Sir, mae nifer o ffyrdd yn Sir y Fflint wedi cael eu hadnabod fel eithriadau posib ac mae modd eu gweld ar FapData Cymru https://mapdata.llyw.cymru/maps/roads-affected-by-changes-to-the-speed-limit-on-re/    

Dechreuwyd proses ymgynghori ffurfiol ar y newidiadau arfaethedig hyn ar 28 Gorffennaf 2023, am gyfnod Ymgynghori Statudol o 3 wythnos a daeth y cyfnod i ben ar ddydd Gwener, 18 Awst.

• A549 Ffordd yr Wyddgrug, Mynydd Isa

• A549 Ffordd Caer / Dirty Mile - Little Mountain, Bwcle

• B5127 Ffordd Lerpwl, Bwcle 

• B5128 Ffordd yr Eglwys, Bwcle

• Drury Lane, Bwcle 

• Parc Dewi Sant, Ewlo

• Ffordd White Farm, Bwcle

• A541 Hendre

• A541 Ffordd Dinbych, Yr Wyddgrug

• A5104 Cyfnewidfa Warren Bank - Brychdyn

• A5026 Holway Road, Treffynnon

• B5121 Ffordd Maes Glas, Treffynnon

• B5129 Kelsterton Road – Kelsterton

• B5129 Cylchfan Queensferry

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y newidiadau arfaethedig a sut i gynnig sylwadau arnynt ar Wefan y Cyngor.  Mae’r cynigion wedi cael eu hysbysu yn y papur newydd lleol a bydd hysbysiadau hefyd yn cael eu harddangos yn lleoliadau’r cynigion.    Mae pecynnau gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio yng Nghanolfannau Cyswllt y Cyngor rhwng 9am a 4.30pm ar y dyddiau isod:

• Bwcle – dydd Mawrth neu ddydd Iau

• Cei Connah a Treffynnon – dydd Llun i ddydd Gwener

• Yr Wyddgrug – dydd Llun, dydd Mercher neu ddydd 

• Gwener

Er ei fod yn bosib hysbysebu’r newidiadau arfaethedig hyn yn ffurfiol dros yr haf, ni ellir gweithredu’r Gorchmynion Rheoleiddio Traffig sydd eu hangen yn gyfreithiol tan ar ôl 17 Medi 2023 yn dilyn cyflwyno’r ddeddfwriaeth newydd. Nes bydd y broses ymgynghori statudol wedi cael ei gwblhau, nid yw’n bosib dweud sawl un o’r ffyrdd wedi’u rhestru uchod fydd yn newid i 30mya, ond ar gyfer y rheiny fydd yn newid mae’n golygu ar 17 Medi mi fyddan nhw’n newid yn ddiofyn i 20mya a ddim yn cael ei newid i 30mya nes bod y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig wedi cael eu gweithredu.   Mae pa mor hir y bydd yn ei gymryd i’r gorchmynion rheoleiddio traffig gael eu gweithredu yn dibynnu ar nifer o ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad statudol a’r broses o ystyriaeth ac ymateb ffurfiol.  

Ar ôl cyflwyno’r ddeddfwriaeth terfyn cyflymder 20mya cenedlaethol ym mis Medi, bydd cymunedau lleol yn gallu cyflwyno ffyrdd eraill i’w hystyried drwy wefan y Cyngor.  Bydd mwy o wybodaeth ar sut all drigolion wneud hyn ar gael yn yr hydref.  

SYLWER: Er ei fod yn gysylltiedig â gwaith y Cyngor i baratoi ar gyfer cyflwyno’r ddeddfwriaeth 20mya, mae’r broses ymgynghori a ddechreuwyd ar ddydd Gwener, 21 Gorffennaf ac sy’n cau ar ddydd Gwener, 11 Awst, yn broses ar wahân i’r ‘eithriadau’ arfaethedig sydd bellach yn cael ei hysbysebu ac yn berthnasol i’r posibilrwydd o gynyddu terfynau cyflymder presennol uwchben 30mya ar nifer fechan o ffyrdd ar draws y sir. Mae rhagor o wybodaeth am y cynigion hyn ar gael ar wefan y Cyngor https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-Apps/NewsPortlet.aspx?id=14550