Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae deddfwriaeth 20mya Llywodraeth Cymru bellach mewn grym

Published: 18/09/2023

Bu gweithwyr y Cyngor yn gweithio drwy’r nos, o nos Sadwrn hyd oriau mân fore dydd Sul, yn tynnu’r sticeri 30mya fel bod arwyddion 20mya i'w gweld yn glir i yrwyr a fydd yn gyrru fore dydd Sul.  

Yn dilyn adolygiad o ffyrdd Sir y Fflint, gan ddefnyddio meini prawf lleoliad 20mya a meini prawf eithriadau Llywodraeth Cymru, nodwyd nifer o ffyrdd a allai fod yn ‘eithriadau’ i ddeddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru ac a fydd yn newid yn ôl i fod yn 30mya. Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol dros yr haf ynghylch y rhain.

Yn ogystal â’r ‘eithriadau’ nodwyd nifer fach o ffyrdd hefyd lle gallai fod yn bosibl codi terfynau cyflymder presennol uwchlaw 30mya ac y bydden nhw hefyd yn amodol ar ymgynghoriad ffurfiol. 

Mae'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriadau hyn wedi'u hasesu'n ddiduedd gan y Cyngor yn rhan o'r broses statudol ffurfiol.  

Hyd nes y bydd y broses hon wedi'i chwblhau, nid yw'n bosibl dweud pryd, na faint o'r ffyrdd a gyflwynwyd y bydd eu terfyn cyflymder nhw’n newid a hyd nes y bydd y broses hon wedi'i chwblhau, bydd y ffyrdd hyn yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru. 

Mae yna hefyd rai darnau o ffyrdd yn Sir y Fflint sydd â therfyn cyflymder 30mya, ond nad oes ganddynt oleuadau stryd. Yn yr ardaloedd hyn, mae’r terfyn cyflymder wedi’i osod drwy lunio dogfen gyfreithiol o’r enw Gorchymyn Rheoleiddio Traffig a elwir yn ‘30mya Trwy Orchymyn’. 

Mae’n bosibl bod hyn wedi’i wneud i wella diogelwch ar y ffordd, neu pan fo tref neu bentref wedi tyfu dros amser a’u bod nhw bellach y tu hwnt i hyd y colofnau goleuadau stryd gwreiddiol.   

Gellir gweld y rhestr lawn o ffyrdd ‘30mya Trwy Orchymyn’ ar wefan y Cyngor.

Nid yw pob darn presennol o ffyrdd ‘30mya Trwy Orchymyn’ yn bodloni meini prawf deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru, ond pan fyddan nhw’n bodloni’r meini prawf, gan fod y terfyn cyflymder presennol wedi’i osod gan Orchymyn Rheoleiddio Traffig cyfreithiol, ni all y terfyn cyflymder newid hyd nes y caiff gorchymyn 20mya newydd ei greu, hyd nes y cynhelir ymgynghoriad arno a’i weithredu, o bosib.   

Mae’r Gorchmynion hyn wedi’u hysbysebu’n ddiweddar ac mae gwrthwynebiadau’n cael eu hystyried ar hyn o bryd.  Mae’r dogfennau ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor.   

O ystyried faint o waith y bydd yn cael ei wneud dros y penwythnos, mae'n bosibl y bydd rhai arwyddion 30mya, a ddylai bellach fod yn 20mya, wedi'u methu. Cyn rhoi gwybod i’r Cyngor am arwydd a fethwyd, byddem ni’n gofyn i drigolion wirio’r wefan yn gyntaf i weld a yw’r ffordd wedi’i rhestru’n ‘30mya Trwy Orchymyn’.