Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tanysgrifiad gwastraff gardd: sticeri newydd i gefnogi casgliadau dibynadwy

Published: 18/02/2026

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwneud newidiadau i’w wasanaeth casglu gwastraff gardd gyfer 2026/27, er mwyn helpu i sicrhau bod casgliadau yn effeithlon ac yn ddibynadwy ar gyfer preswylwyr.

Bydd pob cwsmer sy’n tanysgrifio i’r gwasanaeth yn derbyn sticer melyn newydd ar gyfer eu bin. Ni fydd y sticer RFID presennol yn ddilys mwyach, ac ni fyddant yn cael eu defnyddio ar gyfer casgliadau yn ystod y cyfnod gwasanaeth newydd.

Unwaith mae preswylydd wedi tanysgrifio’n llwyddiannus, byddant yn derbyn pecyn gyda sticer a chyfarwyddiadau o fewn 10 diwrnod. Gofynnir bod preswylwyr yn rhoi’r sticer melyn newydd ar eu bin gwastraff gardd yn unol â’r cyfarwyddiadau, er mwyn sicrhau bod eu bin yn parhau i gael ei gasglu.

Bydd y newid yn helpu criwiau i nodi’r biniau sydd wedi tanysgrifio’n gyflym ac yn glir, gan gefnogi casgliadau di-dor, a lleihau’r risg o fethu casgliadau.

Dywedodd y Cynghorydd Glyn Banks, Aelod Cabinet Gwastraff a Chludiant: “Mae’r newid hwn yn bwriadu gwneud y gwasanaeth gwastraff gardd mor ddibynadwy ac yn effeithlon â phosib ar gyfer preswylwyr. Bydd symud i system sticer newydd yn helpu ein criwiau i adnabod biniau’n haws, a symleiddio’r casgliadau.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau manteisio ar y gwasanaeth i danysgrifio mewn da bryd, fel eu bod yn derbyn eu sticer newydd cyn i’r cyfnod casglu gychwyn.”

Ynghyd â’r casgliadau arferol bob pythefnos am naw mis o’r flwyddyn, bydd y gwasanaeth nawr yn cynnwys casgliadau misol ym mis Rhagfyr 2026, mis Ionawr 2027 a mis Chwefror 2027.

Bydd dyddiadau casglu biniau brown ond yn ymddangos ar y porth ‘gwirio eich diwrnod biniau’ ar gyfer preswylwyr gyda thanysgrifiad gweithredol, a dalwyd amdano.

Drwy danysgrifio, byddwch yn ein helpu ni i droi gwastraff gardd yn rhywbeth gwerthfawr. Yn hytrach na’i anfon i safle tirlenwi, neu i gael ei losgi, bydd y Cyngor yn ei drawsnewid i fod yn gyflyrydd pridd sy’n llawn maeth yn safle Compostio Maes Glas. Yna, mae’r compost ar gael, yn rhad ac am ddim, i breswylwyr ym mhump o’n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.

Cost flynyddol y tanysgrifiad gwastraff gardd ar gyfer 2026 yw £38 (beth bynnag fo dyddiad y taliad). Gallwch dalu: