Council Tax and Misinformation
Rydym ni’n ymwybodol y gall trethdalwyr gael eu camarwain weithiau gan grwpiau ar-lein neu negeseuon cyfryngau cymdeithasol sy’n honni bod Treth y Cyngor yn ddewisol neu fod datgan eich hun yn “rhyddfreiniwr” yn dileu’ch rhwymedigaeth i dalu. Mae’r honiadau hyn yn ffug ac nid oes sail gyfreithiol iddynt.
Os ydych chi wedi cael cyngor o’r fath, efallai eich bod chi wedi’ch twyllo gan sgam neu gamwybodaeth. Mae arnom ni eisiau eich helpu drwy egluro’r ffeithiau a chefnogi pawb sy’n ansicr ynghylch eu cyfrifoldebau.
Eich rhwymedigaeth gyfreithiol i dalu Treth y Cyngor
Mae Treth y Cyngor yn ofyniad cyfreithiol dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, mae’r gyfraith hon yn rhoi awdurdod i gynghorau lleol gasglu Treth y Cyngor i ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Nid yw’ch rhwymedigaeth i dalu Treth y Cyngor yn seiliedig ar ganiatâd personol neu gontract gyda’r Cyngor. Mae’n berthnasol i bob preswylydd cymwys, waeth beth fo’u credoau neu eu datganiadau personol.
Peryglon dilyn cyngor ffug
Gall gwrthod talu Treth y Cyngor ar sail camwybodaeth arwain at gostau ychwanegol a chanlyniadau difrifol i chi, yn cynnwys:
• Camau gorfodi cyfreithiol
• Achos llys
Angen help neu gyngor?
Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am eich rhwymedigaeth Treth y Cyngor neu bryderon ynghylch gwybodaeth rydych chi wedi’i chael, cysylltwch â ni. Rydym ni yma i’ch cefnogi a darparu canllawiau clir a chywir i chi.