Alert Section

Credyd Cynhwysol


Hysbysiadau Symud

Bydd unigolion sy’n hawlio Credydau Treth ar hyn o bryd yn derbyn llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn egluro bod Credydau Treth yn dod i ben, a bydd angen iddynt wneud cais am Gredyd Cynhwysol. 

Rwyf wedi derbyn llythyr Hysbysiad Symud i Gredyd Cynhwysol, beth ddylwn ei wneud yn awr?

Sicrhewch eich bod yn darllen y llythyr yn ofalus.  Os yw’n nodi y dylech hawlio Credyd Cynhwysol, ni fydd hyn yn cael ei gyflawni’n awtomatig felly mae’n bwysig dilyn y cyfarwyddiadau a hawlio erbyn y dyddiad cau yn y llythyr, fel arall bydd eich budd-daliadau yn dod i ben. 

Pa gymorth sydd ar gael?

Mae cymorth ar gael i gwsmeriaid sy’n derbyn hysbysiad symud ac mae’r manylion yn y llythyr.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Llinell ffôn benodol
  • Canllawiau ar gov.uk
  • Staff mewn Canolfannau Byd Gwaith 

Mae Cyngor ar Bopeth hefyd ar gael i ddarparu cefnogaeth drwy’r cynllun ‘Helpu i Hawlio’. Mae modd cysylltu â nhw ar 08000 241 220, pwyswch 1 ar gyfer Cymraeg neu 2 ar gyfer Saesneg, neu ewch i wefan Cyngor ar Bopeth.

Mae’r cynllun yn cynnwys:

  • Gwirio hawl i Gredyd Cynhwysol
  • Helpu i wneud hawliad
  • Paratoi ar gyfer apwyntiad y Ganolfan Waith
  • Gwirio bod y Taliad Cynhwysol yn gywir 

Mae Credyd Cynhwysol wedi bod ar waith yn Sir y Fflint ers mis Ebrill 2014 (Gwasanaeth Byw) yn darparu cymorth ariannol i deuluoedd incwm isel a fyddai fel arfer wedi hawlio Lwfans Ceisio Gwaith.

Hawliadau Newydd

Fodd bynnag, o fis Ebrill 2017, ehangwyd Credyd Cynhwysol i’r holl hawlwyr newydd, sy’n cael ei alw’n Gredyd Cynhwysol ‘gwasanaeth llawn’, ac mae’n disodli’r chwe budd-dal yma:

  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith

Mae hyn yn golygu nad ydych yn gallu gwneud hawliad ar gyfer Budd-Dal Tai, ond byddwch yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol.  Mae swm eich Credyd Cynhwysol yn dibynnu ar eich amgylchiadau a’ch incwm.  Mae eich taliad Credyd Cynhwysol wedi’i ffurfio o ‘lwfans safonol’ sylfaenol ac unrhyw symiau ychwanegol sy’n gymwys i chi.  Gallwch gael mwy o arian i’ch helpu i dalu eich costau tai, mae faint rydych yn ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych yn byw mewn tŷ â chymorth, ni fydd eich hawliad am Gredyd Cynhwysol yn cynnwys unrhyw gostau tai.  Bydd angen i chi hawlio Budd-dal Tai gan yr awdurdod lleol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/credyd-cynhwysol

Mudo Naturiol

Digwydd hyn pan fyddwch yn adrodd am newid amgylchedd cymwys i’ch budd-dal etifeddol.  Dyma rai enghreifftiau o pa bryd fyddwch chi’n symud i Gredyd Cynhwysol:

  • Rydych chi’n unig riant yn cael Cymhorthdal Incwm ac mae eich plentyn ieuengaf yn troi’n 5 oed neu’n gadael yr aelwyd yn barhaol
  • Rydych chi’n dod yn gyfrifol am blentyn am y tro cyntaf
  • Rydych chi’n rhoi’r gorau i weithio oherwydd salwch
  • Rydych chi’n symud cyfeiriad i ardal wasanaeth lawn
  • Rydych chi'n hawlio credydau treth ac yn gwahanu o'ch partner

Am fwy o wybodaeth am rhestr lawn o feini prawf mudo naturiol, ewch i www.gov.uk/credyd-cynhwysol

Sut ydw i’n hawlio Credyd Cynhwysol?

Mae’r llywodraeth yn disgwyl bron i bawb hawlio a rheoli eu Credyd Cynhwysol ar-lein.  I hawlio credyd cynhwysol, rhaid i chi sefydlu cyfrif credyd cynhwysol i lenwi’r cais, byddwch hefyd yn rheoli eich hawliad parhaus ar-lein drwy’r cyfrif hwn. Byddwch angen mynediad ar-lein rheolaidd felly i gadw eich amgylchiadau’n gyfredol a sicrhau eich bod yn cael eich talu’n gywir.

Mae cyfrifon credyd cynhwysol wedi’u llunio i weithio'r un fath ar gyfrifiaduron bwrdd gwaith, gliniaduron, dyfeisiau llechen a ffonau clyfar.I sefydlu a chynnal eich cyfrif, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfrif e-bost yr ydych yn ei ddefnyddio’n rheolaidd
  • y gallu i lenwi ffurflen ar-lein a nodi data personol
  • y gallu i greu a llwytho dogfennau megis eich CV
  • sganio neu dynnu lluniau o dystiolaeth a llwytho’r rhain i’ch cyfrif

Cliciwch ar y ddolen hon i wylio fideo sy’n egluro sut i hawlio Credyd Cynhwysol;

Help gyda rhent

Mae elfen costau tai Credyd Cynhwysol, sy’n disodli Budd-dal Tai i denantiaid, yn cael ei thalu’n uniongyrchol i chi, yn hytrach na’i thalu i’ch landlord, fel sy’n digwydd gyda llawer o hawlwyr Budd-dal Tai presennol.

Fodd bynnag, gall y tenantiaid hynny sydd angen cefnogaeth cyllidebu neu sy’n mynd i ôl-ddyledion rhent ar ôl mis neu ddau, gael eu helfen rhent ac ôl-ddyledion rhent wedi'u talu'n uniongyrchol i'r landlord, am gyfnod dros dro.

Sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu?

I gael Credyd Cynhwysol, byddwch angen cyfrif gyda banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.  Gall cyfrifon cerdyn Swyddfa Bost fod yn rhy gyfyngedig ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Help a chefnogaeth ychwanegol dan Gredyd Cynhwysol

Mae’r llywodraeth yn cydnabod y bydd symud i un taliad aelwyd misol yn newid sylweddol i’r ffordd y caiff y rhan fwyaf o fudd-daliadau eu talu ar hyn o bryd, ac mae wedi cyflwyno Trefniadau Talu Amgen sy’n darparu’r cymorth canlynol dros dro os cewch eich nodi fel un sydd angen cefnogaeth ychwanegol:

  • Talu am yr elfen dai o Gredyd Cynhwysol fel Taliad a Reolir yn uniongyrchol i'r landlord
  • Amlach na thaliadau misol
  • Dyfarndaliad wedi’i haneru rhwng partneriaid

Cefnogaeth Cyllidebu Personol

Byddwch hefyd yn cael cynnig Cefnogaeth Cyllidebu Personol os ydych yn cael eich ystyried yn ddiamddiffyn ac angen cyngor ariannol i’ch helpu i reoli eich arian bob mis, a thalu eich biliau ar amser.  Gallwch gael cefnogaeth unrhyw bryd, unwaith y bydd eich hawliad am Gredyd Cynhwysol wedi’i wneud. 

Cliciwch y ddolen hon i lenwi Ffurflen Cefnogaeth Cyllidebu.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau pellach cysylltwch â’r Tîm Ymateb Diwygio'r Gyfundrefn Les ar 01352 704848 neu anfonwch e-bost at welfarereformresponse@flintshire.gov.uk.

Cymorth Digidol

Gallwch gael cymorth wrth wneud hawliad ar-lein, diweddaru eich cyfrif a nodi newid mewn amgylchiadau. Mae ein staff wedi’u hyfforddi i ddarparu help a chefnogaeth os oes angen ac mae ar gael yn unrhyw un o’n Canolfannau Cyswllt.

Cronfa Cymorth Dewisol

Cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth.

Cronfa Cymorth Dewisol

Cymorth Treth y Cyngor

Nodwch nad ydyw Credyd Cynhwysol yn cynnwys unrhyw gymorth tuag at eich costau Treth y Cyngor. Felly bydd angen i chi ymgeisio am Gymorth Treth y Cyngor ar-lein.

Taliadau Dewisol Tai

Mae Taliadau Dewisol Tai yn daliadau y gellir eu gwneud gan y Cyngor i bobl sy'n cael Credyd Cynhwysol (Elfen Dai), ond a all fod angen rhagor o gymorth ariannol gyda'u costau tai. Cliciwch yma i wneud cais.

Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgol

Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gael Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) a Grant Hanfodion Ysgol hefyd os ydych chi’n hawlio Credyd Cynhwysol.  Cliciwch ar y ddolen hon i wneud cais

Gwybodaeth Ddefnyddiol

I weld a oes hawl gennych, cliciwch ar y ddolen i fynd i’r Gyfrifiannell Credyd Cynhwysol.

I ddeall mwy am y broses hawlio Credyd Cynhwysol ar-lein, cliciwch ar y ddolen hon.

Gweler hefyd UC and You a fydd yn agor dogfen wedi’i hatodi a fydd yn rhoi rhagor o fanylion am beth mae Credyd Cynhwysol yn ei olygu i chi.

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais am Gredyd Cynhwysol, ewch i www.gov.uk/credyd-cynhwysol.

Os oes angen rhagor o gefnogaeth neu gyngor arnoch, anfonwch e-bost at y Tîm Ymateb Diwygio'r Gyfundrefn Les ar WRRT@flintshire.gov.uk