Alert Section

Y gyllideb a gwasanaethau lleol


Cwestiynau Cyffredin

Pam bod bwlch yn y gyllideb, o le mae hyn yn dod? 

Mae’r rhan fwyaf o’n cyllid (68%) yn dod gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar ffurf Grant Cynnal Refeniw. 

Ers 2008, yn sgil gostyngiadau mewn cyllid gan y Deyrnas Unedig a llywodraethau cenedlaethol, roedd rhaid i Gyngor Sir y Fflint leihau ei wariant o £110 miliwn, felly ychydig iawn o gyfleoedd sydd ar ôl i dorri ymhellach ar wariant. 

Mae’r bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2024/25 yn dod o bethau fel:

  • cynnydd yng nghyflog y gweithlu - mae’r rhain yn cael eu trafod a’u cytuno yn genedlaethol ond nid yw cynghorau yn cael cyllid ychwanegol i dalu amdanynt
  • costau ynni, bwyd a thanwydd a gwasanaethau eraill
  • cynnydd yn y galw am wasanaethau megis digartrefedd a gofal cymdeithasol
  • cyfrifoldebau newydd heb eu hariannu gan Lywodraeth Cymru  
  • costau cynyddol gan bartneriaid allanol e.e. Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Crwneriaid Gogledd Cymru a darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol

Pa mor fawr yw’r bwlch ar gyfer 2024/25?

Mae cynllunio i osod y gyllideb ar gyfer 2024/25 wedi bod yn mynd rhagddo drwy’r flwyddyn ac wrth i ni barhau i ragweld a chynllunio, mae’r bwlch wedi amrywio. Yn gynnar yn y flwyddyn nodwyd bwlch dechreuol o £32 miliwn.   

Erbyn Medi 2023 roeddem wedi canfod datrysiadau a fyddai’n lleihau’r bwlch o £18 miliwn.  Roedd hyn yn seiliedig ar setliad rhagweladwy o 3.1% mewn Cyllid Llywodraeth Cymru a rhagdybiaeth cynllunio yn seiliedig ar gynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor.   Roedd hyn yn gadael bwlch o £14 miliwn i’w ganfod eto. 

Yn gynnar ym mis Rhagfyr 2023, cafodd y sefyllfa ei diweddaru ac roedd y bwlch o £14m wedi lleihau i £11m. 

Cafwyd setliad dros dro llywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023.  Er bod cynnydd cyfartalog o 3.1% i’r cyllid i gynghorau lleol yng Nghymru, yn ôl y disgwyl, roedd y swm y bydd Sir y Fflint yn ei gael yn llai, ond yn 2.2%.

Mae hyn yn golygu y bydd Sir y Fflint yn cael £1.725m yn llai nag yr oeddem wedi cynllunio ar ei gyfer, fydd yn cynyddu’r bwlch yn y gyllideb o’r £11m a adroddwyd ym mis Rhagfyr i £12.8m.  

Ar ben y gostyngiad hwn i’n cyllid craidd disgwyliedig, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi gwneud newidiadau i bethau eraill fydd yn effeithio ar gyllideb y Cyngor.  Pethau fel cynlluniau sy’n gysylltiedig a Threthi Annomestig Cenedlaethol, Grant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol a grantiau i ymdrin â Digartrefedd.  Bydd y newidiadau hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar gyllideb y Cyngor, gyda’r potensial am gynnydd arall i’r bwlch o £12.8m.

Mae’r Cyngor bellach yn paratoi ei gynigion i fynd i’r afael â’r bwlch hwn sydd ar ôl i aelodau etholedig eu hystyried. 

Ydi pob Cyngor yn cael trafferth mantoli’r cyfrifon neu Sir y Fflint ydi’r unig un?

Mewn arolwg diweddar gan Gymdeithas Trysoryddion Cymru, wedi’i gydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae’n amlwg fod holl Gynghorau yng Nghymru yn profi’r un heriau ariannol. Er enghraifft, mae gorwariant rhagweledig o £220 miliwn ar draws 22 Cyngor Cymru yn y flwyddyn ariannol bresennol a chyfanswm o bwysau costau o £809 miliwn ar gyfer 2024/25.

Ydi Llywodraeth Cymru yn rhoi'r un swm i bob Cyngor i ariannu gwasanaethau?

Wrth ddyrannu ei gyllideb gyffredinol mae Llywodraeth Cymru yn dynodi cyfran i ariannu gwasanaethau’r cyngor.  Yna mae’r arian yn cael ei rannu rhwng y 22 Cyngor yng Nghymru.  Mae’r swm mae pob cyngor yn ei dderbyn yn cael ei gyfrifol trwy Fformiwla Cyllido Llywodraeth Leol.  Mae’n ystyried pethau fel maint daearyddol y cyngor, pa mor wledig ydyw, maint y boblogaeth, yr economi yn yr ardal o ran cyfoeth a thlodi.

Mae gan Sir y Fflint y chweched boblogaeth fwyaf yng Nghymru, fodd bynnag, o dan y Fformiwla Cyllido, mae Sir y Fflint yn Gyngor wedi’i ariannu’n isel, yn yr 20fed safle allan o 22 Gyngor o ran y swm o arian mae’n ei dderbyn fesul pen y boblogaeth.   Mae hyn £159 yn is fesul person na chyfartaledd Cymru.  Os byddai Sir y Fflint yn derbyn cyfartaledd Cymru byddem tua £24.7m yn well allan yn ariannol.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwariant Refeniw a Chyfalaf? 

Y ffordd hawsaf i egluro’r gwahaniaeth rhwng Refeniw a Chyfalaf yw yn nhermau aelwyd. Mae cyfalaf yn talu am yr eitemau mawr na brynir yn aml (tŷ neu gar) ac mae refeniw yn talu am bethau bob dydd er mwyn eu cadw i fynd, fel gwres, goleuadau, bwyd, disel ac ati. 

Mae’r Cyngor yn defnyddio ei Gyfalaf er mwyn buddsoddi mewn pethau a fydd yn para am amser hir, pethau fel gwelliannau i adeiladau ysgol neu gartrefi gofal.  Yn ogystal â thalu am bethau dydd i ddydd megis cyflogau, gwres a goleuadau, mae cyllid refeniw hefyd yn talu am gostau dydd i ddydd casgliadau biniau wythnosol, pecynnau gofal ar gyfer pobl hŷn a diamddiffyn, llety ar gyfer y digartref ac ati.  

Er, o dan y rheolau presennol mae’n bosibl defnyddio cyllid Refeniw er mwyn helpu cefnogi pryniant Cyfalaf, nid yw’n bosibl defnyddio arian Cyfalaf i dalu am gostau Refeniw.  Er enghraifft, pe bydd y Cyngor yn gwerthu darn o dir, bydd yr arian a dderbynnir yn arian Cyfalaf a gallai ond gael ei wario ar brosiectau Cyfalaf eraill.  Ni ellir ei ddefnyddio i dalu am gostau rhedeg dydd i ddydd.

Pa gamau y mae’r Cyngor wedi eu cymryd dros y blynyddoedd diwethaf i fantoli cyfrifon?

Mae Sir y Fflint wedi gostwng ei wariant o £110 miliwn dros y 15 blynedd ddiwethaf. 

Rydym wedi cyflawni’r gostyngiad anferth hwn drwy wneud pethau fel:

  • gostyngiad o bron i 50% mewn swyddi uwch reoli a’u cefnogaeth 
  • gostyngiad mewn swyddi rheolwyr canol
  • gostyngiad o 40% mewn swyddi clercyddol a chostau
  • lleihau holl gyllidebau gwasanaeth (heblaw Ysgolion a Gwasanaethau Cymdeithasol) 30% - rhai cyn belled â 45% 
  • gofod swyddfa wedi lleihau 20% 
  • gwaredu dau adeilad swyddfa mawr a dymchwel 50% o Neuadd y Sir, yr Wyddgrug
  • uno chwe depo yn un cyfleuster newydd a mwy effeithiol yn Alltami
  • rhannu adeiladau gyda phartneriaid fel Heddlu Gogledd Cymru yn Nhreffynnon a’r Fflint
  • arbed arian yn y modd yr ydym yn prynu a gyrru cerbydau’r Cyngor
  • newid y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau – Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, cwmni newydd a grëwyd ac sy’n cael ei redeg gan gyn weithwyr y Cyngor / NEWydd - cwmni masnachu sy’n eiddo i’r Cyngor yn darparu gwasanaethau glanhau ac arlwyo
  • gweithio gyda chymunedau lleol lle bu diddordeb mewn rhedeg gwasanaethau lleol e.e. Canolfan Hamdden Treffynnon, Caffi Isa.  
  • NEW Homes - cwmni masnachu sy’n eiddo i’r Cyngor sy’n darparu cartrefi i bobl leol
  • SHARP (Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol) - adeiladu tai Cyngor newydd a thai fforddiadwy
  • Double Click - menter gymdeithasol newydd sy'n darparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion â phroblemau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu
  • integreiddio gwasanaethau gyda chynghorau eraill yn y rhanbarth i rannu costau e.e. addysg
  • caffael neu swmp-brynu gyda chynghorau eraill i gael gwell bargen e.e. caledwedd cyfrifiadurol
  • adolygu ffioedd a thaliadau bob blwyddyn  

Pam na all y Cyngor ddefnyddio'r arian sydd ganddo wrth gefn i helpu i fantoli'r cyfrifon?

Pan rydym yn cyfeirio at ‘gronfeydd wrth gefn’ rydym yn sôn am arian mae’r Cyngor yn ei gadw bob blwyddyn i dalu am wariant annisgwyl neu argyfyngau, er enghraifft cost digwyddiad tywydd eithafol megis Storm Babet a Storm Ciaran. 

Nid yw’r Cyngor yn cadw cronfeydd wrth gefn mawr, ac yn debyg i gynilion aelwyd, unwaith i ni fynd i mewn iddynt i dalu am rywbeth yna mae’r arian wedi mynd.   Lefel sylfaen presennol y Cyngor o ran cronfeydd wrth gefn yw £5.769 sef 1.6% o Gyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor.  Dyma amddiffyniad olaf y Cyngor mewn digwyddiad o amgylchiadau anrhagweladwy ac mae’n isel iawn o’i gymharu â Chynghorau eraill yng Nghymru. 

Yn ogystal â’r lefel sylfaen o gronfeydd wrth gefn, mae gennym gronfa wrth gefn at raid sydd wedi cael ei adeiladu o danwariant yn y blynyddoedd blaenorol.  Ar hyn o bryd, dim ond £3m yw hyn, ac nid yw’n rhoi unrhyw gadernid i’r Cyngor yn yr hinsawdd ariannol bresennol.

Pwy sydd yn talu am Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru?

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwarchod preswylwyr, busnesau a chymunedau ar draws y rhanbarth trwy wasanaethau ataliol ac ymatebol, gan gynnwys diogelwch yn y cartref, atal a diffodd tanau, ac ymateb i wrthdrawiadau ffordd, ac argyfyngau eraill gan gynnwys tywydd gwael.  

Bob blwyddyn, mae’n rhaid i'r Cyngor Sir dalu mewn i gronfa gyfun y gwasanaeth tân i gwrdd â chostau blynyddol y Gwasanaeth Tân ac Achub.    Fe’i gelwir yn Ardoll flynyddol y Gwasanaeth Tân.  Ar gyfer 2023/24 talodd y Cyngor ardoll o £9.9m.

Er nad oes ‘praesept’ ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i’w weld ar eich bil Treth y Cyngor – mae rhan o’r Dreth Cyngor rydych yn ei dalu yn helpu'r Cyngor i ariannu’r gwasanaeth tân ac achub.   

Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd o dan bwysau rhag costau cynyddol a disgwylir y bydd angen i Gynghorau Gogledd Cymru gyfrannu mwy i’r gyllideb yn 2024/25 i’w helpu i gael cyllideb gytbwys.  Ar gyfer Sir y Fflint, mae hyn swm ychwanegol o £1.166m.   Petai’r gost ychwanegol hon yn cael ei hychwanegu at filiau Treth y Cyngor, yn seiliedig ar eiddo cyfartalog Band D, byddai aelwydydd yn Sir y Fflint yn cyfrannu £20.28 yn ychwanegol y flwyddyn (neu 39c yr wythnos) i'r Awdurdod Tân ac Achub i ddarparu gwasanaethau lleol hanfodol.  

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a rôl yr Awdurdod Tân.  

Pwy sy’n talu am Wasanaeth Crwneriaid Rhanbarthol Gogledd Cymru? 

Mae gan Wasanaeth Crwner Gogledd Ddwyrain Cymru gyfrifoldeb statudol i ymchwilio i farwolaeth y rhoddir gwybod iddynt amdani a all fod yn dreisgar, yn annaturiol, o achos anhysbys neu pan fo’r farwolaeth wedi digwydd yn y carchar neu fel arall dan garchariad y wladwriaeth. Gall yr ymchwiliadau hyn arwain at fath o wrandawiad llys, a elwir yn gwest. Mae Gwasanaeth Crwner Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei ariannu drwy gyfraniadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Mae’r swm y mae pob Cyngor yn ei dalu yn gysylltiedig â’r nifer o bobl sydd yn byw ym mhob sir. Cyngor Sir y Fflint sydd â’r boblogaeth fwyaf, felly mae’n talu’r swm uchaf, 31%. Mae ein cyfraniadau yn cael eu talu’n chwarterol ac mae’r cyfanswm a delir gennym mewn unrhyw flwyddyn yn cael ei bennu gan nifer a chymhlethdod cwestau a gynhelir.  Ym mlwyddyn ariannol 2022/23, cyfraniad Sir y Fflint i’r gwasanaeth oedd £351,000.   Erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2023/24 rydym yn rhagweld y byddwn wedi cyfrannu £365,000.

Er nad yw cost lawn cyfraniadau’r pedwar Cyngor yn wybyddus tan ddiwedd y flwyddyn ariannol, mae’r gwasanaeth crwner hefyd yn wynebu costau cynyddol ar gyfer y gwasanaethau y mae angen eu prynu, er enghraifft gwasanaethau patholeg. Golyga hyn ar gyfer 2024/25, fel rhan o’n cyfran tuag at gostau cynnal cyffredinol, disgwylir i Sir y Fflint wneud cyfraniad ychwanegol o £58,000 yn fwy na chostau 2023/24.  Petai’r gost ychwanegol hon yn cael ei hychwanegu at filiau Treth y Cyngor, yn seiliedig ar eiddo cyfartalog Band D, byddai aelwydydd yn Sir y Fflint yn cyfrannu £1.02 yn ychwanegol y flwyddyn (neu 2c yr wythnos) i Wasanaeth Crwner Gogledd Ddwyrain Cymru.

Mae mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Crwner ar wefan Cyngor Sir Ddinbych.   

Beth ydych chi’n ei olygu gydag ‘arbedion’, ydych chi’n cyfeirio at ‘doriadau’?

Yn y gorffennol rydym wedi defnyddio’r term ‘arbedion’, er mwyn disgrifio’r gwahanol bethau rydym wedi gallu eu gwneud i ddod o hyd i ddatrysiadau i bontio’r bwlch yn y gyllideb.   Trwy wneud pethau’n wahanol bu modd i ni ‘arbed’ arian i'r Cyngor a sicrhau bod gwasanaethau’n dal i gael eu rhedeg.    

Rydym wedi gwneud hyn fel hyn: 

  • rhedeg gwasanaethau'n effeithlon ac ‘arbed’ arian
  • bod yn fwy entrepreneuraidd yn y modd rydym ni’n gwneud pethau
  • lleihau’r swm o arian mae gwasanaethau yn ei dderbyn er mwyn gwario
  • lleihau faint o arian sydd gennym i wario trwy godi tâl am rai gwasanaethau 

Ar ôl mwy na degawd, rydym bellach wedi defnyddio ein holl gyfleoedd ‘effeithlonrwydd’ ac ychydig iawn o ddewisiadau sydd gennym erbyn hyn.   

Ar ddechrau’r flwyddyn ariannol hon, roedd Sir y Fflint yn wynebu bwlch o £32m yn ei gyllideb. Erbyn dechrau mis Rhagfyr fe lwyddom i leihau’r bwlch i £11m.   Er mwyn cyflawni’r gostyngiad yma o £21m fe wnaethom gynnwys rhagolwg cynllunio o 5% o gynnydd yn Nhreth y Cyngor, a chynnydd a ragwelwyd o 3.1% yn ein cyllid gan Lywodraeth Cymru. 

Ar 20 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei setliad ariannol dros dro, a derbyniodd Sir y Fflint yr ail ddyraniad isaf o gyllid ar draws Cymru, sef dim ond 2.2%.  Bydd y swm yma sydd yn llawer is, ynghyd â gostyngiadau eraill a nodir mewn cyllideb, yn golygu y bydd bellach angen gwneud toriadau pellach a mwy dwfn er mwyn darparu cyllideb gytbwys a chyfreithiol. Heb unrhyw gyllid ychwanegol, mae Sir y Fflint bellach angen gwneud penderfyniadau anodd iawn o ran “torri” ymhellach ar faint o arian mae’n ei wario ar hyn o bryd. 

Pam nad yw’r Cyngor yn symud allan o Neuadd y Sir a defnyddio gofod swyddfa llai a llai costus?

Mae dau o’r pedwar bloc swyddfa yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug eisoes wedi cael eu dymchwel ac rydym yn y broses o lunio cynlluniau ar gyfer dymchwel y ddau floc sy’n weddil.

Diweddaru Diwethaf: 12 Ionawr 2024