Alert Section

Etholiadau'r Senedd

Mae'r Senedd yn cynrychioli pobl Cymru.

Ar hyn o bryd, mae 60 o Aelodau Senedd (ASau) etholedig ac rydych chi'n cael eich cynrychioli gan bump ohonynt. Mae un AS yn cynrychioli eich etholaeth Senedd, a'r pedwar arall i gyd yn cynrychioli eich rhanbarth.

Ar hyn o bryd, mae gan Sir y Fflint ddau AS, un yr un ar gyfer etholaethau Alun a Glannau Dyfrdwy a Delyn.  Mae pedwar aelod rhanbarthol hefyd ar gyfer rhanbarth etholiadol Gogledd Cymru. 

Mae etholiadau ar gyfer y Senedd yn digwydd bob pum mlynedd ac, ar hyn o bryd, pan fyddwch chi'n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, mae gennych ddwy bleidlais - un i ethol eich aelod etholaethol ac un i ethol eich aelod rhanbarthol.

Bydd etholiad nesaf y Senedd yn cael ei gynnal ar 7 Mai, 2026.

Yn yr etholiad nesaf hwn, bydd newidiadau i nifer aelodau'r Senedd, yr etholaethau a sut mae aelodau'r Senedd yn cael eu hethol. 
Dyma bum peth y mae angen i chi eu gwybod cyn i chi bleidleisio: 

  • Bydd gan y Senedd 96 aelod yn hytrach na 60
  • Bydd papurau pleidleisio yn dangos y rhestr lawn o ymgeiswyr yn eich etholaeth a bydd gan bawb 16 oed a throsodd un bleidlais i ddewis plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol
  • Bydd gan Gymru un ar bymtheg o etholaethau, pob un â chwe aelod etholedig
  • Rhaid i unrhyw un sy'n sefyll fyw yng Nghymru
  • Bydd etholiadau'r Senedd nawr yn digwydd bob pedair blynedd

Gallwch ddysgu mwy ar wefan y Senedd.

Llywodraeth Cymru: Newidiadau i etholiadau ac aelodau'r senedd