Alert Section

Sefyll mewn etholiad


Cymwysterau a Gwaharddiadau

I sefyll ar gyfer etholiad byddwch angen sicrhau eich bod yn bodloni’r cymwysterau gofynnol ac nad ydych wedi eich gwahardd rhag sefyll. 

Mae ystod lawn y gwaharddiadau yn gymhleth. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwirio nad ydynt wedi eu gwahardd am unrhyw reswm cyn cyflwyno eu papurau enwebu. Mae’n drosedd i wneud datganiad anwir ar eich papurau enwebu ynghylch eich cymhwysedd.

Er mwyn sefyll ar gyfer etholiad yn y Cyngor Sir mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu drosodd ac yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys y Gymanwlad neu unrhyw aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd neu ddinesydd tramor cymwys. Mae’n rhaid i chi hefyd fodloni o leiaf un o’r cymwysterau ychwanegol canlynol:

  • Bod yn etholwr llywodraeth leol cofrestredig o fewn Sir Y Fflint
  • Wedi meddiannu, fel perchennog neu denant, unrhyw dir neu safle arall yn Sir y Fflint yn ystod y 12 mis cyn diwrnod eu henwebiad.
  • Prif neu unig leoliad gwaith yn ystod y 12 mis diwethaf o fewn Sir y Fflint.
  • Wedi byw yn Sir y Fflint yn ystod y 12 mis diwethaf cyfan.

Os ydych yn sefyll ar gyfer etholiad Cyngor Tref neu Gymuned, mae’r cymwysterau fel yr uchod, ond mae’r ardal yn cynnwys ardal y Cyngor Tref neu Gymuned yn hytrach nac ardal awdurdod lleol. Mae’r cymhwyster terfynol hefyd yn cael ei ddisodli i fod angen byw o fewn 3 milltir (4.8cilomedr) o’r Cyngor Tref neu Gymuned yr ydych yn ymgeisio amdano yn yr etholiad.

Papurau Enwebu

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd sy’n dymuno cael ei ethol lenwi a chyflwyno papur enwebu ar gyfer y ward maent yn dymuno ei chynrychioli.

Gellir derbyn enwebiadau gan y Swyddog Canlyniadau neu o wefan y Comisiwn Etholiadol* ac mae yna ofynion caeth o ran llenwi’r papur enwebu i benderfynu pa un a yw’n ddilys ai peidio. 

*Mae papurau enwebu yn cael eu paratoi ar hyn o bryd gan y Comisiwn Etholiadol yn seiliedig ar y ddeddfwriaeth newydd a dylai fod ar gael yn fuan. 

Mae’n rhaid i’r papur enwebu gynnwys: 

  • Eich enw a chyfeiriad llawn
  • Enw yr ydych yn cael eich adnabod, os ydych yn defnyddio un
  • Disgrifiad, yn arbennig o bwysig os ydych yn sefyll ar gyfer plaid wleidyddol neu’r gair – Annibynnol neu’r ddau
  • Manylion eich cofrestriad gyda phlaid wleidyddol am y 12 mis blaenorol
  • Datganiad ynglŷn â sut ydych yn gymwys i sefyll ar gyfer etholiad yn seiliedig ar y meini prawf uchod a chadarnhad nad ydych yn anghymwys i sefyll ar gyfer etholiad.
  • Llofnod tyst sy’n cefnogi llofnod eich ymgeisydd ar gyfer y papur enwebu.
  • Ffurflen cyfeiriad cartref – sy’n eich galluogi i gadw eich cyfeiriad cartref rhag cael ei ddatgelu.
  • Manylion cynrychiolwyr etholiadol, os yw’n briodol a dogfen gefnogol gan y blaid wleidyddol rydych yn sefyll ar ei chyfer. 

Mae mwy o wybodaeth ar sefyll fel Cynghorydd Sir a’r broses enwebu ar gael yma https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neu-asiant/ymgeiswyr-ac-asiantau-mewn-etholiadau-lleol-yng-nghymru

Mae mwy o wybodaeth ar sefyll fel Cynghorydd Tref/Cymuned a’r broses enwebu ar gael yma https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neu-asiant/ymgeiswyr-ac-asiantau-mewn-etholiadau-cynghorau-plwyf-a-chymuned-yng-nghymru 

Bydd Papurau Enwebu angen cael eu cludo i Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug . Ni ellir derbyn papurau enwebu drwy’r post. Bydd yn bosibl cyflwyno eich papur enwebu yn electronig a bydd manylion am sut i wneud hynny ar gael ar yr hysbysiad etholiad. 

Beth sy’n Newydd?

Mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 yn newid y broses enwebu i etholiadau blaenorol. Mae prif newidiadau i reolau blaenorol wedi eu hamlygu isod. 

Disgrifiadau

Ar hyn o bryd, caniateir disgrifiadau o Annibynnol neu’r disgrifiad o blaid wleidyddol. Yn flaenorol, caniatawyd unrhyw ddisgrifiad hyd at 6 gair ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned (wedi ymddeol, ffermwr, gwraig tŷ, cynghorydd presennol ac ati). Mae rheolau newydd yn dod â Chynghorau Tref a Chymuned yn unol â Chyngor Sir.

Gofyniad Tyst yn Unig

Dim angen i enwebiadau gael cynigwyr o fewn y ward ble maent yn sefyll mwyach. Yn flaenorol 10 ar gyfer Sir, 2 ar gyfer Tref neu Gymuned. Angen un tyst yn unig nawr a allai fod yn unrhyw un i gefnogi’r enwebiad gan gynnwys yr ymgeiswyr eu hunain. 

Ffurflen Cyfeiriad Cartref

Mae cyfeiriadau cartref nawr yn gallu cael eu tynnu oddi ar y papur pleidleisio a hysbysiadau diogelwch personol a bydd yn dangos yr ardal ble maent yn byw. Bydd ffurflen ar wahân yn cael ei chynnwys yn y pecyn enwebu at y dibenion hyn.

Datganiad Aelodaeth Wleidyddol

Bydd pob ymgeisydd angen darparu manylion eu haelodaeth o blaid wleidyddol am y 12 mis blaenorol oni bai ei fod yr un fath â’r blaid maent yn sefyll ar gyfer etholiad. Os ydych yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol ond yn aelod o blaid wleidyddol, byddwch angen datgan y wybodaeth hon. Bydd manylion aelodaeth yn cael eu cyhoeddi ar ddatganiad am y sawl a enwebwyd.