Pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio - 6 Mai 2021
-
Mae Gorsafoedd Pleidleisio ar agor rhwng 7.00am a 10.00pm ar y diwrnod pleidleisio – 6 Mai 2021
-
Bydd rhestr lawn o Orsafoedd Pleidleisio ar gael cyn hir
-
Ymysg y mesurau fydd wedi eu rhoi ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio i ddiogelu rhag COVID-19, mae’r canlynol:
- Mynedfeydd ac allanfeydd ar wahân, lle bosibl
- Mewn rhai gorsafoedd pleideisio, bydd Rheolwr wrth y drws, er mwyn sicrhau y gellir cynnal pellter cymdeithasol ar bob adeg
- Ystafelloedd wedi’u trefnu mewn ffordd wahanol er mwyn galluogi pobl i gadw pellter cymdeithasol wrth aros i bleidleisio ac wrth lenwi papur pleidleisio, ond gan barhau i sicrhau bod etholwyr yn bwrw’u pleidlais yn gyfrinachol
- Staff yr orsaf bleidleisio yn gwisg cyfarpar diogelu personol – PPE
- Gofyn i bleidleiswyr wisgo gorchudd wyneb lle bo hynny’n bosibl, a defnyddio diheintydd dwylo wrth iddynt fynd i mewn i’r orsaf bleidleisio
- Annog pleidleiswyr i ddod â’u pen ysgrifennu neu eu pensil eu hunaino Glanhau’r bythau pleidleisio yn rheolaidd.
Efallai y bydd y mesurau hyn yn golygu y bydd yn rhaid i etholwyr aros mwy nag arfer i fwrw eu pleidlais.
Mewn rhai gorsafoedd pleidleisio
Yn aml yr amserau prysur mewn gorsafoedd pleidleisio yw rhwng 7.00am a 9.30am, amser cinio, 3.30pm i 4.30pm a 6.00pm i 8.00pm.
Wrth geisio osgoi’r amserau brig hyn, efallai y bydd pleidleiswyr yn gorfod aros am lai o amser. Bydd unrhyw un fydd wedi ymuno â’r ciw i bleidleisio erbyn 10pm yn dal i gael pleidleisio.
Beth i'w ddisgwyl wrth bleidleisio'n bersonal