Rydym yn defnyddio cwcis hanfodol i wneud i’r wefan hon weithio.
Hoffem ddefnyddio cwcis dadansoddi i ddeall sut yr ydych yn defnyddio’r wefan er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau.
Rydych chi wedi derbyn pob cwci. Gallwch newid eich gosodiadau cwcis ar unrhyw adeg.
I gael gwybod mwy am y Fframwaith Rheoli Risg.
Rheoli risg yw’r broses o nodi risgiau, gwerthuso’r effaith bosibl, a’u lliniaru nhw. Y nod yw lleihau difrifoldeb eu heffaith a pha mor debygol ydyn nhw o ddigwydd pan fo modd. Mae rheoli risg yn amhrisiadwy i'r Cyngor a dylai fod yn rhan o'r gwaith o reoli gwasanaethau o ddydd i ddydd.
Mae rheoli risg yn effeithiol yn hanfodol er mwyn i sefydliad a'i bartneriaid gyflawni amcanion strategol a gwella canlyniadau i bobl leol. Mae'r Cyngor yn hyrwyddo egwyddorion rheoli risg yn effeithiol ar draws y sefydliad a chyda'i sefydliadau partner. Mae wedi ymrwymo i reoli risgiau allanol a mewnol allweddol yn rhagweithiol. Mae rheoli risg yn effeithiol wrth weithio mewn partneriaeth yn galluogi i'r Cyngor ddangos diwylliant cadarnhaol o ran risg a chanlyniadau gwell, gan wella ei allu i gyflawni prosiectau arloesol a heriol.
Mae Fframwaith Rheoli Risg y Cyngor yn ceisio defnyddio arferion gorau wrth nodi, asesu a rheoli risgiau allweddol, drwy:
Defnyddir y Gofrestr Risgiau Gorfforaethol i gofnodi risgiau sylweddol a allai effeithio ar amcanion strategol a dulliau gweithredu sefydliad.
Cofrestr Risg Gorfforaethol - Ionawr 2025
Cofrestr Risg Gorfforaethol - Ebrill 2025
Gallwch lawrlwytho’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2024 isod.
Lawrlwythwch y Fframwaith Rheoli Risg 2024
Browser does not support script.