Mae yna ddyletswydd gyfreithiol ar Gyngor Sir y Fflint i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. Yr ydym yn ymroddedig i ymladd yn erbyn twyll a llygredigaeth er mwyn i arian cyhoeddus gael ei wario ar ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r gymuned leol rydym yn ei gwasanaethu. Nid ydym yn goddef unrhyw dwyll, ac mae unrhyw adroddiadau o dwyll yn cael eu cymryd o ddifrif.