Alert Section

Covid-19: Cyfyngiadau Cyfnod Atal Byr Cenedlaethol Llywodraeth Cymru


 Mae Prif Weinidog Llywodraeth Cymru wedi galw Cyfnod Atal Byr i helpu i arafu lledaeniad feirws Covid-19.

Bydd y Cyfnod Atal hwn yn para o 18:00 ddydd Gwener 23 Hydref tan ddydd Llun 9 Tachwedd. Byddwn yn cadw’r holl wasanaethau lleol ar agor os caniateir i ni wneud hynny yn ystod y cyfnod hwn, ond bydd rhai gwasanaethau ar gau neu bydd cyfyngiadau arnynt. Manylion isod.

Addysg a Sgiliau

Bydd pob ysgol gynradd, pob ysgol arbennig, yr Uned Cyfeirio Disgyblion (Plas Derwen) a’r holl Addysg heblaw am Ddarpariaeth Ysgol yn aros ar agor heblaw yn ystod gwyliau hanner tymor arferol.

Bydd ysgolion uwchradd yn ailagor ar ôl yr hanner tymor i blant. Bydd disgyblion yn gallu dod i mewn i sefyll arholiadau ond bydd disgyblion eraill ym Mlynyddoedd 9-13 yn parhau i ddysgu gartref am wythnos ychwanegol. Bydd ysgolion uwchradd yn cynghori rhieni / gofalwr a myfyrwyr o’r trefniadau ar gyfer y gwahanl grwpiau blwyddyn/oedran.

Trafnidiaeth Gyhoeddus 

Bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithredu yn Sir y Fflint yn ystod y cyfnod torri tan, ar gyfer teithio hanfodol yn unig.  Er bydd gwasanaethau’n parhau I weithredu ar yr amlder presennol, cynghorir teithwyr yngyf I wirio amserlenni gweithredwyr unigol cyn cynllunio teithiau ac fe’u hafgoffir hefyd ei bod yn orfodol gwisgio gorchuddion wyneb ar bob trafnidiaeth gyhoeddus.

Bydd gwybodaeth bellach ynghylch “rampio” pellach gwasanaethau I lefelau gwasanaeth cyn-euog yn cael ei rhannu ar ddiwedd y cyfnod torri tan.

Bydd y gwasanaethau a’r cyfleusterau canlynol yn parhau neu’n aros AR AGOR:

Bydd y gwasanaethau a’r cyfleusterau canlynol AR GAU:

Covid-19: Cyfyngiadau Cyfnod Atal Byr Cenedlaethol Llywodraeth Cymru: rhagor o wybodaeth

Cyfeiriwch at y set arbennig o Gwestiynau Cyffredin ar wefan Llywodraeth Cymru fel canllaw o ran beth gallwch ei wneud a beth na allwch ei wneud yn ystod y cyfnod hwn: https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin