Profi, Olrhain, Diogelu - Canllawiau a Chyngor ar Hunan-ynysu
Mae’r dudalen hon yn darparu cyngor a chymorth i drigolion Sir y Fflint sy'n gorfod hunan-ynysu ar ôl derbyn galwad gan Wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Gogledd Cymru.
Os oes gennych chi symptomau Covid-19 yna archebwch brawf ar unwaith, hunan-ynyswch ac arhoswch gartref nes cewch chi’r canlyniadau. Am fwy o wybodaeth am ganlyniadau’r profion ewch i: www.llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19
Os ydych chi’n gyswllt i rywun sydd wedi derbyn prawf Covid-19 positif ac olrheiniwr cysylltiadau wedi cysylltu â chi i ddweud wrthych chi am hunan-ynysu, fe ddylech chi archebu prawf ar y diwrnod cyntaf y cewch chi’r symptomau.
I archebu prawf ewch i: www.llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws-covid-19 neu ffoniwch 119.
Dim ond pan fydd gennych chi symptomau y dylech chi archebu prawf.
Os ydi Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Gogledd Cymru wedi cysylltu efo chi ac wedi gofyn i chi hunan-ynysu, siaradwch efo’r aelod o’r tîm fydd yn eich ffonio ynglŷn ag unrhyw gymorth fydd arnoch chi ei angen yn ystod eich cyfnod yn hunan-ynysu.
Os ydych chi’n poeni am eich iechyd meddwl a’ch lles, neu os ydych chi'n poeni am rywun arall, cliciwch yma.