Gwasanaethau'r Cyngor a'r tywydd
Rhybudd Tywydd Ambr - Gwres Eithafol
Casgliadau gwastraff a chanolfannau ailgylchu gwastraff y cartref
Casgliadau Gwastraff
Bydd casgliadau yn parhau i ddechrau’n gynharach ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener, felly a fyddech cystal â sicrhau bod eich biniau allan erbyn 6am, os ydynt yn cael eu casglu ar y diwrnodau hynny.
Rhoddir blaenoriaeth i’r canlynol gan y criwiau:
- Gwastraff bwyd
- Biniau duon
- Gwastraff gardd
Hefyd, byddwn yn casglu cymaint â phosibl o ddeunydd ailgylchu sych, fodd bynnag, efallai na fydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau ym mhob ardal. Os na fydd eich deunydd ailgylchu yn cael eu casglu, cadwch nhw tan eich casgliad nesaf.
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref
Bydd canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn agor am 7.30am ac yn cau am 2pm.
Edrychwch ar ein gwefan i weld ar ba ddiwrnodau y maent ar agor cyn teithio
Mae’r mesurau hyn yn helpu criwiau i orffen yn gynt a lleihau oriau gweithio yn ystod tymereddau uchel.
Diolch i chi am eich dealltwriaeth a’ch cymorth.
Y Cyfryngau Cymdeithasol
Facebook
X (Twitter)