Alert Section

Gwybodaeth am Gydraddoldeb yn y Gweithle


Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau) 2017

Mae angen i gyflogwyr sydd â 250 neu fwy o weithwyr ddadansoddi eu data gweithlu i ddeall â oes bwlch cyflog rhwng y rhywiau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 Rheoliadau (Gwybodaeth Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau) 2017, yn seiliedig ar ‘ddyddiad cipolwg’.

Mae’r Rheoliadau yn nodi bod angen i ni adrodd ar chwe mesur adrodd ar fwlch cyflog fel a ganlyn:

  • Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau cymedrig (cyfartaledd) 
  • Canolrif bwlch cyflog rhwng y rhywiau 
  • Y bwlch cyflog bonws rhwng y rhywiau cymedrig (cyfartaledd)
  • Y bwlch cyflog bonws rhwng y rhywiau cymedrig
  • Cyfran y gwrywod sy’n cael taliad bonws
  • Cyfran y benywod sy’n cael taliad bonws
  • Cyfran y gwrywod a’r benywod ym mhob band cyflog chwartel

Cyhoeddir yr adroddiad ar wefan y gwasanaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae adroddiadau hanesyddol yma hefyd. 


Adroddiadau Gwybodaeth a Dadansoddiad Cydraddoldeb y Gweithlu

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r wybodaeth sydd ei hangen i gydymffurfio â Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, rheoliad 9, casglu gwybodaeth am gyflogaeth. Pwrpas casglu ac adrodd y wybodaeth hon yw sicrhau bod ein polisïau a’n hymarferion cyflogaeth yn deg, 

O dan reoliad 9, mae gennym ddyletswydd i gasglu a chyhoeddi erbyn 31 Mawrth, y wybodaeth gyflogaeth ganlynol ar gyfer ein gweithlu o ran bob nodwedd warchodedig. 

Nifer yr:

  • unigolion sydd wedi ymgeisio am gyflogaeth gyda’r awdurdod a restrir (ac eithrio rhai a gyflogwyd eisoes gan yr awdurdod a restrir)
  • gweithwyr sydd wedi newid swydd o fewn yr awdurdod a restrir, gan gynnwys y nifer a ymgeisiodd i newid swydd a’r nifer oedd yn llwyddiannus (neu fel arall) yn eu cais
  • gweithwyr sydd wedi ymgeisio am hyfforddiant a’r nifer oedd yn llwyddiannus (neu fel arall) yn eu cais
  • gweithwyr a gwblhaodd yr hyfforddiant
  • gweithwyr a oedd neu sydd yn ymwneud â gweithdrefnau cwyno, fel y sawl sy’n cael ei gyhuddo neu’r sawl sy’n cyhuddo
  • gweithwyr a oedd neu sydd yn destun gweithdrefnau disgyblu, a
  • gweithwyr sydd wedi gadael cyflogaeth yr awdurdod a restrir.

Rheoliadau 9(1)(a) a (c) a (2)

Mae gennym hefyd ddyletswydd i gasglu (a chyhoeddi) gwybodaeth ar nifer y bobl a gyflogwn, a restrir yn ôl:

  • swydd
  • graddfa (os oes system raddfeydd)
  • cyflog
  • math o gontract (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i, gontractau parhaol a chyfnod penodol), a
  • patrymau gweithio (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i lawn amser, rhan amser a threfniadau hyblyg eraill).

Rheoliad 9(1)(b)

Rhaid i’r wybodaeth hon hefyd gael ei rhestru yn ôl y nifer sy’n ferched a’r nifer sy’n ddynion.

Darllenwch ein hadroddiadau yma.