Alert Section

Cefnogaeth Sir y Fflint

Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd - Early Years and Family Support Service

Mae Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd yn darparu ystod o wasanaethau i gefnogi plant a’u teuluoedd sy’n byw yn Sir y Fflint.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cefnogi plant sydd angen cymorth ychwanegol.
  • Atgyfeirio at ddarpariaeth gofal plant cofrestredig a chefnogi gyda chostau gofal plant.

I gael cefnogaeth, cysylltwch â Thîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ar 01352 703932 - oriau’r swyddfa yw dydd Llun i ddydd Gwener 8.30yb - 5yp.

Cyllid Gofal Plant

Cyllid Gofal Plant. Yma gwelwch y buddion a’r gwahanol fathau o ofal plant sydd ar gael i rieni/gofalwyr, ble i ddod o hyd i ofal plant a pha gymorth ariannol sydd ar gael i’ch helpu gyda chostau gofal plant.

Mae cymorth ar gael i helpu cofrestru i raglenni Llywodraeth Cymru a phrosesu hawliadau.

Cyngor Sir y Fflint - Cyllid Gofal Plant 

Cymorth a Chefnogaeth

Cymorth a gwybodaeth i gefnogi gweithwyr proffesiynol a theuluoedd yn Sir y Fflint (DEWIS, Gwybodaeth i Deuluoedd, Canolbwynt Cymorth Cynnar, KidsBank). Gwybodaeth a fydd yn cefnogi ymarferwyr a lleoliadau. 

Cyngor Sir y Fflint - Cymorth, Cefnogaeth a Gwybodaeth y Blynyddoedd Cynnar 

Grantiau

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau amrywiol i gefnogi lleoliadau i ddarparu gofal plant cynaliadwy, o ansawdd.

Cyngor Sir y Fflint - Grantiau Datblygu Gofal Plant 


Grantiau Cyfalaf Bach

Mae Sir y Fflint wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i weithredu Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach i gefnogi lleoliadau gofal plant sy’n gweithredu’n Sir y Fflint.

Gwahoddir ceisiadau grant gan warchodwyr plant a lleoliadau gofal plant sy’n dymuno cyflawni gwaith cyfalaf hanfodol neu brynu offer cyfalaf i’w galluogi i:

  • gryfhau darpariaeth Cyfrwng Cymraeg
  • cynyddu nifer y llefydd Cynnig Gofal Plant, Dechrau’n Deg a/neu Dysgu Sylfaen maent yn gallu ei gynnig
  • gwella ansawdd y cyfleusterau a gynigir i blant sy’n derbyn y Cynnig Gofal Plant, Dechrau’n Deg a/neu Dysgu Sylfaen.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost a smallgrants@siryfflint.gov.uk

Tudalen Facebook

Cefnogaeth ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant yn Sir y Fflint.

Gwybodaeth, cyfleoedd hyfforddi, grantiau sydd ar gael a’r newyddion diweddaraf o fewn y Sector Gofal Plant.

Facebook - Datblygu Gofal Plant Sir y Fflint 

Eich Iechyd a Lles

Gwybodaeth cyngor ac adnoddau iechyd a lles ar gyfer gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar a gweithwyr gofal plant.

Gofal Cymdeithasol Cymru - Eich Iechyd a Lles