Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd yn gweithio’n agos gyda rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill os oes gan blentyn anawsterau iaith a/neu leferydd, cyfathrebu neu anawsterau bwyta, yfed a llyncu.
Mae gan Sir y Fflint linell gymorth Therapi Iaith a Lleferydd lle bydd rhywun ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a chynnig cefnogaeth.
Ffoniwch 03000 0848179.
Ar agor dydd Mawrth 9-10yb, dydd Iau 3:30-4:30yp.