Alert Section

Anghenion Arbenigol

Sefydliadau cymorth

Mae llawer o sefydliadau cymorth ar gael. Mae rhai ohonynt wedi’u rhestr isod. Os hoffech chi wybod am sefydliadau sy’n addas ar gyfer eich anghenion chi, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.

Contact

Contactlogo

Contact – i deuluoedd sydd â phlant anabl. Maent yn cefnogi rhieni a gofalwyr yn unrhyw ran o’r DU sydd â phlentyn anabl, o’r cychwyn nes maent yn 25. Gall eich plentyn fod ag unrhyw fath o anabledd neu angen ychwanegol, ac nid oes rhaid i chi fod wedi cael diagnosis.

  • Mae gwefan contact.org.uk yn cynnwys cyngor a gwybodaeth am unrhyw bryder sydd gan deulu am fagu plentyn sydd ag anghenion ychwanegol.
  • 0808 808 3555 – Ffoniwch dîm ein llinell gymorth ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9.30am a 5.00pm – am ddim i ffonau symudol a llinellau tir yn y DU.
  • Gwasanaeth ‘Listening Ear’ – gwasanaeth galw’n ôl am ddim, ddydd a nos, sy’n eich galluogi i drefnu apwyntiad sy’n addas i chi, cael sicrwydd, a chymorth ymarferol ac emosiynol gydag ymgynghorydd cymorth i deuluoedd.
  • Gweithdai teuluol am ddim ar amrywiaeth o bynciau: ymddygiad, cwsg, materion ariannol, ac ati.
  • Gall rhieni hefyd ymuno â’u grŵp Facebook preifat lle gall rhieni rannu a chefnogi ei gilydd.

Manylion cyswllt ein tîm yng Nghymru: cymru@contact.org.uk.

Tudalen Facebook Cymru: Contact Cymru.

Tudalen Facebook y DU: Contact Families.

Gall teuluoedd o Gymru gofrestru ar-lein i gael e-fwletinau misol Contact.

D.A.F.F.O.D.I.L.S.

Daffodils Logo

Elusen Gofrestredig 1080579

28-44 Stryd Newydd
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 1NZ

Rhif ffôn: 01352 250147.

E-bost: daffodils@tiscali.co.uk.

Mae Daffodils yn elusen plant a phobl ifanc sydd ag anableddau ac anghenion ychwanegol yn Sir y Fflint. Maent yn darparu gweithgareddau hamdden i blant a phobl ifanc anabl hyd at 25 oed, ynghyd â’u rhieni, gofalwyr a brodyr a chwiorydd. Maent yn cynnal 175 o ddigwyddiadau y flwyddyn mewn cymunedau. Mae rhieni’n cael cefnogaeth drwy ddod i weithgareddau a digwyddiadau’n gyson. Mae’n rhaid i rieni neu ofalwyr ddod gyda’u plentyn neu berson ifanc i’r holl weithgareddau a digwyddiadau.

SNAP Cymru

SNAP Cymru Logo

Mae SNAP Cymru’n elusen sy’n unigryw i Gymru, a sefydlwyd yn 1986. Ei phrif nod yw gwella addysg pobl yng Nghymru a chefnogi eu cynnwys.

Mae SNAP Cymru'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth annibynnol, am ddim i helpu plant a phobl ifanc sydd â phob math o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY, gynt yn cael eu galw’n Anghenion Addysg Arbennig, AAA) ac anableddau i gael yr addysg gywir.

They also provide advocacy, disagreement resolution, discrimination advice, advocacy and training for young people, parents/carers and professionals.

Gwasanaethau SNAP Cymru

Gwybodaeth SNAP Cymru

Cysylltu â SNAP Cymru

Gwasanaeth Anableddau Teuluoedd Sir y Fflint (FFDS)

Arosfa,
Glasdir,
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 1TN

E-bost: FFDS@actionforchildren.org.uk.

Rhif ffôn: 07834 006275.

Gwasanaeth sy’n cefnogi plant a phobl ifanc 0–25 oed gydag amrywiaeth o broblemau corfforol a niwrolegol gan ddarparu awyrgylch cynhwysol heb farnu. Rydym ni’n helpu i ddatblygu sgiliau bywyd a chyswllt cymdeithasol a chefnogi datblygu sgiliau personol a rhyngbersonol.

Mae’r Gwasanaeth yn rhoi gwybodaeth i deuluoedd i ddeall anabledd yn iawn a chefnogi diagnosis diweddar ac mae’n credu bod gan bob plentyn a pherson ifanc anabl yn Sir y Fflint hawl i blentyndod diogel a hapus a’r sylfaen maent ei angen i ffynnu.

Mae Gwasanaeth Anableddau Teuluoedd Sir y Fflint yn cydweithio’n fewnol ac yn allanol gyda sefydliadau eraill i gael y canlyniadau gorau drwy ddefnyddio dulliau ymgysylltu amlochrog, wyneb yn wyneb, mewn clybiau a digwyddiadau teuluol, o amgylch y gymuned a thros y we ar Microsoft Teams.

Mae trin pobl yn gyfartal weithiau yn golygu gwneud pethau’n wahanol i rai pobl. Er hynny, ein prif fwriad ni yw meithrin sgiliau annibyniaeth pob plentyn/person ifanc sy’n datblygu hyder a gwytnwch, a allai yn eu tro leihau gorbryder a’u helpu i reoli eu hymddygiad.

Mae’r Gwasanaeth a’n consortiwm yn darparu gwasanaeth un-siop ar gyfer y canlynol:

  • rhoi mynediad i bobl ifanc anabl at chwaraeon, hamdden a chyfleoedd bywyd
  • fforymau rhieni
  • hyfforddiant ar anableddau i’r gweithlu ehangach
  • cefnogaeth â’r effaith niweidiol o fod yn ofalwr ifanc gydag angen ychwanegol
  • clybiau ieuenctid, siediau ieuenctid a digwyddiadau teuluol
  • cyngor ac arweiniad i gefnogi plant anabl a lleoliadau gofal plant

Plant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Yma, fe welwch chi wybodaeth sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Plant a Phobl Ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol

Dolenni defnyddiol

BIPBC – Gwella Lles Plant Ifanc ag Anableddau Dysgu