Alert Section

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Cynghori Ariannol Arbenigol


Eich Data Personol – Beth yw hynny?
Rheolir data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018.  Mae a wnelo data personol â rhywun byw y gellir ei adnabod ar sail y data hynny.  Gallai’r adnabod fod ar sail yr wybodaeth ynddo'i hun neu drwy’i gyfuno a gwybodaeth arall ym meddiant rheolydd y data, neu’n debygol o ddod i’w feddiant/meddiant.

Pwy ydym ni?
Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol Arbenigol yw rheolydd y data. Mae hynny'n golygu ei fod yn pennu'r modd y prosesir data personol ac at ba ddibenion.

Sut ydym ni’n prosesu eich data personol?
Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol Arbenigol yn cyflawni ei ymrwymiadau o dan Ddeddf Diogelu Data 2018 drwy gadw data’n gyfoes; drwy ei gadw a’i ddileu yn ddiogel; drwy beidio â chasglu na chadw gormodedd o ddata; drwy ddiogelu data personol rhag eu colli, eu camddefnyddio, eu gweld neu’u datgelu heb awdurdod; a thrwy sicrhau fod dulliau priodol ar waith ar gyfer diogelu data personol.

Bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol Arbenigol yn prosesu’ch data personol at y diben penodol o gofnodi eich cais am gyngor, cymorth a chynrychiolaeth a rhannu ac asesu’r cais hwnnw. Gellid defnyddio eich data hefyd at ddibenion ymchwil ac ystadegau, ac ar gyfer cynllunio, gwasanaethau, eu datblygu a’u darparu pan mae’n briodol gwneud hynny.

Mae’n angenrheidiol prosesu’ch data personol fel y gall y Gwasanaeth Cynghori Ariannol Arbenigol fod yn eiriolwr ar eich rhan gydag Awdurdodau Lleol, unigolion eraill, asiantaethau, gwasanaethau, credydwyd a sefydliadau eraill lle bo angen. Gellid defnyddio’ch data hefyd wrth gwblhau atgyfeiriadau i sefydliadau statudol ac yn y trydydd sector.

Bydd y Gwasanaeth Cynghori Ariannol Arbenigol yn cadw’ch data am 12 mis ar ôl dod â’ch achos i ben.

Eich hawliau a’ch data personolOni bai fod eithriad o dan Ddeddf Diogelu Data 2018, mae gennych chi’r hawliau canlynol mewn cysylltiad â’ch data personol:-

  • Yr hawl i wneud cais am gopi o’r data personol y mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn ei ddal amdanoch chi
  • Yr hawl i wneud cais i’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol gywiro unrhyw ddata personol os canfyddir ei fod yn wallus
  • Yr hawl i wneud cais i ddileu’ch data personol pan nad yw’n angenrheidiol mwyach fod y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn ei gadw
  • Yr hawl i wneud cais i reolydd y data ddarparu'r data personol i destun y data, a lle bo hynny’n bosib, trosglwyddo’r data i reolydd data arall yn uniongyrchol
  • Yr hawl, pan geir anghydfod ynglŷn â chywirdeb eich data personol neu’r modd y’u prosesir, i wneud cais am osod cyfyngiad ar unrhyw brosesu pellach
  • Yr hawl i wrthwynebu prosesu data personol oni chytunir ar hynny drwy gontract
  • Yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cwynion a Manylion Cyswllt
Os ydych o’r farn bod y Gwasanaeth Cynghori Ariannol wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’r wefan neu drwy ffonio’r llinell gymorth ar 0303 123 1113.

Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau neu gwynion at Reolwr y Tîm Cyngor a Digartrefedd, Swyddfeydd y Sir, Y Fflint, CH6 5BD Ffôn: 01352 703777

Alun Kime yw Swyddog Diogelu Data’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol Arbenigol a gellir cysylltu ag ef yn
Swyddfeydd y Sir
Yr Wyddgrug, CH7 6NG
Ffôn: 01352 702802 neu e-bost:dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk