Alert Section

Safon Ansawdd Tai Cymru


Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau fod gan holl bobl Cymru, gan gynnwys tenantiaid tai cymdeithasol, y cyfle i fyw mewn cartrefi o ansawdd da, mewn cymunedau saff a diogel. 

Er mwyn sicrhau fod yr holl gartrefi yn cyrraedd lefel dderbyniol, maent wedi llunio Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Safon yw hon ar gyfer ansawdd a chyflwr yr adeiladau ac mae’n rhestru nifer o dargedau y bydd angen i’r holl gartrefi eu cwrdd. 

Mae’r safon yn nodi y dylai’r holl gartrefi fod

  1. mewn cyflwr da
  2. yn saff a diogel
  3. wedi eu cynhesu’n ddigonol, yn effeithlon o ran tanwydd ac wedi eu hinswleiddio’n dda
  4. yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes
  5. yn cael eu rheoli’n dda (ar gyfer tai sy’n cael eu rhentu)
  6. wedi eu lleoli mewn amgylcheddau deniadol a saff
  7. yn gweddu i ofynion penodol yr aelwyd (e.e. anableddau penodol) cyn belled ag y bo hynny yn bosibl.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gyflwyno a chynnal ein holl dai cymdeithasol hyd at Safon Ansawdd Tai Cymru.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn derbyn Lwfans Atgyweirio Mawr. Grant cyfalaf o tua £5miliwn y flwyddyn yw hwn a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol sydd wedi cadw eu stoc tai cyngor.

Sut mae CSFf yn gwneud?

Mae Cyngor Sir Y Fflint yn berchen ar 7,000 eiddo tai cymdeithasol.   Bydd angen i bob eiddo, waeth pa mor hen neu ym mha gyflwr, fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020. 

Mae Sir y Fflint yn cynnal rhaglen helaeth o waith gwella ar ei dai cymdeithasol.  

• Buddsoddwyd dros £19 miliwn mewn gwaith gwella yn 2015/16
• Yn ystod eleni cyflwynodd y Tîm Gwaith Cyfalaf y canlynol:
1400 cegino
1600 ystafell ymolchi
200 system gwres canolog a boeleri newydd
Cafodd 100 eiddo waith toi ac amgylchynu

• Buddsoddwyd dros £20 miliwn mewn gwaith gwella yn 2016/17
• Yn ystod eleni cyflwynodd y Tîm Gwaith Cyfalaf y canlynol:
1200 cegin
1700 ystafell ymolchi
100 system gwres canolog a boeleri newydd
Cafodd 300 eiddo waith toi ac amgylchynu

• Buddsoddwyd dros £19 miliwn mewn gwaith gwella yn 2017/18
• Yn ystod eleni cyflwynodd y Tîm Gwaith Cyfalaf y canlynol:
1000 cegin
1500 ystafell ymolchi
100 system gwres canolog a boeleri newydd
250 eiddo’n cael gwaith toi ac amgylchynu

• Buddsoddwyd dros £19 miliwn mewn gwaith gwella yn 2018/19
• Yn ystod eleni cyflwynodd y Tîm Gwaith Cyfalaf y canlynol:
200 cegin
500 ystafell ymolchi
100 system gwres canolog a boeleri newydd
800 eiddo’n cael gwaith toi ac amgylchynu

• Bydd dros £21 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gwaith gwella yn 2019/20
• Yn ystod eleni bydd y Tîm Gwaith Cyfalaf yn cyflwyno’r canlynol:
100 cegin
100 ystafell ymolchi
100 system gwres canolog a boeleri newydd
1200 eiddo’n cael gwaith toi ac amgylchynu 

• Mae dros £17m wedi ei fuddsoddi mewn gwaith gwelliannau Cyfalaf yn 2020/21
• Yn ystod y flwyddyn hon bydd y Tîm Gwaith Cyfalaf yn cyflawni’r canlynol:  
100 o geginau
100 ystafell ymolchi
350 system wres canolog a bwyler newydd
800 gwaith toi a gorchuddio             
• Oherwydd haint covid-19 bu oedi yn ein cynlluniau ond rydym yn dal o fewn y terfynau amser i gwblhau’r gwaith erbyn Rhagfyr 2021.  

• Y nod yw buddsoddi dros £70m i’r cynllun gwella parhaus yma rhwng 2021/2026.
• Yn ystod 5 mlynedd nesaf ein rhaglen, bwriadwn fuddsoddi yn y canlynol:  
1500~ o Geginau ac Ystafelloedd Ymolchi
1750~ system wres canolog a bwyler newydd
1550~ gwaith toi a gorchuddio             
• Rhaglenni amgylcheddol amrywiol gan gynnwys dreif tai, gerddi a ffensio  
• Datgarboneiddio a gwelliannau ynni effeithlon  

Sut mae’r gwaith yn cael ei ariannu?

• Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn gosod cyllideb flynyddol ar gyfer gwaith gwella Tai
• Buddsoddwyd dros £58 miliwn mewn gwaith gwella tai ers 2015
• Ariennir hyn gan gyfuniad o incwm rhent tai Cyngor, arian wedi’i fenthyca (benthyca darbodus) ac incwm o werthu tir ac eiddo'r Cyngor
• Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd yn derbyn Lwfans Atgyweirio Mawr. Grant cyfalaf o £5m y flwyddyn yw hwn a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol sydd wedi cadw eu stoc tai cyngor

Pa welliannau fydd yn cael eu gwneud?

Mae pedwar maes gwaith y mae'r rhaglen SATC yn canolbwyntio arno:

1. Gwaith Mewnol: ceginau, ystafelloedd ymolchi ac uwchraddio systemau gwresogi.
2. Gwaith Amgylchynu: toi, trwsio simneiau, gwteri, pibellau lander, rendro / pwyntio, ffenestri a drysau, ffasgiau, ac ati.
3. Gwaith Allanol: llwybrau troed a ffensio yn ardal yr eiddo.
4. Gwaith Amgylcheddol: mae hyn yn targedu materion sy'n effeithio ar y gymuned megis parcio, garejys a llwybrau cymunedol.  Os yw eich eiddo angen gwaith i ddod ag o i'r safon, byddwch yn cael llythyr mewn digon o amser i roi gwybod ichi pan fydd unrhyw ran o'r gwaith yma’n cael ei gynllunio.

Pryd fydd y gwaith yn cael ei wneud ar fy eiddo?

Mae'r Gwasanaeth Tai wedi cynhyrchu amserlen sy'n dangos pryd y bydd gwaith yn cael ei wneud ym mhob ward gymunedol.  Bydd hyn ar gael ar wefan Cyngor Sir Sir y Fflint yn fuan fel rhaglen ryngweithiol a fydd yn nodi pa waith sydd i'w gwblhau yn eich cartref.

Pwy sy'n cyflawni'r gwaith?

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda nifer o gontractwyr ag enw da i sicrhau bod y gwelliannau'n cael eu cyflawni i safon uchel.

A fydd y gwaith yn cynnwys amharu ar fy nghartref?

Yn anochel, bydd cynnal gwaith gwella ar y raddfa hon yn golygu rhywfaint o amharu ar denantiaid a sylweddolwn y gall y gwaith mewnol, yn enwedig ailosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi, achosi tarfu. Rydym yn gobeithio y bydd yn werth mynd trwy’r mymryn o amharu a gewch er mwyn gweld y cynnyrch gorffenedig, ac mae help ar gael:
• Mae'r Gwasanaeth Tai wedi cyflogi Swyddogion Cyswllt Tenantiaid â'u gwaith yw cadw mewn cysylltiad â chi tra bod agwedd benodol o'r gwaith yn cael ei wneud, helpu i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych, a bod yn bwynt cyswllt rhyngoch chi a'r Gwasanaeth Tai.
• Mae gan ein contractwyr hefyd eu Swyddogion Cyswllt Preswylwyr eu hunain sydd â rôl debyg, felly bydd yna bob amser wyneb cyfeillgar y gallwch chi gysylltu â nhw tra bo'r gwaith yn digwydd, pe bai unrhyw faterion yn codi.

Beth os nad ydw i eisiau i’r gwaith gael ei wneud?

Mae'n ofyniad i'ch cytundeb tenantiaeth i ganiatáu’r Cyngor i gynnal a gwella'r eiddo.  Mae methu â chaniatáu i'r gwaith gael ei gyflawni yn torri eich cytundeb tenantiaeth ac, yn y senario gwaethaf, gallech gael eich troi allan o'ch eiddo.  Nid yw hyn yn rhywbeth y byddai'r Cyngor yn dymuno ei wneud ac, felly, y peth gorau i chi a'r Cyngor yw cydymffurfio â'r gwaith adnewyddu i'r eiddo.  Dylid cyfeirio unrhyw bryderon i'r Cyngor cyn dechrau unrhyw waith fel y gellir eu trafod ymhellach.

Beth yw cynlluniau "budd cymunedol"?

Mae Cyngor Sir y Fflint a'n contractwyr yn ymrwymedig i sicrhau bod yr economi leol yn gweld y gwerth mwyaf o bob ceiniog a wariwyd ar y gwaith i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru. 

Mae cymalau bellach wedi'u cynnwys ym mhob prif gontract, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr sy'n gweithio gyda'r Gwasanaeth Tai ymrwymo i 'roi rhywbeth ychwanegol' yn ôl i'r economi leol trwy gynlluniau Budd Cymunedol. 

Gall cynlluniau gynnwys noddi prosiectau lleol megis gerddi cymunedol a thimau chwaraeon, neu adnewyddu ysgolion, neuaddau pentref, canolfannau cymunedol, ac ati.

Gall Buddion Cymunedol hefyd gynnwys cyflogi gweithwyr lleol, sefydlu cynlluniau prentisiaeth a phrynu stoc a chyflenwadau gan fusnesau lleol. 

Mae rhai storïau Budd Cymunedol i'w gweld isod:

16 Chwefror 2016 – Creu Cyfleoedd Lleol
23 Chwefror 2016 – Mae Academi Prentisiaid Sir y Fflint yn siâp
29 Chwefror 2016 – Mwy o brentisiaid lleol!
15 Gorffennaf 2016 – Cymunedau'n elwa o geginau newydd
1 Rhagfyr 2016 - Gwaith yn yr Arfaeth Sir y Fflint  Llwyddiant yr Academi Brentisiaid
14 Mehefin 2017 –Gardd gymunedol yn blodeuo

Welsh Government Logo


  • Dogfennau perthnasol
  • Tai