Alert Section

Diwylliant a Hamdden

Twmpdaith - 23.07.26 - 7:30pm
Neuadd Gwernymynydd, CH7 4AF

Dewch i Dwmpath yn Neuadd Gwernymynydd i fwynhau y band TwmpDaith sy'n cynnwys cerddorion a dawnswyr ifanc talentog!  Mae TwmpDaith yn rhan o brosiect WYTH, sef prosiect i hyrwyddo dawnsio traddodiadol Cymreig.  

Bydd Dawnswyr Delyn yn cynnal bar a raffl ar y noson gydag elw'r noson yn mynd tuag at Gronfa Meinir (Arweinydd Dawnswyr Delyn a un o diwtoriaid Twmpdaith).

Tocynnau

Mae’r Gymraeg yn un o'r ieithoedd lleiafrifol cryfaf yn Ewrop a chredir mai dyma’r iaith hynaf i oroesi yn Ewrop. Mae’n parhau i gael ei chlywed a’i gweld mewn cymunedau ar draws Sir y Fflint heddiw a beth bynnag yw eich gallu, mae yna lawer o fannau ble gallwch chi gymryd rhan.


Menter Iaith Fflint a Wrecsam

MenterIaithFflintLogo

Urdd FFAW - Fflint a WrecsamUrddFflintLogo

Yr Eisteddfod Genedlaethol

EisteddfodLogo

Theatr Clwyd

TheatrClwydLogo


Mae Hen Wlad Fy Nhadau

Yma yng Nghymru, rydym wrth ein bodd yn canu’r anthem Genedlaethol “Mae Hen Wlad Fy Nhadau (Land of My Fathers)”, pa un a ydym yn gallu siarad Cymraeg ai peidio.

Gallwch glywed yr anthem yn cael ei chanu’n angerddol a gyda balchder cyn gemau rygbi a digwyddiadau cenedlaethol eraill.  Mae clywed torf yn canu’r anthem yn gallu bod yn brofiad emosiynol iawn.  


Gallwch ganfod mwy am yr anthem yma.

Rhowch gynnig arni a gwrando ar yr anthem a dysgu’r geiriau yma, felly gallwch ymuno i’w chanu y tro nesaf y byddwch yn ei chlywed.