Alert Section

Dysgu Cymraeg

Cymraeg. Mae’n perthyn i bawb. Mae dysgu a siarad Cymraeg yn ehangu gorwelion, yn agor mwy o ddrysau ac yn rhoi synnwyr o berthyn i wlad sydd â chanrifoedd o hanes.

Gyrfa Cymru – Rhai o Fanteision Dysgu Cymraeg

Meddwl am ddysgu Cymraeg? Beth bynnag eich dull dysgu, mae yna gyfleoedd i bawb.



  • Noson Gymunedol Gymraeg
    Dydd Iau - olaf y mis - 7:30yp
    Tafarn Castell Rhuthun, Yr Wyddgrug, 75 Stryd Newydd, CH7 1NY
    Mwynhewch noson gymunedol Gymraeg yng Nghastell Rhuthun ar ddydd Iau olaf o bob mis! Cyfle i sgwrsio yn Gymraeg, canu a mwynhau cerddoriaeth.
  • Sgwrs a Diod
    Dydd Mawrth - trydedd wythnos y mis - 6:00yp i 7:30yp
    Theatr Clwyd, CH7 1YA
    Dewch i fwynhau noson yn Theatr Clwyd yn sgwrsio gydag eraill gan ymarfer eich Cymraeg.
    Croeso i bawb o bob lefel!
  • Symud Gyda Tedi
    Bob dydd Gwener - 9:30yb i 11:00yb
    Ysgol Croes Atti, Stryd Plymouth Street, Shotton, CH5 1JD
    Dewch i fwynhau stori a gemau mewn sesiwn Symud Gyda Tedi yn Ti a Fi Shotton. 
  • Cylch Ti a Fi
    Mae Cylch Ti a Fi yn cynnig gyfle i chi gwrdd yn rheolaidd gyda rhieni/gwarchodwyr a phlant eraill yn Wrecsam a Sir y fflint.
    Siawns i gymdeithasu a chwrdd â phobl mewn awyrgylch Gymraeg anffurfiol.
    Dysgwch fwy

Oeddech chi’n gwybod?

Mae newid rhwng y tudalennau Cymraeg a Saesneg ar Hwb yn hawdd.

Cliciwch ar y botwm ‘English’ ar frig y dudalen, neu cliciwch yma.

Weithiau gall hyn fod yn ffordd wych i’ch helpu chi wella’ch Cymraeg ac ymgyfarwyddo efo’r iaith.

Ysbrydoliaeth a Chymhellia

Ysbrydoliaeth a Chymhellia